Neidio i'r prif gynnwy

Lesley Griffiths, Gweinidog dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol

Cyhoeddwyd gyntaf:
21 Rhagfyr 2012
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2011 i 2016

Yn dilyn cwestiwn Mark Isherwood AC yn ystod y Cyfarfod Llawn ar 4 Rhagfyr, rwy’n gwneud datganiad ar gyfraddau HIV/AIDS yng Nghymru ynghyd â throsolwg o’r gwasanaethau atal a thrin.

Mae tua 120,000 o bobl wedi cael diagnosis HIV yn y DU hyd yn hyn, ac mae 27,000 wedi datblygu AIDS a thros 20,000 wedi marw. Mae’r ffaith fod therapi gwrth-retrofeirysol hynod weithredol (HAART) ar gael wedi arwain at ostyngiad cyflym yn nifer y bobl sy’n cael diagnosis AIDS ac yn marw o AIDS ers dechrau’r 1990au. Yn ogystal, mae pobl â HIV, sy’n sefydlog ar therapi, yn derbyn gwasanaethau am oes.

Yr Asiantaeth Diogelu Iechyd (HPA) ar y cyd ag Iechyd Cyhoeddus Cymru (HPA) sy’n gyfrifol am gadw golwg ar HIV/AIDS yn y DU. Ers y diagnosis cyntaf ar ddechrau’r wythdegau hyd at ddiwedd mis Mehefin 2012, mae 2128 o unigolion wedi cael diagnosis HIV yng Nghymru. Roedd 169 diagnosis newydd o’r haint HIV yng Nghymru yn 2011, sy’n uwch na’r niferoedd yn 2009 (141) a 2010 (151). Mae data ar gyfer 2012 ar gael hyd at fis Mehefin 2012 ac yn dangos bod 63 o bobl wedi cael diagnosis HIV (disgwylir i’r ffigur hwn godi wrth i ragor o adroddiadau ddod i law). Nid yw’n anarferol i nifer yr achosion newydd amrywio o flwyddyn i flwyddyn. Er bod y cyfanswm ar gyfer 2011 yn uwch na’r 2 flynedd flaenorol, er mwyn rhoi’r peth mewn cyd-destun, cafwyd y nifer uchaf o achosion newydd (176) yn 2007. Cafwyd pymtheg diagnosis AIDS newydd yng Nghymru yn 2011 a bu farw 11 o unigolion â diagnosis HIV. Yn 2010, cafodd 20 o unigolion ddiagnosis AIDS a bu farw 12 o unigolion â diagnosis HIV.

Yn ôl data arolwg SOPHID HPA, sy’n casglu data blynyddol ar unigolion â diagnosis HIV sy’n byw yng Nghymru ac yn derbyn gofal HIV, roedd 1471 o bobl yn byw yng Nghymru ac yn derbyn gofal HIV yn 2011, sy’n golygu bod cyfradd yr achosion ar gyfer HIV/AIDS yng Nghymru yn 49 fesul 100,000 o’r boblogaeth. Cafwyd cynnydd o 11% yn nifer trigolion Cymru a gafodd eu gweld ar gyfer gofal HIV yn 2011 (o gymharu â 1320 o bobl yn 2009). Mae nifer yr unigolion sy’n derbyn gofal yn cynyddu bob blwyddyn oherwydd effeithiolrwydd HAART a’r gyfradd marwolaethau isel. Fodd bynnag, mae’r haint HIV yn parhau i gael ei throsglwyddo yng Nghymru, yn enwedig ymysg dynion sy’n cael rhyw gyda dynion. Yn 2011, roedd dros hanner y rhai a ddefnyddiodd wasanaethau (783) yn fwyaf tebygol o fod wedi’u heintio o ganlyniad i ryw rhwng dynion, sef cynnydd o 14% yn y nifer a gofnodwyd yn 2010.

Roedd 586 (40%) o’r rhai a gafodd ddiagnosis HIV ac a ddefnyddiodd wasanaethau yng Nghymru yn 2011 yn fwyaf tebygol o fod wedi’u heintio o ganlyniad i ryw heterorywiol. Bydd cyfran o’r rhain wedi’u heintio mewn gwledydd â chyfradd achosion HIV uchel, neu ar ôl cael cyfathrach rywiol ag unigolion o wledydd lle mae cyfraddau achosion yn uchel. Mae Tabl 1 yn disgrifio’r llwybr heintio mwyaf tebygol yn fanylach.

