Neidio i'r prif gynnwy

Jeremy Miles AS, Y Cwnsler Cyffredinol a'r Gweinidog Pontio Ewropeaidd

Cyhoeddwyd gyntaf:
16 Mawrth 2021
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Mae’r cyfyngiadau cyfreithiol eithriadol ar fywyd pob dydd pobl Cymru oherwydd y coronafeirws wedi arwain ffocws ar y gyfraith sydd efallai’n ddigynsail. Fel Llywodraeth rydym yn fwy ymwybodol nag erioed o'r angen i ddrafftio cyfreithiau sy'n glir ac i sicrhau eu bod wedi’u cyhoeddi'n effeithiol. Rydym wedi gwneud dros 190 o eitemau o is-ddeddfwriaeth treiddiol sy’n ymwneud ag ystod eang o amgylchiadau. Yr un mor bwysig, rydym hefyd wedi ceisio helpu pobl i ddeall y gyfraith gydag amryw o ddogfennau esboniadol defnyddiol.

Rydym wedi sicrhau bod yr holl is-ddeddfwriaeth yr ydym wedi'i gwneud wedi'i chyhoeddi i ran benodol o wefan LLYW.CYMRU, a'i chysylltu at ganllawiau penodol sydd wedi'u hanelu at y grwpiau o randdeiliaid perthnasol.  Mae'r canllawiau hynny wedi ceisio sicrhau bod unigolion, busnesau a sefydliadau yn ymwybodol o'u cyfrifoldebau a'r gofynion arnynt.  Rydym wedi ymdrechu'n galed i sicrhau bod y canllawiau'n cael eu diweddaru wrth i'r ddeddfwriaeth newid, ac rydym wedi sicrhau bod fersiynau cyfredol o'r prif Reoliadau sy’n gosod cyfyngiadau allweddol a'r Rheoliadau teithio rhyngwladol wedi bod ar gael yn y ddwy iaith. Yn fwy cyffredinol, rydym wedi ceisio sicrhau bod negeseuon syml, ond cyfreithiol gywir, yn cael eu cyfleu yn ein cyfathrebu.

Mae helpu pobl i ddeall y gyfraith yn systematig fel hyn yn torri tir newydd. Ond yn anffodus mae'n eithriad yn hytrach na'r norm. Er bod yr amser a'r adnoddau sydd eu hangen i helpu i esbonio'r cyfyngiadau coronafeirws wedi bod yn sylweddol, mae wedi amlygu sut y gellir cyflawni cyfraith fwy hygyrch hyd yn oed yn yr amgylchiadau anoddaf, ac rwyf am sicrhau bod mwy o'r math hwn o waith yn cael ei wneud mewn cyfnod mwy “arferol”. Mae'r gwaith hwn yn gwneud gwahaniaeth gan ei fod yn helpu pobl i ddeall eu hawliau a'u rhwymedigaethau.  Yn y cyfamser, mae methu â gwneud hyn yn peryglu troseddoli unigolion yn ddiangen, yn tanseilio ein bwriadau polisi, a gall hyd yn oed danseilio rheolaeth y gyfraith ei hun.

Yr ydym ni fel Senedd yn deall hyn yn iawn, ac yr wyf yn ddiolchgar i Aelodau am eu cefnogaeth a'u diddordeb parhaus yng ngwaith y Llywodraeth i wella hygyrchedd cyfraith Cymru.  Yn fwyaf nodedig, wrth gwrs, rydym wedi pasio Deddf Deddfwriaeth (Cymru) 2019, a mater i'r Llywodraeth nesaf fydd cyflwyno'r rhaglen ffurfiol gyntaf, o dan y Ddeddf honno, o weithgarwch i wneud cyfraith Cymru yn fwy hygyrch.

Fel Cwnsler Cyffredinol rwyf wedi bod yn glir ynglŷn â'r math o brosiectau y mae angen i ni ganolbwyntio arnynt, ac am yr amser a'r adnoddau y bydd hyn yn cymryd.  Mae'r Llywodraeth hon eisoes wedi ymrwymo i ddau Fil cydgrynhoi ac mae gwaith eisoes ar y gweill ar rhain: a cydgrynhoi deddfwriaeth yr amgylchedd hanesyddol a symleiddio a moderneiddio cyfraith cynllunio. A chredaf y dylai prosiectau cydgrynhoi pellach ganolbwyntio ar feysydd cyfreithiol lle yr effeithir fwyaf ar hawliau, rhwymedigaethau a rhyddid unigolion.

Nid cydgrynhoi yw'r unig ffordd y gallwn wella hygyrchedd, ac yn unol â'r bwriadau a nodir yn Dyfodol Cyfraith Cymru (ymgynghoriad a gynhaliwyd ddiwedd 2019) mae gennym ni hefyd dair phrosiect ar y gweill i:

  • datblygu model i ddosbarthu deddfwriaeth yn ôl pwnc y cynnwys, a fydd yn darparu strwythur ar gyfer gwaith yn y dyfodol (a threfniadaeth Codau Cyfraith Cymru) a dull fydd yn galluogi i defnyddwyr y llyfr statud leoli a defnyddio deddfwriaeth;
  • gwella ac ehangu'r deunydd esboniadol sydd ar gael ar wefan Cyfraith Cymru, ac yma mae'r gwersi a ddysgwyd o'n gwaith yn sicrhau bod deddfwriaeth y coronafeirws ar gael ac yn ddealladwy wedi bod o gymorth wrth i ni ystyried sut i fynd ati yn y dyfodol;
  • gweithio gyda'r Archifau Gwladol i wella gwefan legislation.gov.uk ymhellach fel y gall defnyddwyr chwilio am cyfraith Cymru yn ôl pwnc y testun, a chael gafael ar fersiwn cyfredol o ddeddfwriaeth yn yr iaith Gymraeg.

Bydd Aelodau'n deall bod y dargyfeirio adnoddau i ymateb i'r pandemig wedi effeithio ar ein gallu i fwrw ymlaen gyda'r prosiectau hyn, ond mae ffocws o'r newydd arnynt bellach a fydd, yn fy marn i, yn arwain at ganlyniadau cadarnhaol yn fuan.

Mewn cyfnod cythryblus, efallai ei bod yn rhy hawdd i ni fel deddfwyr i anwybyddu cyfrifoldebau sy’n llai amlwg, ond eto sydd yn sylfaenol; a hyderaf y bydd y Senedd nesaf, a'r Llywodraeth nesaf, yn parhau i werthfawrogi bod hwn yn waith pwysig sydd angen i ni barhau i’w gwblhau.