Neidio i'r prif gynnwy

Eluned Morgan AS, Y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol

Cyhoeddwyd gyntaf:
16 Mehefin 2021
Diweddarwyd ddiwethaf:

Mae cyfrifon yr un ar ddeg o gyrff y Gwasanaeth Iechyd Gwladol (GIG) yng Nghymru ar gyfer 2020-21 wedi'u harchwilio gan Archwilydd Cyffredinol Cymru, a heddiw cawsant eu gosod gerbron y Senedd. Fel yn y blynyddoedd diwethaf, cafodd cyfrifon Byrddau Iechyd Lleol ac Ymddiriedolaethau'r GIG eu paratoi o dan drefn ariannol tair blynedd y GIG a gyflwynwyd gan Ddeddf Cyllid y Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Cymru) 2014. Fel Awdurdod Iechyd Arbennig, nid yw Addysg a Gwella Iechyd Cymru (AaGIC) wedi'i gynnwys yn y Ddeddf honno, ac mae'n ofynnol i'r corff hwn fantoli'r gyllideb bob blwyddyn ariannol.

Er gwaetha heriau’r pandemig, llwyddodd naw o’r un ar ddeg o sefydliadau’r GIG weithredu o fewn eu cyllidebau yn 2020-21. Dim ond Bwrdd Iechyd Hywel Dda a Bwrdd Iechyd Prifysgol Bae Abertawe a fethodd â mantoli eu cyllidebau yn ystod y flwyddyn, gan adrodd diffygion yn unol â’u cynlluniau gwreiddiol a ddatblygwyd cyn y pandemig. Yr alldro cyffredinol ar gyfer GIG Cymru oedd diffyg o £48m, i lawr o £89m yn 2019-20.

Llwyddodd chwe o’r deg bwrdd iechyd ac ymddiriedolaeth y GIG sydd wedi’u cynnwys yn Neddf 2014 i gydymffurfio â’r ddyletswydd statudol i fantoli’r gyllideb drwy weithio o fewn eu cyllidebau yn ystod y cyfnod asesu tair blynedd rhwng mis Ebrill 2018 a mis Mawrth 2021. Llwyddodd AaGIC hefyd i gydymffurfio â’i ddyletswydd flynyddol i fantoli ei gyllideb yn 2020-21. Yn ogystal â Bwrdd Iechyd Hywel Dda a Bwrdd Iechyd Prifysgol Bae Abertawe, a adroddodd ddiffygion yn 2021-21, methodd Bwrdd Iechyd Betsi Cadwaladr a Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a’r Fro hefyd i gyflawni eu dyletswydd tair blynedd oherwydd diffygion a ysgwyddwyd mewn blynyddoedd blaenorol. Fel mewn blynyddoedd blaenorol, mae’r pedwar bwrdd iechyd sydd wedi methu â bodloni eu dyletswydd statudol i fantoli’r gyllideb ar gyfer y cyfnod asesu tair blynedd wedi cael barn amodol ar reoleidd-dra gan Archwilydd Cyffredinol Cymru ar gyfer eu cyfrifon yn 2020-21.

Rwy’n falch o weld y cynnydd y mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a’r Fro a Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr wedi’i wneud o ran dychwelyd at allu mantoli’r gyllideb yn ystod y flwyddyn. Fel y gwnaeth fy rhagflaenydd gyhoeddi llynedd, pan fydd y sefydliadau hyn wedi cyflawni eu dyletswydd tair blynedd i fantoli eu cyllideb, ni fydd yn ofynnol iddynt ad-dalu unrhyw ddiffygion hanesyddol y maent wedi’u hysgwyddo. Rwy’n disgwyl i Fwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a’r Fro fod yn y sefyllfa honno erbyn diwedd y flwyddyn ariannol hon.

Mae fy swyddogion yn paratoi adroddiad cryno o’r Byrddau Iechyd, Ymddiriedolaethau’r GIG ac Addysg a Gwella Iechyd Cymru, a fydd yn cael ei gyhoeddi ym mis Awst ar ôl i Archwilydd Cyffredinol Cymru ei gymeradwyo.