Mae Cynllun Gweithredu Iechyd a Lles Rhywiol ar gyfer Cymru, 2010-2015 Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo i wella iechyd a lles rhywiol y boblogaeth a lleihau anghydraddoldebau mewn perthynas ag iechyd rhywiol. Un o amcanion allweddol y Cynllun yw canolbwyntio ar atal ac amddiffyn yn erbyn HIV er mwyn lleihau cyfraddau heintio. Lansiodd PHW ymgyrch ymwybyddiaeth o HIV ar 26 Tachwedd 2012 i gyd-fynd â Diwrnod AIDS y Byd (bydd yr ymgyrch yn para tan 1 Rhagfyr 2013). Mae llawer o ymgyrchoedd yn y DU wedi targedu grwpiau penodol o’r boblogaeth, yn enwedig dynion sy’n cael rhyw gyda dynion a’r rhai o darddiad Affricanaidd. Nod yr ymgyrch hon yw codi ymwybyddiaeth pob grŵp o’r boblogaeth a hyrwyddo profion ymysg pobl nad ydynt yn uniaethu eu hunain o bosibl â’r ddau grŵp mewn perygl a nodwyd yn flaenorol. Mae’r wefan www.friskywales.org / www.cymruchwareus.org wedi cael 19,000 o drawiadau ers ei lansio.

Mae Byrddau Iechyd hefyd yn cynnal nifer o fentrau lleol i fynd i’r afael â HIV/AIDS, ac mae PHW yn gweithredu’r Rhaglen Atal HIV. Yn ogystal â’r ymgyrch ymwybyddiaeth o HIV, mae elfennau allweddol y Rhaglen hon yn cynnwys: 

  • profion HIV blynyddol ar gyfer pobl sy’n chwistrellu cyffuriau;
  • treialu cynllun yn y Gogledd i ddarparu profion ar gyfer ceiswyr lloches o wledydd â chyfraddau uchel o achosion;
  • darparu cymorth a chyllid ar gyfer rhaglen hyfforddi meddygon teulu i helpu i wella profion ar gyfer pobl mewn perygl yn y boblogaeth gyffredinol;  
  • sgrinio cynenedigol rheolaidd (gyda bron i 100% o fenywod yn cael profion).

Er mwyn gwella gwasanaethau’r GIG ar gyfer pobl â HIV, cyhoeddodd Llywodraeth Cymru’r ddogfen Darparu ar gyfer anghenion pobl gyda HIV/AIDS yng Nghymru: Llwybrau Gofal Cenedlaethol a Manyleb Gwasanaeth ar gyfer profi, diagnosis, triniaeth a gofal cefnogol yn 2009. Mae’r ddogfen hon yn nodi’r modelau gofal a argymhellir ar gyfer cleifion gyda HIV/AIDS, gan gynnwys gwasanaethau clinigol arbenigol, gofal cymdeithasol a gwasanaethau ar gyfer teuluoedd sy’n cael eu heffeithio gan HIV.

Rwyf hefyd yn bwriadu ymgynghori ar ddiwygio Rheoliadau Ffioedd Ymwelwyr Tramor 1989 er mwyn eithrio ymwelwyr tramor rhag talu am driniaeth HIV. Yn ôl y cyngor presennol, byddai’r cam hwn yn cynorthwyo ein hymdrechion i sicrhau bod pobl yn dod ymlaen ac yn derbyn triniaeth. Fodd bynnag, byddaf yn aros am yr ymatebion i’r ymgynghoriad cyn gwneud penderfyniad terfynol. Ar hyn o bryd, dim ond hawl i driniaeth di-dâl y GIG ar gyfer profion diagnostig am y feirws HIV a gwasanaeth cwnsela sy’n gysylltiedig â’r prawf neu ei ganlyniad sydd gan ymwelwyr tramor.

Yn dilyn penderfyniad yr ymddiriedolwyr i ddirwyn Ymddiriedolaeth Tyddyn Bach i ben yn gynharach eleni, mae cynghorwyr cyfreithiol Llywodraeth Cymru bellach yn ymdrin â’r mater ar ein rhan. Defnyddiwyd y grant a roddwyd i Dyddyn Bach yn 2003 i brynu safle’r Ymddiriedolaeth. Os yw’r safle yn cael ei werthu, ei waredu, neu os nad yw’n cael ei ddefnyddio at y dibenion cymeradwy yn unol â’r cyllid a ddyfarnwyd, mae telerau ac amodau’r grant yn galluogi Llywodraeth Cymru i ofyn am ad-daliad o’r grant llawn, neu am gyfran o’r gwerth ar y farchnad adeg gwaredu.

Mae’r grant yn swm sylweddol o arian cyhoeddus, a phe bai’n cael ei adennill, gellid ei ailddefnyddio er budd nifer fawr o bobl. Felly, rydym yn disgwyl adennill y grant llawn ac yn ystyried adennill cyfran o unrhyw enillion ychwanegol yn sgil gwerthu’r eiddo.

Caiff y datganiad ei gyhoeddi yn ystod y toriad er mwyn rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf i aelodau. Os bydd aelodau eisiau i mi wneud datganiad pellach neu ateb cwestiynau ynglŷn â hyn pan fydd y Cynulliad yn dychwelyd, byddwn yn hapus i wneud hynny.