Neidio i'r prif gynnwy

Lesley Griffiths, y Gweinidog Cymunedau a Threchu Tlodi

Cyhoeddwyd gyntaf:
17 Mawrth 2016
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2011 i 2016

Mae'r berthynas rhwng Llywodraeth Cymru a'r Trydydd Sector yn dibynnu ar ymddiriedaeth a pharch at ei gilydd. Mae Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo i adeiladu ar y berthynas hanfodol hon, sydd wedi datblygu dros gyfnod hir, er lles pobl a chymunedau yng Nghymru. 
Mae Llywodraeth Cymru yn ymwybodol o fwriad Llywodraeth y DU i gyflwyno amodau grant newydd. Pe bai'r grantiau hyn yn cael eu rhoi ar waith, byddai'r sefydliadau sy'n cael grantiau gan y Llywodraeth yn cael eu gwahardd rhag defnyddio'r cyllid hwn i lobïo'r Llywodraeth a'r Senedd. 
Bydd Llywodraeth Cymru yn parhau i ddiogelu gallu sefydliadau'r Trydydd Sector yng Nghymru i gymryd rhan mewn deialog adeiladol trwy gefnogi llunio polisïau. Rydym yn credu bod y termau a'r amodau safonol presennol yn effeithiol ac yn gynhwysfawr o ran sicrhau bod arian cyhoeddus yn cael ei ddefnyddio at ddibenion cymeradwy. 
Mae Llywodraeth Cymru dal wedi ymrwymo i weithio mewn partneriaeth â'r Trydydd Sector trwy sawl sianel, yn cynnwys Cyngor Partneriaeth y Trydydd Sector. Trwy wneud hyn, byddwn yn dilyn yr egwyddorion a bennwyd yn ein Cynllun a Chod Ymarfer Trydydd Sector ar gyfer Cyllido'r Trydydd Sector.