Mark Drakeford AS, Y Prif Weinidog
Heddiw, mae’r Cabinet wedi penderfynu cyflwyno cyfnod atal byr pythefnos o hyd i helpu i gael rheolaeth dros y coronafeirws yng Nghymru.
Bydd y cyfnod hwn yn dechrau am 6pm ddydd Gwener 23 Hydref ac yn dod i ben am 9pm ddydd Llun 9 Tachwedd. Mae’n cynnwys y gwyliau hanner tymor ar gyfer llawer o blant yng Nghymru.
Rydym yn wynebu sefyllfa ddifrifol iawn yng Nghymru oherwydd bod y coronafeirws wedi cynyddu’n sylweddol ym mhob rhan o’r wlad. Neges glir ein cynghorwyr meddygol a gwyddonol yw y bydd cyfnod atal byr, llym yn gyfle inni adnewyddu a sicrhau bod gan y Gwasanaeth Iechyd Gwladol (GIG) y capasiti i ymateb i’r pandemig, achosion brys a phwysau’r gaeaf.
Gellir gweld cyngor gwyddonol y Gell Cyngor Technegol, sy’n llywio penderfyniad y Cabinet, a gyhoeddwyd heddiw yn: https://llyw.cymru/grwp-cyngor-technegol-cyfnod-atal-byr
Rydym wedi pennu cyfnod atal sydd mor fyr â phosibl ond mae hyn yn golygu bod rhaid i’r mesurau rydym yn eu cymryd fod yn llym i gael cymaint o effaith â phosibl ar y feirws.
O 6pm ddydd Gwener 23 Hydref:
- Ar wahân at ddibenion cyfyngedig iawn, er enghraifft i gael ymarfer corff, rhaid i bobl aros gartref
- Rhaid i bobl weithio gartref lle bynnag y bo hynny’n bosibl
- Ni chaiff pobl ymweld ag aelwydydd eraill na chyfarfod â phobl nad ydynt yn byw gyda nhw, o dan do nac yn yr awyr agored
- Ni fydd cynulliadau yn yr awyr agored yn cael eu caniatáu
- Rhaid i bob busnes nad yw’n gwerthu bwyd, busnesau lletygarwch, gwasanaethau cysylltiad agos a digwyddiadau a busnesau twristiaeth, fel gwestai, gau
- Bydd yn ofynnol hefyd i ganolfannau cymunedol, llyfrgelloedd a chanolfannau ailgylchu gau
Wrth i’r feirws gydio, rydym wedi dweud sawl gwaith mai plant fyddai ein prif flaenoriaeth pe bai angen cyfyngiadau pellach a bod rhaid i addysg barhau.
O ganlyniad, bydd gofal plant yn aros ar agor. Bydd ysgolion cynradd ac arbennig yn ailagor fel arfer ar ôl y gwyliau hanner tymor. Bydd ysgolion uwchradd yn ailagor ar ôl y gwyliau hanner tymor ar gyfer plant ym mlynyddoedd saith ac wyth. Bydd disgyblion yn gallu dod i mewn i sefyll arholiadau ond bydd disgyblion eraill yn parhau i ddysgu gartref am wythnos arall.
Bydd prifysgolion yn parhau i ddarparu cyfuniad o ddysgu wyneb yn wyneb ac ar lein.
Bydd pecyn o bron i £300m ar gael i gefnogi’r busnesau hynny y bydd raid iddynt gau, gan atgeu’r cynlluniau cymorth cyflogau sydd ar gael oddi wrth Lywodraeth y DU.
- Bydd pob busnes a gwmpesir gan y cynllun rhyddhad ardrethi i fusnesau bach yn cael taliad o £1,000
- Bydd busnesau manwerthu, hamdden a lletygarwch bach a chanolig eu maint, y mae rhaid iddynt gau, yn cael taliad untro o hyd at £5,000
- Bydd grantiau dewisol ychwanegol a chymorth i fusnesau llai hefyd, sy'n cael pethau’n anodd
- Bydd y gronfa o £80m a gyhoeddwyd yr wythnos diwethaf i helpu busnesau i ddatblygu yn y tymor hwy yn cynyddu i £100m, sy'n cynnwys £20m sydd wedi'i neilltuo ar gyfer twristiaeth a lletygarwch
- Bydd busnesau hefyd yn gallu cael gafael ar y cymorth sydd ar gael drwy'r Cynllun Cadw Swyddi presennol neu'r Cynllun Cefnogi Swyddi newydd sydd wedi cael ei ehangu.
Bydd rhagor o fanylion am y pecyn cymorth ar gael yr wythnos hon a byddwn yn sicrhau bod y cyllid ar gael cyn gynted â phosibl i’r rheini sydd ei angen.
Mae set o gwestiynau cyffredin ar gael ar-lein yn: https://llyw.cymru/cyfnod-atal-y-coronafeirws-cwestiynau-cyffredin
Rydym yn cynnig cyflwyno dadl yfory yn ystod amser y llywodraeth ynglŷn â’r angen am gyfnod atal byr.