Mark Drakeford AS, Prif Weinidog
Yr ydym wedi cyflwyno cyfyngiadau lleol mewn 15 ardal awdurdod lleol ac yn Llanelli i reoli cynnydd cyflym a sylweddol mewn achosion o’r coronafeirws. Caiff y cyfyngiadau hyn eu hadolygu’n ffurfiol bob wythnos a gwnaethom hynny eto ddoe.
Daeth y cyfyngiadau cyntaf i rym ym mwrdeistref Caerffili bron fis yn ôl, gyda’r diweddaraf yng Ngogledd Cymru wythnos yn ôl.
Y duedd gyffredinol yng Nghymru yw bod y sefyllfa yn gwaethygu ac mae’r duedd saith niwrnod yn y rhan fwyaf o ardaloedd lle mae cyfyngiadau lleol ar waith yn dangos bod achosion covid-19 wedi cynyddu. Fodd bynnag, mae rhai arwyddion calonogol bod y sefyllfa yn sefydlogi yn yr awdurdodau lleol yn rhanbarth Gwent, yn Llanelli ac ym Mro Morgannwg.
Gan weithio’n agos gydag awdurdodau lleol ac arbenigwyr iechyd cyhoeddus, yr ydym wedi dod i’r casgliad bod cyd-destun iechyd y cyhoedd yn golygu ei bod yn rhy fuan i godi’r cyfyngiadau, a byddant ar waith am o leiaf saith diwrnod arall.
Fodd bynnag, yr wyf yn ymwybodol bod yn rhaid i’n dull gofalus fod yn gymesur hefyd. Mae’n hanfodol, pryd bynnag y byddwn yn gosod cyfyngiadau ar ryddid pobl i gwrdd â theulu a ffrindiau, ein bod yn meddwl yn ofalus am yr amodau y byddai angen i ni eu gweld – a’r dull gweithredu – ar gyfer lleddfu’r cyfyngiadau hynny.
Yn dilyn cyfarfodydd gyda llywodraeth leol, yr heddlu a chydweithwyr o’r GIG ddoe, trafodwyd amrywiaeth o fesurau posibl lle gellid dechrau lleddfu cyfyngiadau lleol mewn ardaloedd lle mae cylchrediad y feirws yn gostwng yn gyson. Rhaid bwrw ymlaen â’r rhain yn awr gydag awdurdodau lleol eraill ac arweinwyr iechyd y cyhoedd. Rhaid inni hefyd ystyried cyhoeddiadau a ddisgwylir gan Lywodraeth y DU ddydd Llun, a allai gael effaith uniongyrchol ar yr ardaloedd cynghorau lleol hynny sydd ar hyd y ffin rhwng Cymru a Lloegr. Gwnaf ddatganiad pellach ar ôl i’r trafodaethau a’r cyhoeddiadau hynny gael eu cynnal.
Rydym wedi bod yn monitro yn ofalus achosion o’r coronfeirws yng Ngwynedd lle rydym wedi gweld clwstwr sylweddol o achosion yn datblygu yn ardal Bangor – mae’r gyfradd achosion tua 400 o achosion i bob 100,000 o bobl. Ymddengys fod cysylltiad agos rhwng achosion a phobl ifanc a’r boblogaeth myfyrwyr.
Yn ardal ehangach yr awdurdod lleol, ceir tystiolaeth o drosglwyddo’r coronafeirws ledled y sir ond mae’r gyfradd achosion yn amrywio o 152 o achosion i bob 100,000 yn Arfon, sy’n cynnwys Bangor, 55 achos i bob 100,000 o bobl yn Nwyfor a 18 achos i bob 100,000 o bobl ym Meirionydd.
Cyfarfu’r Gweinidog Iechyd, y Gweinidog Tai a Llywodraeth Leol a minnau â’r awdurdod lleol, y brifysgol, yr heddlu, y GIG ac arbenigwyr iechyd y cyhoedd i drafod y sefyllfa ym Mangor a Gwynedd ac a oes angen cyfyngiadau lleol i reoli lledaeniad y coronafeirws a diogelu iechyd pobl.
Yn dilyn trafodaethau helaeth, rydym wedi dod i’r casgliad ar sail ffynhonnell y trosglwyddiad a’r ffaith bod y rhan fwyaf o’r achosion wedi’u clystyru o amgylch Bangor ar hyn o bryd, byddwn yn cyflwyno cyfyngiadau lleol – tebyg i’r rhai sydd ar waith mewn rhannau eraill o Gymru – ym Mangor i ddechrau.
Daw’r cyfyngiadau hyn i rym am 6pm ddydd Sadwrn 10 Hydref.
Cawn drafodaethau pellach gyda’r awdurdod lleol a’r tîm rheoli digwyddiadau ddydd Sadwrn am y sefyllfa ehangach yn Arfon a Dwyfor.
Drwy wneud y dewisiadau cywir a dilyn y rheolau gallwn leihau nifer yr achosion o’r feirws. Am y tro, rhaid inni ofyn i drigolion yr ardaloedd hyn i barhau i ddangos y gwydnwch sydd wedi nodweddu ein hymdrechion hyd yma.
Rwy’n parhau i fod yn ddiolchgar iawn i bobl Cymru am yr holl ymdrechion y maent wedi’u gwneud ac yn parhau i’w gwneud.