Neidio i'r prif gynnwy

Y Gwir Anrh. Carwyn Jones AC, Prif Weinidog Cymru

Cyhoeddwyd gyntaf:
17 Gorffennaf 2015
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2011 i 2016

Heddiw, rwyf wedi cytuno i gyhoeddi ein hadroddiad blynyddol ar gyfer 2014-15 mewn perthynas â strategaeth y Gymraeg Iaith fyw: iaith byw. Mae Adran 78 o Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006 yn gosod dyletswydd statudol ar Weinidogion Cymru i fabwysiadu Strategaeth Iaith Gymraeg, ac ar ôl pob blwyddyn i gyhoeddi adroddiadau yn amlinellu sut cafodd y cynlluniau a nodir yn y Strategaeth eu gweithredu yn ystod y flwyddyn honno.

Eleni, yn ogystal ag adrodd yn erbyn pwyntiau gweithredu Iaith fyw: iaith byw, mae’r ddogfen hefyd yn adrodd ar y camau cychwynnol a gymerwyd mewn perthynas â’r themâu strategol yn natganiad polisi Bwrw Mlaen, a gyhoeddwyd ym mis Awst 2014. Roedd Bwrw Mlaen yn cymryd i ystyriaeth nifer o’r datblygiadau ers cyhoeddi’r strategaeth yn 2012, ac yn esbonio’r hyn y byddem yn hoelio’n sylw arno dros y tair blynedd oedd i ddod.

Mae’r adroddiad blynyddol yn dangos ein bod nid yn unig wedi cymryd camau cadarnhaol mewn perthynas â’n hymrwymiadau Iaith fyw, ond inni hefyd wneud cychwyn cadarn ar weithredu amcanion Bwrw Mlaen.  

Cyhoeddir yr adroddiad hwn ar Strategaeth y Gymraeg ar yr un pryd â’r adroddiad blynyddol ar y Strategaeth Addysg Cyfrwng Cymraeg, ac rwy’n eich annog i droi at y ddogfen honno i gael rhagor o fanylion am ein camau yn y maes hwnnw.