Neidio i'r prif gynnwy

Julie James, Arweinydd y Tŷ a'r Prif Chwip

Cyhoeddwyd gyntaf:
6 Mehefin 2018
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Mae gwaith da iawn yn cael ei wneud yng Nghymru ym maes ymchwil ac arloesi, gyda nifer o enghreifftiau o ddylanwad a llwyddiant cenedlaethol a rhyngwladol. Mae'n hanfodol ein bod yn parhau i adeiladu ar y llwyddiant hwn, wrth inni ymateb i'r cyd-destun ymchwil cyfnewidiol o fewn y DU a chanlyniadau posibl Brexit.

Heddiw, rydym wedi cyhoeddi'r Adolygiad o waith Ymchwil ac Arloesi wedi'i ariannu gan Lywodraeth yng Nghymru, o dan arweiniad yr Athro Graeme Reid o Goleg y Brifysgol Llundain. 

https://gov.wales/topics/science-and-technology/science/reid-review/?lang=cy

Mae'r adolygiad yn rhoi dadansoddiad clir ond soffistigedig o’r heriau a’r cyfleoedd sy’n bodoli yn awr ac yn y dyfodol yng Nghymru ac ar draws gweddill y DU. Mae’n cynnwys dadansoddiad o’r cryfderau, y bylchau a’r potensial yn y dyfodol i gynnal a datblygu gweithgareddau ymchwil ac arloesi cadarn ledled Cymru.

Rydym yn cytuno, wrth weithio ar draws sectorau, y gall y Llywodraeth wneud mwy i sicrhau bod gwaith ymchwil yng Nghymru yn fwy amlwg ac â mwy o ddylanwad. Rydym yn derbyn yr holl argymhellion mewn egwyddor a byddwn yn mynd ati’n ddi-oed i ddatblygu’r argymhelliad i greu  presenoldeb yn Llundain i hyrwyddo gwaith Ymchwil ac Arloesi yng Nghymru.

Mae'r ddau argymhelliad arall yn gysylltiedig ag adnoddau'r dyfodol, y tu hwnt i gyllidebau presennol. Rydym yn croesawu'r cyfeiriad sydd wedi'i bennu yn yr argymhellion hyn, gan ein bod eisoes wedi ymrwymo i dderbyn, mewn egwyddor, argymhellion perthnasol Adolygiad Diamond. Rydym yn cydnabod, fodd bynnag, bod penderfyniadau polisi ac ariannu'r sefydliad newydd Ymchwil ac Arloesi yn y DU (UKRI) yn parhau i ddod i'r amlwg. Rydym wedi ymrwymo o hyd i ddylanwadu ar y newidiadau hyn ac ymateb iddynt, ar ran Cymru ac ymchwil ac arloesi yng Nghymru.

Cafodd yr adroddiad hwn ei gyhoeddi yn ystod yr ymgynghoriad technegol ar ein cynigion ar gyfer strwythur a dull gweithredu'r Comisiwn newydd ar gyfer Addysg Drydyddol ac Ymchwil Cymru, fel y gall bawb sy'n dymuno cyfrannu wneud hynny gydag ymwybyddiaeth o waith ac argymhellion yr Athro Reid.

Rwy’n ddiolchgar iawn am yr eglurder sy’n cael ei gynnig gan yr adroddiad hwn a hefyd yr argymhellion. Hoffwn ddiolch i’r Athro Reid yn ffurfiol, yn ogystal â diolch i'r panel amlwg o gynghorwyr fu'n ei gynorthwyo yn ei waith.