Rebecca Evans AS, y Gweinidog Cyllid a’r Trefnydd
Mae Diwrnod y Cyfrifiad bum wythnos i ffwrdd ddydd Sul. Mae disgwyl i Gyfrifiad 2021 gael ei gynnal ddydd Sul 21 Mawrth yng Nghymru. Mae hyn yn dilyn gosod Rheoliadau Cyfrifiad (Cymru) 2020 gerbron y Senedd ym mis Mai 2020.
Awdurdod Ystadegau'r DU a'i swyddfa weithredol, y Swyddfa Ystadegau Gwladol (ONS), sydd yn gyfrifol am gynnal y cyfrifiad yng Nghymru a Lloegr. Mae swyddogion Llywodraeth Cymru yn gweithio'n agos gyda'r ONS ar bob agwedd o’r cyfrifiad yng Nghymru.
Defnyddir data o'r Cyfrifiad i wneud penderfyniadau sy'n cael effaith ar bawb yn y wlad. Mae data o ansawdd uchel ynghylch y boblogaeth yn llywio'r broses o lunio polisïau, yn cynorthwyo'r gwaith o ddyrannu adnoddau a chynllunio gwasanaethau cyhoeddus ac yn ein helpu i ddeall bywydau gwahanol grwpiau yn ein cymdeithas, gan gefnogi ein gwaith i greu Cymru sy'n fwy cyfartal. Mae busnesau, awdurdodau lleol, awdurdodau iechyd, ac eraill yn gwneud defnydd helaeth o ddata'r Cyfrifiad. Yng Nghymru, mae Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol wedi cynyddu'r angen am ddata o ansawdd uchel i wella ein dealltwriaeth o lesiant.
Cyfrifiad ‘digidol yn gyntaf’ fydd Cyfrifiad 2021. Mae hyn yn golygu y bydd pobl yn cael eu hannog i ymateb ar-lein ar eu ffonau symudol, gliniaduron, cyfrifiaduron personol neu dabledi os gallant. Bydd help ar gael i'r rheini sydd angen cymorth, a bydd aelodau o'r cyhoedd yn gallu ymateb ar ffurflen bapur os byddai’n well ganddynt wneud hynny.
Mae Llywodraeth Cymru yn gweithio gyda'r ONS i sicrhau diogelwch y cyhoedd a staff maes yn ystod Cyfrifiad 2021, fel y gellir cyfrif pawb yn ddiogel. Mae'r ONS yn parhau i fonitro'r pandemig ac addasu eu cynlluniau yn unol â chanllawiau diweddaraf Llywodraeth Cymru a Llywodraeth y Deyrnas Unedig.
Mae data o Gyfrifiad 2011 wedi chwarae rhan hanfodol wrth ddeall sut mae pandemig y coronafeirws wedi effeithio ar bobl mewn gwahanol ffyrdd. Mae'n hanfodol bod gennym wybodaeth fanwl a chyfredol er mwyn gwella ein dealltwriaeth o'r pandemig. Bydd hefyd yn helpu i sicrhau bod y gwasanaethau y mae pawb yn eu defnyddio yn diwallu anghenion ein cymdeithas sy'n newid.
Bydd pawb yng Nghymru yn gallu cymryd rhan yn y Cyfrifiad yn Gymraeg neu yn Saesneg. Rydym wedi gweithio'n galed i sicrhau bod Cyfrifiad 2021 mor gynhwysol â phosibl i bawb yng Nghymru. Mae'n hanfodol ein bod yn gwneud popeth o fewn ein gallu i gefnogi cyfrifiad llwyddiannus a diogel yma yng Nghymru.