Neidio i'r prif gynnwy

Kirsty Williams, Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg

Cyhoeddwyd gyntaf:
19 Ionawr 2017
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Heddiw, bydd dysgwyr ledled Cymru yn derbyn eu canlyniadau yn yr arholiadau newydd TGAU Mathemateg a TGAU Mathemateg - Rhifedd; a hoffwn longyfarch ein dysgwyr ar eu llwyddiant yn y cymwysterau newydd hyn a 'wnaed yng Nghymru'.

Mae'r canlyniadau a gyhoeddwyd heddiw yn dangos:
TGAU Mathemateg - y gyfran sy’n cyflawni A * i C yw 46.1%
TGAU Mathemateg Rhifedd - y gyfran sy’n cyflawni A * i C yw 46.1%
Mae'r cymwysterau TGAU newydd hyn yn sylweddol wahanol i'r cymhwyster TGAU Mathemateg maent yn eu disodli. Dechreuodd yr ymgeiswyr a safodd yr arholiadau ym mis Tachwedd 2016 ar eu cyrsiau ym mis Medi 2015 a chawsant eu hasesu ar y cynnwys ar gyfer y TGAU llawn o fewn dau fis o ddechrau Blwyddyn 11.
Dylid bod yn ofalus wrth wneud cymariaethau ar draws carfanau yn y blynyddoedd cynnar o gyflwyno gymhwyster newydd er mwyn osgoi dod i gasgliadau annheg am berfformiad carfan am y rheswm syml mai dyma’r grŵp cyntaf o fyfyrwyr i sefyll y cymwysterau newydd. Bu Cymwysterau Cymru, y rheoleiddiwr annibynnol ar gyfer cymwysterau, yn monitro dyfarnu’r TGAU newydd yn ofalus ac roeddynt yn fodlon bod y safonau’n gadarn a’u bod wedi cael eu cynnal. 
Mae'r cymwysterau TGAU newydd hyn wedi cael eu cyflwyno mewn ymateb i'r Adolygiad o Gymwysterau gyfer rhai 14 - 19 oed yng Nghymru. Yn dilyn ymgynghori helaeth â rhanddeiliaid, argymhellodd yr adolygiad ein bod yn datblygu TGAU Mathemateg newydd, fyddai’n cwmpasu agweddau ar dechnegau mathemategol ynghyd â TGAU Mathemateg- Rhifedd newydd fyddai’n cwmpasu'r sgiliau mathemategol a ddefnyddir mewn gwaith, astudio cyffredinol a bywyd bob dydd.

Yn ystod 2014-2016, fe wnaethon ni ariannu rhaglen gynhwysfawr a alluogodd y consortia rhanbarthol i ddarparu cymorth ar gyfer athrawon a dysgwyr i gyflwyno'r TGAU newydd hyn. Mae cyfnod pellach o ariannu’r Rhaglen Gymorth TGAU ar gyfer 2016-17 wedi galluogi’r consortia i ddarparu cefnogaeth barhaus ar gyfer y ddau gymhwyster TGAU Mathemateg newydd.

Mae'r cymwysterau newydd hyn yn rhan o ddiwygiadau helaeth i'n system addysg sy’n rhoi'r sgiliau a'r wybodaeth gywir i’n pobl ifanc fel y gallant ffynnu yn y byd modern. Mae hyn yn ganolog i'n cenhadaeth genedlaethol o godi safonau a sicrhau bod pawb yn cael cyfle i lwyddo yn y byd modern.