Mark Drakeford, Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid
Rwyf yn falch o roi gwybod ichi fod Nodyn Cyngor Caffael a Chanllawiau yn cael eu cyhoeddi i gefnogi polisi Llywodraeth Cymru ar Gyfrifon Banc Prosiectau. Mae'r polisi'n cryfhau ein dull gweithredu o ran hybu arferion busnes moesegol, gwneud Cymru'n lle da i weithio a gwneud busnes a chefnogi mentrau bach a chanolig (BbaChau) yn ein cadwyni cyflenwi i ffynnu.
Mae llawer o BBaChau Cymru'n chwarae rôl hanfodol wrth gyflenwi prosiectau'r sector cyhoeddus trwy drefniadau is-gontractio. Mae mynediad at gyllid a llif arian yn hanfodol i unrhyw fusnes yn enwedig busnesau llai sydd ag adnoddau cyfyngedig. Mae'n hanfodol felly fod cleientiaid y sector cyhoeddus yn sicrhau taliad teg a phrydlon, nid yn unig i'n contractwyr haen 1 ond drwy gydol eu cadwyni cyflenwi wrth gyflenwi contractau cyhoeddus.
Mae Cyfrifon Banc Prosiectau (PBAs) yn darparu mecanwaith i fodloni gofynion statudol ac maent yn mynd ymhellach wrth hwyluso taliad teg a phrydlon, symleiddio'r broses i gleientiaid, contractwyr ac isgontractwyr. Er bod PBAs wedi cael eu datblygu i fynd i'r afael ag arferion talu gwael yn y diwydiant adeiladu gellir eu cymhwyso mewn unrhyw gontract sy'n dibynnu ar is-gontractwyr.
Wrth lansio'r polisi newydd hwn, bydd Llywodraeth Cymru'n arwain trwy esiampl. O 1 Ionawr 2018 bydd yn ofynnol i PBA gael ei ddefnyddio, oni bai bod rheswm cryf dros beidio, ar yr holl gontractau adeiladu a seilwaith sy'n cael eu hariannu'n gonfensiynol, a chontractau gwasanaeth sy'n cael eu hariannu yn gyfan gwbl neu'n rhannol gan Lywodraeth Cymru gyda gwerth o £2m neu'n uwch ac sy'n cael eu cyflenwi gan Lywodraeth Cymru. Trwy gynnwys contractau gwasanaeth mae cwmpas ein polisi'n mynd y tu hwnt i gwmpas unrhyw weinyddiaeth arall yn y DU.
Rwyf hefyd yn atgoffa cyrff sector cyhoeddus Cymru am y gofyniad o dan Egwyddor 6 o Ddatganiad Polisi Caffael Cymru i ddefnyddio Cyfrifon Banc Prosiectau lle bo'n briodol, a'u hannog i ddefnyddio’r Nodyn Cyngor Caffael diwygiedig a'r canllawiau gweithredu ar Gyfrifon Banc Prosiectau i wneud hynny.
Rhaid diolch i Grŵp y Contractwyr Peirianneg Arbenigol (SEC) yng Nghymru am eu cefnogaeth wrth godi ymwybyddiaeth am yr heriau sy'n wynebu llawer o is-gontractwyr yn y diwydiant adeiladu wrth sicrhau taliad. Bu eu hymrwymiad i'r mater hwn yn un o'r ysgogwyr wrth gyhoeddi'r polisi a'r canllawiau ar weithredu PBA.
Mae cyhoeddiad heddiw'n enghraifft arall o ymrwymiad Llywodraeth Cymru i ddefnyddio polisi caffael cyhoeddus i sicrhau tegwch ac i alluogi busnesau llai i ffynnu trwy ddarparu contractau yng Nghymru.
Gellir gweld y nodyn cyngor caffael (dolen allanol) a'r canllawiau (dolen allanol) ar ddolen y Canllaw Cynllunio Caffael isod.