Neidio i'r prif gynnwy

Vaughan Gething AS, y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol

Cyhoeddwyd gyntaf:
29 Mehefin 2020
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Hoffwn ddiolch i'r holl fyfyrwyr ledled Cymru a oedd mewn sefyllfa i gynnig cefnogi ein gwasanaethau iechyd a gofal cymdeithasol yn ystod pandemig COVID-19. Roedd yn briodol y byddai'r rhai a ddewisodd weithio mewn ymarfer clinigol o dan oruchwyliaeth yn ystod yr argyfwng yn cael eu talu am eu gwaith. Rydym yn ddiolchgar dros ben am eu cyfraniad ac rwy'n falch iawn o'r rhan y mae myfyrwyr nyrsio a bydwreigiaeth wedi'i chwarae yn cefnogi gwasanaethau iechyd a gofal yng Nghymru, a hynny wrth iddynt barhau i ddilyn eu rhaglenni addysg.

Ar ddechrau'r pandemig hwn, ymrwymodd Cymru mai ein blaenoriaeth oedd sicrhau na fyddai unrhyw fesurau brys yn amharu ar allu myfyrwyr i gwblhau eu rhaglenni addysg ac y byddai modd iddynt gofrestru fel gweithwyr proffesiynol fel yr oeddent wedi'i gynllunio a'i ddisgwyl ar ddechrau eu cwrs.

Gwnaethom sefydlu contract Cymru gyfan ar gyfer myfyrwyr i sicrhau profiad cyson tra'r oeddent ar leoliadau clinigol â thâl ac rwy'n ddiolchgar i Bartneriaeth Cydwasanaethau GIG Cymru am ei gwaith yn rhoi'r trefniadau hyn ar waith. Rydym wedi'i gwneud yn glir y byddai angen i'r trefniadau ddod i ben ar adeg briodol fel y gallai'r myfyrwyr fynd yn ôl at eu hastudiaethau arferol ac yn ôl at fod yn ychwanegol ac o dan oruchwyliaeth mewn lleoliadau clinigol.

Rwyf wedi'i gwneud yn gwbl glir y bydd pob contract lleoli myfyriwr yng Nghymru yn cael ei anrhydeddu hyd nes iddynt ddod i ben ymhen naill ai dri mis neu chwe mis. Ar ddiwedd y contractau hyn, bydd myfyrwyr naill ai'n symud i swyddi fel gweithwyr proffesiynol cofrestredig neu’n cael eu cefnogi i ailgydio ym mhob agwedd ar eu rhaglenni nyrsio a bydwreigiaeth. Ar gyfer y rhai ar gontractau chwe mis, rydym yn cydnabod y bydd angen bod yn hyblyg o ran dyddiad terfyn y contractau hyn er mwyn hwyluso'r broses o symud drwy ein cynllun symleiddio i fyfyrwyr at swyddi parhaol fel gweithwyr proffesiynol cofrestredig.

Ers dechrau'r pandemig, rydym wedi bod yn gweithio'n agos gydag Addysg a Gwella Iechyd Cymru, ein partneriaid iechyd a gofal cymdeithasol, ein Prifysgolion a'n cyrff proffesiynol (RCN ac RCM) i gefnogi myfyrwyr o dan drefniadau brys rhaglen y Cyngor Nyrsio a Bydwreigiaeth ac rwy'n ddiolchgar iawn i bawb cysylltiedig am eu holl waith caled.

Wrth inni baratoi rhag ofn y bydd cynnydd pellach yn nifer yr achosion, bydd angen inni barhau i ystyried sut i wneud y defnydd gorau o sgiliau ac ymroddiad nyrsys a myfyrwyr gofal iechyd eraill, gan hefyd ddiogelu eu lles a'u gyrfaoedd at y dyfodol ar yr un pryd.