Eluned Morgan, Y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol
Mae cyfrifon 11 o sefydliadau GIG Cymru ar gyfer 2021-22 wedi’u harchwilio gan Archwilydd Cyffredinol Cymru ac maent wedi'u gosod gerbron y Senedd heddiw.
Fel mewn blynyddoedd blaenorol, paratowyd cyfrifon byrddau iechyd lleol ac ymddiriedolaethau'r GIG o dan gyfundrefn ariannol dair blynedd y GIG a gyflwynwyd o dan Ddeddf Cyllid y GIG (Cymru) 2014.
Gan mai awdurdodau iechyd arbennig yw Addysg a Gwella Iechyd Cymru a Gofal Iechyd Digidol Cymru nid ydynt yn dod o dan y Ddeddf hon ac mae'n ofynnol iddynt fantoli'r gyllideb ym mhob blwyddyn ariannol. 2021-22 yw'r flwyddyn gyntaf i Gofal Iechyd Digidol Cymru.
Nid yw'r gwaith archwilio ar gyfrifon Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr wedi'i gwblhau eto.
Er gwaethaf yr heriau a achoswyd gan y pandemig, roedd naw o'r 11 o sefydliadau'r GIG yn gweithredu o fewn eu cyllidebau yn 2021-22. Adroddodd byrddau iechyd prifysgol Hywel Dda a Bae Abertawe am ddiffygion yn unol â'u cynlluniau cychwynnol a ddatblygwyd cyn y pandemig.
Fe wnaeth chwech o'r 10 bwrdd iechyd ac ymddiriedolaethau GIG sy’n dod o dan Ddeddf 2014 gydymffurfio â'r ddyletswydd statudol i fantoli eu cyllideb drwy weithredu o fewn eu cyllidebau dros y cyfnod asesu tair blynedd o fis Ebrill 2019 i fis Mawrth 2022. Fe wnaeth Addysg a Gwella Iechyd Cymru a Iechyd a Gofal Digidol Cymru hefyd gydymffurfio â'u dyletswydd flynyddol i fantoli eu cyllideb yn 2021-22.
Ni wnaeth byrddau iechyd prifysgol Hywel Dda a Bae Abertawe, a nododd ddiffygion yn 2021-22 a blynyddoedd blaenorol, gydymffurfio â’u dyletswydd tair blynedd i fantoli’r gyllideb oherwydd y diffygion hyn. Mae'n debygol na fydd Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr yn cyflawni’r targed o ran mantoli’r gyllideb pan gyhoeddir eu cyfrifon.
Fel mewn blynyddoedd blaenorol, mae'r byrddau iechyd sydd wedi methu â chyflawni eu dyletswydd statudol i fantoli eu cyllidebau am y cyfnod asesu o dair blynedd wedi cael barn amodol ar reoleidd-dra gan Archwilydd Cyffredinol Cymru ar eu cyfrifon ar gyfer 2021-22.
Yn ogystal, mae pob corff ac eithrio Ymddiriedolaeth GIG Gwasanaethau Ambiwlans Cymru, Addysg a Gwella Iechyd Cymru a Addysg a Gwella Iechyd Cymru a Gofal Iechyd Digidol Cymru yn destun barn amodol ynghylch rheoleidd-dra gwariant o ganlyniad i gyfarwyddyd Gweinidogol ar bensiynau uwch-glinigwyr. Nid yw hyn ond yn berthnasol i daliadau treth lwfans blynyddol sy'n deillio o gynnydd yn eu buddion a gronnwyd yn ystod y flwyddyn dreth a ddaeth i ben 5 Ebrill 2020. Barnwyd bod y gwariant hwn yn faterol ei natur ar ôl i Archwilydd Cyffredinol Cymru ei gymeradwyo.
Rwy'n falch o'r cynnydd y mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a'r Fro wedi'i wneud o ran adfer y sefyllfa ran mantoli ariannol yn ystod y flwyddyn. Mae’r bwrdd iechyd wedi cyflawni ei ddyletswydd tair blynedd i fantoli’r gyllideb am y tro cyntaf ers gweithredu Deddf 2014. Fel y cyhoeddwyd gan y cyn Weinidog Iechyd, ni fydd unrhyw ddiffygion hanesyddol yn ad-daladwy mwyach.
Mae fy swyddogion yn paratoi cynodeb o gyfrifon y byrddau iechyd, ymddiriedolaethau'r GIG ac Addysg a Gwella Iechyd Cymru, a chaiff ei gyhoeddi fis Awst ar ôl i Archwilydd Cyffredinol Cymru ei gymeradwyo.