Vaughan Gething, Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol
Cyflwynodd Donna Ockenden ganfyddiadau ei Hadolygiad Llywodraethu i Fwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr y bore yma, ac mae ei hadroddiad bellach wedi'i gyhoeddi ar eu gwefan. Cytunodd y Bwrdd Iechyd ar gylch gorchwyl yr adolygiad ym mis Tachwedd 2015, ac rwy'n falch iawn bod yr adroddiad bellach wedi'i gwblhau ac y gall y Bwrdd ystyried y canfyddiadau yn fanwl, fel rhan o'i gynlluniau gwella ehangach.
Mae dros 4 blynedd a hanner wedi pasio ers i bryderon gael eu codi am y tro cyntaf am y gofal a'r driniaeth ar ward Tawel Fan, ac mae'r adolygiad hwn wedi pwyso'n helaeth ar ganfyddiadau adroddiadau blaenorol. Daw â'r rhain ynghyd mewn un man defnyddiol, gan roi cyfle i ystyried y gwersi a ddysgwyd o'r gyfres hon o ymchwiliadau ac adolygiadau, ar gyfer Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr a'r GIG yn ehangach.
Mae'r adolygiad hwn yn atgyfnerthu'r hyn a wyddom eisoes am sefyllfa'r bwrdd iechyd, a'r rhesymau dros ei osod dan fesurau arbennig. Mae hefyd yn adlewyrchu’r daith sylweddol y mae'r Bwrdd Iechyd yn dal i fod arni.
Mae'r bwrdd iechyd yn sefydlu Grŵp Gwella, dan arweiniad y Cyfarwyddwr Gweithredol Nyrsio a Bydwreigiaeth, i fwrw ymlaen â'r gwaith sy'n ofynnol mewn ymateb i Adolygiad Llywodraethu Donna Ockenden ac Ymchwiliad HASCAS.
Dywedais yn glir yn fy natganiadau blaenorol fy mod yn disgwyl i Fwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr weithredu ar yr argymhellion ac adrodd ar y cynnydd fel rhan o’r fframwaith gwella dan y mesurau arbennig, a bydd hyn yn cynnwys camau gweithredu mewn ymateb i Adroddiad Llywodraethu Donna Ockenden.
Fe fyddaf i, y cadeirydd newydd pan fydd yn ymgymryd â'i swydd, y Bwrdd a’r Prif Weithredwr yn canolbwyntio nawr ar symud ymlaen, gan roi pwyslais ar sicrhau bod y cymorth angenrheidiol yn ei le i adeiladu ar y gwaith hyd yma a gwneud y gwelliannau angenrheidiol ar fyrder er lles pobl gogledd Cymru a staff Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr.