Eluned Morgan AC, Gweinidog y Gymraeg a Chysylltiadau Rhyngwladol
Heddiw rwy’n cyhoeddi ein hadroddiad blynyddol cyntaf o dan strategaeth 'Cymraeg 2050: miliwn o siaradwyr', strategaeth hirdymor Llywodraeth Cymru ar gyfer y Gymraeg.
Blwyddyn ariannol 2017-18 oedd blwyddyn cyhoeddi 'Cymraeg 2050' a bwrw ati i weithredu er mwyn gosod y sylfeini angenrheidiol i wneud cynnydd tuag at y targed.
Roedd 'Cymraeg 2050' yn disodli 'Iaith fyw: iaith byw', strategaeth y Gymraeg Llywodraeth Cymru rhwng Ebrill 2012 a diwedd Mawrth 2017. Wrth i swyddogion fireinio a pharatoi 'Cymraeg 2050', cafodd 'Iaith fyw: iaith byw' ei hymestyn am 3 mis ychwanegol hyd at Orffennaf 2017. Mae’r cyfnod a gwmpesir gan yr adroddiad hwn felly’n cynnwys 3 mis o weithredu o dan y strategaeth flaenorol honno.
Mae’r gweithgareddau hynny nad oedd eisoes wedi dod i ben o dan 'Iaith fyw' wedi parhau o dan 'Cymraeg 2050', ac adroddir ar y gweithgareddau hynny o dan y 3 thema fel y’u hamlinellir yn y strategaeth newydd.
Mae’r gweithgareddau hyn yn gosod sylfaen gadarn ac, ar y cyd â’r camau newydd uchelgeisiol rydym yn eu cymryd mewn amrywiaeth o feysydd polisi, yn helpu i osod y trywydd at filiwn o siaradwyr.
Cymraeg 2050
Lansiwyd 'Cymraeg 2050' ym mis Gorffennaf 2017. Mae’n amlinellu dull hirdymor Llywodraeth Cymru o gael miliwn o siaradwyr Cymraeg erbyn 2050. Nodwyd yr ymrwymiad hwn hefyd yn Symud Cymru Ymlaen 2016–2021, y Rhaglen Lywodraethu.
Er mwyn gwireddu’r weledigaeth hon, mae’r strategaeth yn cynnwys tair thema strategol:
- Thema 1: Cynyddu nifer y siaradwyr
- Thema 2: Cynyddu’r defnydd o’r Gymraeg
- Thema 3: Creu amodau ffafriol – seilwaith a chyd-destun
Mae’r adroddiad yn dilyn trefn y themâu hyn.