Neidio i'r prif gynnwy

Lesley Griffiths, Gweinidog dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol

Cyhoeddwyd gyntaf:
19 Gorffennaf 2012
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2011 i 2016


Heddiw (19 Gorffennaf 2012), cyhoeddir Adolygiad o Orfodi Cyfraith Bwyd yng Nghymru gan yr Asiantaeth Safonau Bwyd. Rhennir copi o’r adroddiad ac ymateb Llywodraeth Cymru gydag Aelodau’r Cynulliad er gwybodaeth.
Ar 25 Awst 2010, gofynnodd Prif Weinidog Cymru i’r Asiantaeth Safonau Bwyd gynnal adolygiad o orfodaeth cyfraith bwyd ledled Cymru. Roedd yr adroddiad yn canolbwyntio ar dri maes penodol:
  • Asesiad o effeithiolrwydd y systemau presennol.
  • Disgrifio sut y mae dyrannu adnoddau’n gysylltiedig â chanlyniadau mesuradwy.
  • Cynghori ar p’un a oes modelau eraill a fyddai’n fwy effeithiol o ran diogelu’r cyhoedd, sicrhau gwell gwerth am arian, darparu mwy o gysondeb o ran gorfodaeth neu wella rheolaeth neu lywodraeth gyffredinol y gwasanaeth.
Cyflwynodd yr Asiantaeth Safonau Bwyd ei hadroddiad terfynol ar adolygiad o Orfodi Cyfraith Bwyd yng Nghymru ar 20 Medi 2011. Yn y cyflwyniad, comisiynodd y Prif Weinidog atodiad i’r adroddiad i ystyried opsiynau ar gyfer creu gwasanaeth cenedlaethol gorfodi cyfraith bwyd i Gymru. Cyflawnodd yr Asiantaeth Safonau Bwyd y gwaith hwn a’i gyflwyno i’r Prif Weinidog ar 15 Rhagfyr 2011.
Gofynnodd y Prif Weinidog i mi arwain ar ymateb Llywodraeth Cymru. Rwyf, felly, wedi ystyried yr adroddiad, ynghyd â’r atodiad.
Gallaf gadarnhau nad wyf, ar hyn o bryd, am wneud unrhyw newidiadau mawr i’r ffordd y cyflawnir gwaith rheoli diogelwch bwyd yng Nghymru. Mae hyn yn cynnwys yr opsiwn o greu corff newydd i orfodi diogelwch bwyd yng Nghymru. Credaf ei bod yn bwysig i ni aros am adolygiad ehangach yr Asiantaeth Safonau Bwyd sy’n pwyso a mesur ffyrdd amgen o gyflawni’r gwaith o reoli diogelwch bwyd ar gyfer y Deyrnas Unedig i gyd, ac ystyried yr adolygiad hwnnw, cyn cynnig unrhyw newidiadau yng Nghymru.
O ran 3 phrif argymhelliad yr adroddiad gwreiddiol, nodaf ymateb Llywodraeth Cymru isod:-

Argymhelliad 1 (Nis derbynnir) 

Dylid ail bwysoli’r fformiwla a ddefnyddir i bennu’r gyllideb ar gyfer gorfodi diogelwch bwyd gan roi ystyriaeth i nifer y lleoliadau gwerthu bwyd sydd ym mhob ardal awdurdod lleol yn hytrach na maint y boblogaeth.Ymateb: Nid yw’r Asiantaeth Safonau Bwyd wedi darparu fformiwla a byddai angen gwneud hyn i ddeall y manylion. Nid ydym ni wedi ein hargyhoeddi y byddai hyn yn fuddiol iawn, yn enwedig gan nad yw’r swm presennol ar hyn o bryd yn cael ei wario ar ddiogelwch bwyd.

Argymhelliad 2 (Derbynnir yn rhannol) 

Dylid annog Awdurdodau Lleol yng Nghymru i gynnal lefel o gyllido ar gyfer timau gorfodi bwyd nad yw’n is na’r dyraniad a wneir i’r gwasanaeth hwn. Dylai’r Asiantaeth Safonau Bwyd gyhoeddi, bob blwyddyn, gymhariaeth o’r Asesiad yn Seiliedig ar Ddangosydd a’r Gwariant Refeniw Net ar orfodi cyfraith bwyd gan awdurdodau lleol yng Nghymru.

Ymateb: Ystyriwn y gellid gweld “annog” fel rhyw fath o ‘orfodaeth drwy’r drws cefn’. Fodd bynnag, hoffem weld awdurdodau lleol yn gwario’u dyraniadau’n gyfan gwbl ar ddiogelwch bwyd ond hoffem archwilio sut orau i gyflawni hyn. Rydym yn cynnig ystyried y mater ymhellach yng nghyd-destun y trafodaethau yr ydym ar hyn o bryd yn eu cynnal gydag awdurdodau lleol ar sut i gyflwyno mwy o gydweithio yn y gwaith o weinyddu a chyflawni gwasanaethau iechyd amgylcheddol.

Argymhelliad 3 (Derbynnir) 

Mae’r Asiantaeth Safonau Bwyd yn argymell ffurfio gwasanaeth cenedlaethol archwilio a gorfodi bwyd fel rhan o’r Asiantaeth Safonau Bwyd i ganolbwyntio ar orfodi effeithiol a chyson yn seiliedig ar risg.

Ymateb: Mae’r Asiantaeth Safonau Bwyd yn nodi bod Cyfarwyddwyr Diogelu’r Cyhoedd Cymru wedi cytuno nad oes digon o swyddogion i sicrhau gwaith cyson, er bod y bobl sy’n darparu’r gwasanaeth ar hyn o bryd yn meddu ar arbenigedd. Rydym yn cytuno y byddai canoli gorfodi cyfraith bwyd yng Nghymru yn fodel cyflawni gwell ar gyfer y gwasanaeth arbenigol hwn ond hoffem archwilio sut orau i gyflawni hyn. Cynigiwn ystyried y mater ymhellach yng nghyd-destun y trafodaethau yr ydym ar hyn o bryd yn eu cynnal gydag awdurdodau lleol ar sut i gyflwyno mwy o gydweithio yn y gwaith o weinyddu a chyflawni gwasanaethau safonau masnach.

Byddaf yn cwrdd â’r Arglwydd Jeff Rooker, Cadeirydd yr Asiantaeth Safonau Bwyd, ym mis Medi i drafod yr adolygiad a’r cynnydd a wneir o ran yr argymhellion.

Rwy’n ddiolchgar am waith yr Asiantaeth Safonau Bwyd.