Mark Drakeford, Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid
Cafodd cyfraddau a bandiau dangosol y dreth trafodiadau tir a’r dreth gwarediadau tirlenwi eu cyhoeddi yr un pryd â chynigion amlinellol y Gyllideb ddrafft ar 3 Hydref, i gynorthwyo’r broses o graffu ar benderfyniadau Llywodraeth Cymru ynglŷn â threthi a gwariant.
Fodd bynnag, wrth gyhoeddi’r cyfraddau a’r bandiau hyn, nodais yn glir y byddwn i’n ystyried a fyddai angen gwneud newidiadau yn dilyn Cyllideb Hydref Llywodraeth y DU.
O ganlyniad i hynny, rwyf wedi penderfynu y bydd y trothwy cychwynnol ar gyfer cyfraddau preswyl y dreth trafodiadau tir yn cael ei bennu ar £180,000 o 1 Ebrill 2018 ymlaen – ac y bydd y cymorth hwn ar gael i bawb yng Nghymru sydd am brynu tŷ yn y rhan hon o’r farchnad. Mae’r trothwy hwn £55,000 yn uwch na’r trothwy cychwynnol ar gyfer treth dir y dreth stamp, a bydd yn lleihau’r baich treth ar oddeutu 24,000 o brynwyr tai yng Nghymru – gan gynnwys y rhai sy’n prynu am y tro cyntaf.
Yn dilyn cyhoeddiad Llywodraeth y DU ei bod yn cyflwyno rhyddhad ar y dreth stamp i brynwyr tro cyntaf, rwyf wedi ystyried yn ofalus pa ddull gweithredu fyddai’r un cywir ar gyfer marchnad dai Cymru ac er mwyn helpu’r rhai sy’n prynu tai. Mae’r newidiadau a gyflwynwyd gan Lywodraeth y DU yn adlwyrchu natur y farchnad dai yn Lloegr, yn enwedig yr heriau sy’n wynebu’r rhai sy’n prynu am y tro cyntaf yn Llundain a De-ddwyrain Lloegr, lle mae prisiau tai yn sylweddol uwch na phrisiau tai yng Nghymru.
Ar gyfartaledd, mae person sy’n prynu tŷ am y tro cyntaf yng Nghymru yn talu tua £135,000 – ni fyddai’r rhan fwyaf o brynwyr tro cyntaf wedi gorfod talu treth trafodiadau tir o gwbl beth bynnag o dan y cyfraddau a gyhoeddais ym mis Hydref.
Pe baem ni yng Nghymru wedi penderfynu dilyn yr un trywydd â Llywodraeth y DU, byddai mwy o brynwyr tro cyntaf yng Nghymru yn elwa ar y gostyngiad hwn yn y dreth, ond ni fyddai hyn yn gwneud dim i helpu teuluoedd sy’n wynebu’r un cyfyngiadau ariannol. Fy mhrif nod oedd helpu pawb sy’n awyddus i brynu tŷ yn y rhan hon o’r farchnad, a hynny drwy wneud y dreth yn un fwy graddoledig yn gyffredinol.
Bydd y refeniw a godir drwy’r dreth trafodiadau tir yn helpu’n uniongyrchol i ariannu gwasanaethau cyhoeddus. Wrth bennu cyfraddau’r dreth, rwyf wedi dilyn yr egwyddor na ddylai gwasanaethau cyhoeddus Cymru weld unrhyw ostyngiad yn y cyllid a dderbyniant drwy gyfraddau’r trethi wrth iddynt gael eu datganoli. Mae’r cyfraddau yn fwy graddoledig ond maent hefyd yn cynnal lefel y refeniw er mwyn rhoi cymorth i wasanaethau cyhoeddus.
O ganlyniad i’r newidiadau yn y dreth stamp, mae’r addasiad i’r grant bloc wed’i leihau, sy’n golygu ei fod yn is na’r hyn a amcangyfrifwyd adeg y Gyllideb ddrafft. Bydd hyn yn arwain at gynnydd net yng nghyllideb Llywodraeth Cymru, o’i gymharu â’r amcangyfrifon blaenorol pe na bai unrhyw newidiadau i’r dreth trafodiadau tir. Rwyf wedi defnyddio’r adnoddau ychwanegol i ddarparu mwy o gymorth i bawb sy’n prynu tai ym mhen isaf y farchnad.
Dyma y mae’r cyfraddau trafodiadau tir newydd ar gyfer eiddo preswyl yn ei olygu:
- ni fydd neb yn talu mwy o dreth nag y byddent o dan y cyfraddau a gyhoeddais yn y Gyllideb ddrafft
- ar gyfartaledd, bydd person sy’n prynu tŷ am y tro cyntaf yng Nghymru yn talu dros £500 yn llai o dreth nag y byddai o dan y dreth stamp
- bydd oddeutu 90% o brynwyr tai yng Nghymru naill ai’n talu’r un faint o dreth, neu lai o dreth, nag y byddent o dan y dreth stamp
- ni fydd oddeutu 80% o brynwyr tro cyntaf yng Nghymru yn talu treth o gwbl; ac mae hynny yr un fath â’r sefyllfa yn Lloegr i brynwyr tro cyntaf yn sgil ymrwymiad gwreiddiol y Canghellor.
Bydd y cyfraddau a’r bandiau yr wyf wedi’u cyhoeddi heddiw yn cael eu hadlewyrchu yn y Gyllideb derfynol. Gosodir rheoliadau gerbron y Cynulliad ym mis Ionawr.
Amgaeeir tabl sy’n dangos prif gyfraddau a bandiau preswyl y dreth.
Trothwy pris | Cyfradd LTT |
£0-£180k | 0% |
£180k-£250k | 3.5% |
£250k-£400k | 5% |
£400k-£750k | 7.5% |
£750k-£1.5m | 10% |
£1.5m-ac yn uwch | 12% |