Neidio i'r prif gynnwy

Mark Drakeford AC, Prif Weinidog Cymru

Cyhoeddwyd gyntaf:
24 Mehefin 2019
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Roeddwn yn falch iawn o groesawu Llysgennad Rwmania, Dan Mihalache i Gymru heddiw, a chael cyfle i edrych ar waith Llywodraeth Rwmania yn ystod ei Llywyddiaeth o'r UE am y tro cyntaf.

Gall pob cyfnod o Lywyddiaeth fod yn heriol, ond bu'r chwe mis diwethaf yn arbennig felly, wrth ddod tua diwedd tymor pum mlynedd Senedd Ewrop a'r Comisiwn Ewropeaidd. Mae Rwmania wedi gwneud gwaith ardderchog, ac rwyf am eu llongyfarch.

Mae ymweliad Llysgennad Rwmania yn dilyn ymweliadau llysgenhadol eraill eleni o'r Eidal, Norwy, Sweden, Iwerddon, Japan a Thwrci, yn ogystal ag ymweliad Is-bennaeth Tsieina yr wythnos ddiwethaf. Mae Cymru'n parhau i fod yn wlad agored, ac mae Llywodraeth Cymru yn gwneud popeth o fewn ein gallu i hybu ein henw da fel cenedl gosmopolitaidd a chroesawgar.

Ddoe roedd yn dair blynedd ers refferendwm Brexit 2016. Tair blynedd o drafod cytundeb neu ddim cytundeb, tra bod miloedd o ddinasyddion yr UE sydd wedi dewis ymgartrefu yng Nghymru a gweddill y DU wedi gorfod byw mewn ansicrwydd am eu dyfodol yma.

Rwy' am fanteisio ar y cyfle hwn i geisio'u sicrhau bod Llywodraeth Cymru yn gwneud popeth o fewn ein gallu i'w cefnogi, a'n bod ni'n gwerthfawrogi eu cyfraniad i fywyd Cymru.

Mae gan Gymru hanes hir o fod yn wlad groesawgar a chynhwysol. Rydyn ni'n ymfalchïo yn y ffaith bod dinasyddion o wledydd eraill Ewrop wedi dod i'n gwlad fel cymdogion, cydweithwyr, ffrindiau a theulu ers nifer o flynyddoedd.

Rydyn ni’n gwerthfawrogi ieithoedd, diwylliant a hanes ein gilydd, gan gyfoethogi cymunedau cryn dipyn. Mae dinasyddion o wledydd yr UE wedi cyflawni swyddogaethau aruthrol o bwysig a gwerthfawr yn ein cymdeithas, yn y gweithle ac yn ein bywydau o ddydd i ddydd.

Rydym yn cydnabod bod yr amgylchiadau presennol a'r ansicrwydd ynghylch Brexit yn creu pryder mawr. Rwyf am sicrhau holl ddinasyddion yr UE sy'n byw yng Nghymru bod diogelu eu hawliau a'u statws yn bwysig iawn i ni, ac y byddwn yn manteisio ar bob cyfle i bwysleisio hynny wrth Lywodraeth y DU.

Rydym yn arbennig o awyddus i gefnogi gwladolion yr UE sy'n ymgeisio am statws preswylydd sefydlog er mwyn diogelu eu hawliau. Mae Llywodraeth Cymru yn gwneud popeth o fewn ei gallu i ddarparu cymorth a chyngor i ddinasyddion yr UE yn ystod y cyfnod hwn. Yn ddiweddar dyfarnwyd contract gennym i Newfields Law er mwyn darparu cyngor ynghylch mewnfudo i ddinasyddion yr UE yng Nghymru, yn arbennig grwpiau agored i niwed, sydd o bosib yn gweld y broses o ymgeisio am statws preswylydd sefydlog yn anodd.

Mae nifer o sefydliadau eraill yng Nghymru yn cynnig cyngor a chymorth, ac fe fyddwn yn sicrhau bod y gwasanaethau amrywiol hyn yn cael eu cysoni er mwyn darparu pecyn cymorth cynhwysfawr i ddinasyddion yr UE yng Nghymru.

Gadewch i mi ddweud yn glir, bydd Cymru'n parhau i fod yn wlad groesawgar. Mae gan Gymru hanes hir a balch o fod yn wlad ddeniadol i ymweld â hi, neu i fyw ac i weithio ynddi. Bydd y Llywodraeth hon yn gwneud popeth o fewn ein gallu i sicrhau na fydd hyn yn newid.