Mark Drakeford MS, First Minister
Heddiw rwy’n cyhoeddi dogfen Cyfrifoldebau’r Gweinidogion ar ei newydd wedd, sy’n adlewyrchu’r newidiadau a wnaed i’r portffolios gweinidogol.
Rwyf wedi gwneud y newidiadau hyn er mwyn sicrhau bod Llywodraeth Cymru yn y sefyllfa orau bosibl i ymateb i’r misoedd anodd sydd o’n blaenau. Bydd Vaughan Gething, y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, yn parhau i arwain ymateb y Gwasanaeth Iechyd Gwladol (GIG) i’r coronafeirws ac yn dal i fod yn gyfrifol hefyd am oruchwylio cyflawniad a pherfformiad y GIG.
Yn ei rôl newydd fel y Gweinidog Iechyd Meddwl, Llesiant a’r Gymraeg, bydd cyfrifoldebau Eluned Morgan yn cynnwys gwasanaethau iechyd meddwl, dementia, camddefnyddio sylweddau, iechyd cyn-filwyr, profiad y claf a’r strategaeth orderwdra.
Mae dogfen Cyfrifoldebau’r Gweinidogion hefyd yn nodi rhai newidiadau eraill rhwng y portffolios.
Bydd y rhan fwyaf o gyfrifoldebau mewn perthynas â chysylltiadau rhyngwladol yn dod yn rhan o bortffolio’r Prif Weinidog. Fodd bynnag, bydd y Cwnsler Cyffredinol a’r Gweinidog Pontio Ewropeaidd yn cymryd cyfrifoldeb dros gysgodi negodiadau’r Deyrnas Unedig mewn perthynas â masnach ryngwladol a bydd Gweinidog yr Economi, Trafnidiaeth a Gogledd Cymru yn gyfrifol am hyrwyddo Cymru fel lle i gynnal busnes ac i fuddsoddi ac allforion.
Mae adnoddau cynaliadwy, y polisi gwastraff a mynediad i gefn gwlad, gan gynnwys y cyfrifoldeb dros Ardaloedd o Harddwch Naturiol Eithriadol a Pharciau Cenedlaethol, yn symud i bortffolio Gweinidog yr Amgylchedd, Ynni a Materion Gwledig.
Mae strategaeth a pholisi digidol trawslywodraethol yn symud i fod yn rhan o gyfrifoldebau Dirprwy Weinidog yr Economi a Thrafnidiaeth. Y Dirprwy Weinidog Tai a Llywodraeth Leol fydd yn goruchwylio partneriaeth gymdeithasol, gan gynnwys Bil Partneriaeth Gymdeithasol drafft Llywodraeth Cymru.