Carl Sargeant, y Gweinidog Cyfoeth Naturiol
Heddiw, rwyf wedi cyhoeddi’r adroddiad o’r Adolygiad Annibynnol o’r Tirweddau Dynodedig yng Nghymru.
Ddiwedd mis Medi y llynedd, fe gomisiynais banel o arbenigwyr, dan gadeiryddiaeth yr Athro Terry Marsden, i werthuso a deall yn well a oes gan ein tirweddau dynodedig yng Nghymru – ein Parciau Cenedlaethol a’n Hardaloedd o Harddwch Naturiol Eithriadol – y dibenion, y rheolaethau a’r trefniadau llywodraethol i fodloni cyfleoedd sylweddol a’r heriau yr ydym yn eu hwynebu heddiw ac yn y dyfodol.
Rwyf am i’r ardaloedd hyn – ardaloedd y mae eu harddwch godidog yn cael ei werthfawrogi - fod yn dirweddau llawn bywyd sy’n cynnwys cymunedau bywiog a chadarn lle mae digon o gyfleoedd i wneud gweithgareddau yn yr awyr agored ac ecosystemau cyfoethog.
Rwy’n falch bod yr adroddiad hwn yn ceisio ystyried pwysigrwydd Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol a Bil yr Amgylchedd i gysylltu a chynyddu buddiannau cymdeithasol, economaidd ac amgylcheddol yr ardaloedd pwysig hyn. Mae’r Panel yn cytuno â’m barn i ei bod hi’n hen bryd inni feddwl am ffordd newydd o greu dibenion ac o lywodraethu ac rwy’n cytuno â’u crynodeb hwy bod hyn yn angenrheidiol fel bod modd i ni ymateb yn well i heriau amgylcheddol sy’n mynd yn fwyfwy cymhleth, anghydraddoldebau yn y sector iechyd a lles a chreu cymunedau gwledig sy’n fwy bywiog.
Mae’r adroddiad yn gwneud 69 argymhelliad sy’n cynnwys llawer iawn o gynigion a sylwadau ar ddibenion, egwyddorion, gweledigaeth, modelau, cynllunio a chyllido. Oherwydd maint a chwmpas sylweddol yr argymhellion, bydd yn rhaid mynd ati i wneud rhagor o waith i ddeall y budd y gallan nhw greu a’r canlyniadau.
Rwyf wedi gofyn i’r Arglwydd Dafydd Ellis-Thomas AC arwain Gweithgor Tirweddau’r Dyfodol fydd yn cynnwys cynrychiolwyr o’r parciau cenedlaethol, Ardaloedd o Harddwch Naturiol Eithriadol, grwpiau diddordeb, busnesau a llywodraeth leol. Bydd y grŵp yn archwilio’r argymhellion hyn a’r achos dros ddiwygio sy’ncyd-fynd â’r blaenoriaethau ar gyfer diwygio gwasanaethau cyhoeddus yng Nghymru. Byddan nhw’n cyflwyno eu canfyddiadau mewn adroddiad y flwyddyn nesaf.