Rebecca Evans AS, Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid, y Cyfansoddiad a Swyddfa'r Cabinet
Heddiw, mae Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi adroddiad sy'n crynhoi'r ymatebion i'r ymgynghoriad cyhoeddus ar gynigion i estyn y cyfnodau ad-dalu ac eithrio o dair blynedd ar gyfer cyfraddau preswyl uwch y Dreth Trafodiadau Tir (TTT) o dan amgylchiadau penodedig. Lansiwyd yr ymgynghoriad ar 19 Rhagfyr 2023 a daeth i ben ar 17 Mawrth 2024.
Roedd yr ymgynghoriad yn nodi cynigion Llywodraeth Cymru i estyn y cyfnodau ad-dalu ac eithrio o dair blynedd ar gyfer TTT, pan fo gwerthiant prif gyn breswylfa yn cael ei atal gan gyfyngiadau brys, a/neu ei rwystro, ac felly ei oedi, gan faterion sy'n ymwneud â diffygion diogelwch tân.
Mae'r holl ymatebion wedi cael eu hystyried erbyn hyn. Mae'r adroddiad yn nodi ymateb Llywodraeth Cymru i'r ymgynghoriad. Bwriad Llywodraeth Cymru yw y bydd yr offeryn statudol drafft, a fydd yn gwneud y newidiadau i'r rheolau, yn cael ei osod yn y Senedd ar 18 Mehefin 2024 ac yn cael ei drafod ym mis Gorffennaf 2024.
Mae’r adroddiad ar gael yma: Cyfraddau Preswyl Uwch y Dreth Trafodiadau Tir: cynnig i newid y rheolau ynglyn ag ad-dalu ac eithrio | LLYW.CYMRU