Mark Drakeford, Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid
Fe fûm i heddiw mewn cyfarfod o Gyd-bwyllgor y Gweinidogion (Negodiadau’r UE), a’r prif bwnc trafod oedd Papur Gwyn arfaethedig Llywodraeth y Deyrnas Unedig ar Brexit.
Cyn ac yn ystod y drafodaeth, fe nodais yn glir wrth Weinidog y Cabinet, David Lidington, fod y ffaith nad oedd Llywodraeth Cymru na Llywodraeth yr Alban wedi cael gweld drafft llawn o’r Papur Gwyn yn golygu nad oeddem wedi cael cyfle ystyrlon i ystyried y cynigion a rhoi sylwadau arnynt.
Mae hyn yn groes i’r sicrhad blaenorol gan Lywodraeth y DU y byddai’r gweinyddiaethau datganoledig yn cael cyfle ystyrlon i gyfrannu at lunio’r safbwyntiau negodi wrth iddynt gael eu datblygu. Er hynny, rydym yn parhau i fanteisio ar bob cyfle i ddadlau’r achos dros Brexit sy’n amddiffyn buddiannau Cymru.
Mae Llywodraeth Cymru wedi bod yn gyson ac yn dryloyw o ran cyfleu wrth Lywodraeth y DU pa ddull gweithredu yr hoffem ei weld yn cael ei ddefnyddio o ran Brexit.
Fwy nag wythnos cyn cyfarfod y Cyd-bwyllgor heddiw, ysgrifennais at yr Ysgrifennydd Gwladol dros Ymadael â’r UE, David Davis (ar 26 Mehefin) yn nodi fy mhryderon difrifol ynghylch cyflwr y negodiadau â 27 yr UE a’r ansicrwydd y mae dull Llywodraeth y DU o fynd ati yn ei greu mewn meysydd allweddol o’r economi ac o ran darparu gwasanaethau cyhoeddus yn y dyfodol.
Yn y llythyr, a amgaeeir isod, tynnais sylw at yr hyn a ddylai fod, yn ein tyb ni, yn agweddau allweddol ar ein partneriaeth â’r Undeb Ewropeaidd yn y dyfodol, a hynny ar sail y dadansoddiad manwl yn ein dogfennau polisi a’r modd y dylai’r rheini gael eu hadlewyrchu ym Mhapur Gwyn Llywodraeth y DU.
Mae dull Llywodraeth Cymru, sy’n seiliedig ar dystiolaeth, fel y’i nodir yn ein Papur Gwyn Diogelu Dyfodol Cymru a’n papurau polisi dilynol, yn darparu patrwm ar gyfer y math cywir o Brexit ar gyfer Cymru, ac yn wir ar gyfer y Deyrnas Unedig i gyd. Amgaeir dolenni isod at y dogfennau polisi ar y we.
Mae cyfnod tyngedfennol o’n blaenau ac mae gofyn i Bapur Gwyn Llywodraeth y DU osod cyfeiriad newydd ar nifer o faterion allweddol, a gwneud hynny mewn modd sy’n glir i’r UE ac i fusnesau.
Gallaf sicrhau’r aelodau y bydd Llywodraeth Cymru yn parhau i bwyso’n galed ar Lywodraeth y DU i sicrhau Brexit synhwyrol nad yw’n gwneud niwed diangen i’n swyddi a’n heconomi. Byddaf yn rhoi diweddariad pellach i’r Cynulliad Cenedlaethol ynghylch cynnwys Papur Gwyn Llywodraeth y DU, a’i oblygiadau posibl i Gymru, pan fydd yn cael ei gyhoeddi.
Dolenni: Diogelu Dyfodol Cymru, Brexit a Thegwch o ran Symudiad Pobl, Brexit a Datganoli , Buddsoddi Rhanbarthol ar ôl Brexit a Y Polisi Masnach: materion Cymru