Neidio i'r prif gynnwy

Carl Sargeant, Gweinidog Llywodraeth Leol a Chymunedau

Cyhoeddwyd gyntaf:
6 Mawrth 2013
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2011 i 2016

Heddiw, dydd Mercher 6 Mawrth, mae Archwilydd Cyffredinol Cymru wedi cyhoeddi ei adroddiad i’r prosesau a ddilynodd Cyngor Caerffili wrth bennu cyflog Prif Swyddogion. Mae’n gwbl briodol fod yr Archwilydd Cyffredinol wedi ymchwilio i’r mater hwn ac wedi cyflwyno adroddiad arno er budd y cyhoedd.

Rwy’n disgwyl i bob corff cyhoeddus gyfiawnhau penderfyniadau i gynyddu cyflogau uwch-swyddogion ac i roi cyfrif priodol ohonynt. 

Mae’n hanfodol fod cyrff cyhoeddus yn dilyn y gweithdrefnau cywir wrth wneud penderfyniadau o’r fath. 

Dylai’r cyhoedd allu gweld bod penderfyniadau mor bwysig â hyn yn cael eu gwneud mewn ffordd dryloyw, a’u bod yn destun craffu trylwyr ac effeithiol. Mae’n annerbyniol fod unrhyw benderfyniadau o’r fath yn cael eu gwneud “y tu ôl i ddrysau caeedig”.

Er ei bod yn gwbl briodol mai’r awdurdod lleol sy’n gyfrifol am gyflogau, yn yr achos hwn mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili wedi methu â chyflawni ei gyfrifoldeb i ddilyn y gyfraith wrth wneud ei benderfyniad.

Rwyf wedi ysgrifennu at Arweinydd y Cyngor heddiw yn gofyn am gyfarfod brys er mwyn cael sicrwydd fod Cyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili yn llwyr sylweddoli bod angen prosesau penderfynu tryloyw ac effeithiol; bod penderfyniadau yn destun craffu trylwyr ac effeithiol; ac na chaiff y sefyllfa a amlinellir yn adroddiad Archwilydd Cyffredinol Cymru fyth ei hailadrodd. 

Rwy’n bryderus iawn fod cyngor cyfreithiol a roddwyd o fewn yr awdurdod lleol wedi’i ystyried yn anghyfreithlon. Disgwyliaf dderbyn ymateb diymdroi.