Mark Drakeford, Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid
Rwyf eisoes wedi cadarnhau wrth yr Aelodau y bydd Llywodraeth Cymru yn cyflwyno cyfraddau treth incwm Cymru o fis Ebrill 2019.
Ar ôl ymgynghori â Thrysorlys Cymru, cyflwynodd Gweinidogion Trysorlys EM Orchymyn Seneddol ar 23 Gorffennaf i gychwyn darpariaethau Deddf Cymru 2014 sy'n ymwneud â gweithredu cyfraddau treth incwm Cymru. Mae Gorchymyn 2018 Rhif 892 o dan Ddeddf Cymru 2014 wedi'i basio a'i gyhoeddi heddiw.
Mae'r Gorchymyn yn cadarnhau 2019-20 fel y flwyddyn dreth gyntaf ar gyfer cyfraddau treth incwm Cymru ac mae'n cychwyn darpariaethau sy'n ei gwneud yn ofynnol i'r Swyddfa Archwilio Genedlaethol archwilio Cyllid a Thollau ei Mawrhydi (CThEM) ar y paratoadau cysylltiedig. Mae'r Gorchymyn yn gwneud diwygiadau i Ddeddf yr Alban 1998 mewn perthynas â'r diffiniad o drethdalwyr yn yr Alban i sicrhau na all unigolyn fod yn drethdalwr yng Nghymru ac yn drethdalwr yn yr Alban yn yr un flwyddyn. Mae'n gwneud darpariaeth arbennig ar gyfer Seneddwyr Cymru, sy'n drethdalwyr Cymru, lle bynnag y maent yn byw.
Bydd CThEM yn parhau'n gyfrifol am gasglu a gweinyddu cyfraddau treth incwm Cymru a bydd Llywodraeth y DU yn llwyr gyfrifol am drethu incwm o arbedion a difidendau. Bydd Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn pennu'r cyfraddau bob blwyddyn drwy gynnig cyllidebol, a fydd yn cael ei wneud law yn llaw â chyllideb ddrafft Cymru.
Mae swyddogion Trysorlys Cymru yn parhau i weithio gyda CThEM ar y trefniadau manwl ar gyfer rhoi cyfraddau treth incwm Cymru ar waith er mwyn sicrhau trosglwyddiad esmwyth i drethdalwyr a busnesau Cymru. Bydd pob trethdalwr sy‘n byw yng Nghymru yn cael llythyr gan CThEM yn rhoi gwybod am y newidiadau a byddaf yn gwneud cyhoeddiad arall ar y paratoadau yn ystod yr Hydref.
Caiff y datganiad ei gyhoeddi yn ystod y toriad er mwyn rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf i aelodau. Os bydd aelodau eisiau i mi wneud datganiad pellach neu ateb cwestiynau ynglŷn â hyn pan fydd y Cynulliad yn dychwelyd, byddwn yn hapus i wneud hynny.