Jane Hutt, Y Gweinidog Cyllid
Busnesau Bach a Chanolig (BBaChau) yw’r rhan helaeth o fusnesau yn y sector adeiladu. Mae llawer o’r rheini yn hanfodol yn y gadwyn gyflenwi wrth gyflawni contractau adeiladu yn y sector cyhoeddus. Mae cael at gyllid a llif arian yn hanfodol i’r is-gontractwyr lleiaf a dyw hi ond yn deg eu bod yn cael eu talu’n brydlon am y gwaith y maent yn ei wneud yn unol â’u perfformiad o dan gontract.
Felly, rwy’n cyhoeddi heddiw fod Cyngor Sir y Fflint, Cyngor Dinas a Sir Abertawe a Chyngor Bwrdeistref SiroI Torfaen i gyd wedi cynnig prosiectau adeiladu ar gyfer y sector cyhoeddus i roi prawf ar ddefnyddio Cyfrifon Banc Prosiectau (PBAs) yng Nghymru. Mae’r Cynghorau i gyd wedi nodi o leiaf un prosiect sy’n ymwneud ag ysgol o’u Rhaglen Buddsoddi mewn Ysgolion ar gyfer yr 21ain Ganrif ac mae’n bosib y bydd prosiectau adeiladu eraill yn treialu’r dull hwn hefyd. Mae’r dewis i fabwysiadu PBAs hefyd wedi’u hymgorffori i Fframwaith Gogledd Cymru ar gyfer Cyflawni Rhaglen Adeiladau Ysgolion y Dyfodol, sy’n cynnwys y chwe Awdurdod Lleol yn y Gogledd.
Mae cyflwyno PBAs mewn contractau adeiladu yn ymrwymiad a geir yn y Strategaeth Gaffael ar gyfer Adeiladu a gafodd ei hardystio gen i ym mis Gorffennaf 2013. Hefyd, mae hyn yn cefnogi Polisi Caffael Cymru a gyhoeddais ym mis Rhagfyr 2012 sy’n nodi y dylai cyrff cyhoeddus fabwysiadu arferion da wrth dalu.
Bydd defnyddio PBAs yn sicrhau bod prif gontractwyr ac is-gontractwyr yn cael eu talu’n brydlon am waith sy’n cael ei wneud. Bydd y cynlluniau peilot a wneir yma yng Nghymru yn rhoi sylfaen o dystiolaeth er mwyn i Lywodraeth Cymru allu llunio polisi a chanllawiau yn y dyfodol.
Rwy’n diolch i’r Grŵp Contractwyr Peirianneg Arbenigol yng Nghymru am eu cefnogaeth yn codi ymwybyddiaeth o’r heriau sy’n wynebu llawer o is-gontractwyr wrth sicrhau eu bod yn cael eu talu. Mae cefnogaeth y grŵp hwn wedi bod yn hollbwysig yn helpu i ddod o hyd i brosiectau peilot i dreialu PBAs yng Nghymru.
Dyma enghraifft arall o fy ymrwymiad i ddefnyddio’r polisi caffael cyhoeddus i alluogi busnesau bach i ffynnu drwy gyflawni contractau yng Nghymru.
Mae’r Strategaeth Gaffael ar gyfer Adeiladu a’r Cynllun Gweithredu ar gael ar y ddolen isod i’r Canllaw Cynllunio Caffael.
http://prp.wales.gov.uk