Alun Davies, Gweinidog y Gymraeg a Dysgu Gydol Oes
Heddiw, rwyf wedi cytuno i gyhoeddi ein hadroddiad blynyddol ar gyfer 2015-16 mewn perthynas â Strategaeth Llywodraeth Cymru ar gyfer y Gymraeg.
Rhoddodd y datganiad polisi Iaith fyw; iaith byw – Bwrw Mlaen, a gyhoeddwyd ym mis Awst 2014, ffocws penodol ar ein blaenoriaethau fel Llywodraeth wrth weithredu’r Strategaeth dros y tair mlynedd hyd ddiwedd cyfnod y strategaeth ym mis Mawrth 2017. Mae’r adroddiad hwn, felly, yn crynhoi’r hyn a gyflawnwyd yn ôl y blaenoriaethau hynny, a thrwy hynny gyfrannu tuag at amcanion chwe maes strategol Iaith byw: iaith fyw.
Eleni, mae’r adroddiad hefyd yn adrodd ar y datblygiadau diweddaraf mewn perthynas â’r Strategaeth Addysg Cyfrwng Cymraeg. Mae hynny’n adlewyrchu’r berthynas agos sy’n bodoli rhwng y ddwy Strategaeth, ac yn arwydd o fy mwriad dros y flwyddyn sydd i ddod i ddatblygu gweledigaeth newydd ar gyfer y Gymraeg sy’n pontio addysg a defnydd iaith.