Julie James, y Gweinidog Tai a Llywodraeth Leol
Heddiw, mae Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi'r Cyfrif Cenedlaethol o Gysgu Allan, a gynhaliwyd ym mis Hydref a mis Tachwedd 2019. Mae'r cyfrif yn rhoi ciplun o'r niferoedd sy'n cysgu allan, gyda'r awdurdodau lleol yn darparu amcangyfrif dros gyfnod o bythefnos ac yn cynnal cyfrif un noson.
Mae’r Llywodraeth hon wedi ymrwymo i'r nod o roi terfyn ar ddigartrefedd, felly rydym wrth gwrs yn siomedig bod y niferoedd a gofnodwyd yng nghyfrif 2019 wedi cynyddu. Fodd bynnag, nid ydym wedi ein synnu gan y cynnydd. Mae'n adlewyrchu realiti'r hyn yr ydym yn ei weld ar ein strydoedd, cymhlethdod y materion a'r trafodaethau a geir gyda rhanddeiliaid. Rwyf wedi nodi ar sawl achlysur, er gwaethaf cynyddu ein buddsoddiad a deddfwriaeth ataliol arloesol, fod awdurdodau lleol yn wynebu cynnydd yn nifer y bobl sy'n cysgu allan, a hynny i raddau helaeth oherwydd effaith polisïau cyni Llywodraeth y DU ac effaith diwygio lles. Fe wnes i gydnabod yn fy natganiad i'r Cynulliad ym mis Hydref 2019 fod angen i ni wneud mwy a meddwl o'r newydd am ein dull o weithredu. Dyma'n union beth mae ein dull strategol newydd ar gyfer atal a rhoi terfyn ar ddigartrefedd, a gyhoeddwyd ym mis Hydref 2019, yn ceisio ei wneud. Dyma hefyd y rheswm i mi sefydlu'r Grŵp Gweithredu ar Ddigartrefedd, i gydnabod yr angen i feddwl o'r newydd a gwneud pethau'n wahanol, gan ddefnyddio'r arbenigedd sydd ar gael yng Nghymru a thu hwnt i gyflawni'r newid sydd ei angen.
Tra bod y ffigurau hyn yn siomedig, mae'n hanfodol ein bod yn parhau i ganolbwyntio ar weithio gyda'r Grŵp Gweithredu ar Ddigartrefedd ac yn gweithredu ar eu cyngor arbenigol i wella ein hymateb i'r materion hyn yng Nghymru. Mae'n bwysig cydnabod bod adroddiad cyntaf y Grŵp Gweithredu ar Ddigartrefedd wedi’i gyhoeddi ym mis Hydref 2019 ac felly nid yw’r gwaith a wnaed i weithredu ei argymhellion yn cael ei adlewyrchu yng nghyfrif 2019. Mae Llywodraeth Cymru wedi bod yn gweithio gyda nifer o awdurdodau lleol ar draws Cymru i weithredu’r argymhellion. Er nad oes un ateb hawdd a chyflym i'r materion hyn, mae yna eisoes effaith gadarnhaol yn sgil y gwaith hwn. Wrth ymateb i'r argymhellion rydym wedi darparu hyfforddiant i helpu gweithwyr allgymorth i ddatblygu eu sgiliau allgymorth grymusol, gan ddefnyddio tystiolaeth, o’r ffordd fwyaf effeithiol o ddarparu gwasanaethau allgymorth i unigolion a dod o hyd i’r llwybr cywir iddynt ddod oddi ar y strydoedd i dai cynaliadwy hirdymor. Rydym hefyd wedi darparu cyllid ar gyfer cyllidebau personol i rymuso gweithwyr allgymorth fel bod ganddynt yr ymreolaeth a'r hyblygrwydd i ymateb yn syth i anghenion unigolyn a darparu cyllid i sicrhau bod ymdrechion ar draws gwasanaethau statudol a gwirfoddol yn cael eu cydgysylltu’n dda. Rydym hefyd yn parhau i ddarparu cyllid i hwyluso ymateb amlasiantaethol, ac mae ein system Tai yn Gyntaf yn ymsefydlu a bellach yn cefnogi 61 o bobl a fyddai, yn ôl pob tebyg, yn cysgu allan heno fel arall.
Yr her nawr yw sefydlu'r argymhellion hirdymor i sicrhau bod digartrefedd yn cael ei atal yn gynt, er mwyn osgoi pobl yn cysgu allan. Fel y nodir yn ein datganiad strategol, mae angen i ni ganolbwyntio ar ymyriadau cynharach ac atal y broblem yn y lle cyntaf, gan wahodd ymatebion ar draws y gwasanaeth cyhoeddus, a pharhau hefyd i gefnogi pobl i ddod oddi ar y strydoedd i lety hirdymor, addas.
Yn ogystal â gwaith y Grŵp Gweithredu ar Ddigartrefedd, mae Llywodraeth Cymru eisoes yn buddsoddi mewn awdurdodau lleol ac yn eu cynorthwyo i fwrw ymlaen â phrosiectau arloesol i atal pobl rhag cysgu allan neu fynd ati'n gyflym i ailgartrefu’r rhai hynny ag anghenion cymhleth. Rydym wedi diogelu cyllidebau digartrefedd, gan gynnwys y £126m hanfodol sy'n mynd i mewn i'r Grant Cymorth Tai.
Rwy’n cydnabod bod y niferoedd sy'n cysgu ar ein strydoedd yn parhau i fod yn annerbyniol o uchel. Fodd bynnag, mae'r arbenigwyr allweddol yr ydym wedi ymgysylltu gyda hwy i weithio gyda ni, i gynghori ac i helpu i gyflymu'r gwaith yr ydym eisoes wedi'i ddechrau, yn dangos ein hymrwymiad parhaus i fynd i'r afael â'r mater hwn. Credaf fod y dull strategol rydym yn ei gymryd i atal a rhoi terfyn ar ddigartrefedd yw’r fframwaith cywir i fwrw ymlaen â’r gwaith hwn. Bydd adroddiadau'r Grŵp Gweithredu ar Ddigartrefedd yn helpu i lywio'r cynllun gweithredu a fydd yn sail i hyn. Hoffwn gofnodi fy niolch i'r holl swyddogion allgymorth yn yr awdurdodau lleol a'r trydydd sector sy'n gweithio'n ddiflino i helpu pobl sy'n cysgu allan i ddod o hyd i lety, gwaith sy'n heriol ac yn werth chweil. Mae'r blociau adeiladu gennym i sicrhau effaith a newid gwirioneddol yn y maes hwn, ac er gwaethaf yr anawsterau, mae'n rhaid i ni barhau i ymddiried yn ein strategaeth i atal a rhoi terfyn ar ddigartrefedd yng Nghymru.