Y Gwir Anrh. Carwyn Jones, Prif Weinidog i Gymru
Fe fydd Aelodau am wybod am newidiadau rwyf wedi’u gwneud i bortffolios Gweinidogion. Rwyf wedi gofyn i Edwina Hart gymryd yr awenau am Amaeth, Pysgodfeydd a Bwyd, hynny ar ben ei chyfrifoldebau presennol. Caiff ei chynorthwyo gan Rebecca Evans fel Dirprwy Weinidog Amaeth a Physgodfeydd.
Rwyf wedi gofyn i John Griffiths fod yn gyfrifol am bolisi amgylcheddol.