Julie James, Y Dirprwy Weinidog Sgiliau a Thechnoleg
Erbyn hyn, mae prosiect Cyflymu Cymru wedi cyrraedd hanner ffordd gyda bron 346,000 o gartrefi a busnesau ledled Cymru yn gallu defnyddio band eang ffeibr cyflym o ganlyniad i’r prosiect.
Fis diwethaf hefyd nodwyd y miliynfed safle yng Nghymru sydd wedi cael mynediad at fand eang ffeibr cyflym o ganlyniad i brosiect Cyflymu Cymru ac arian preifat BT.
Mae ein nod o gyrraedd 96% o safleoedd yng Nghymru erbyn diwedd gwanwyn 2016 yn golygu y bydd band eang cyflym iawn ar gael i fwy o bobl yn gynt na gweddill y Deyrnas Unedig.
Mae Cyflymu Cymru yn fenter enfawr sy'n gosod 17,500 cilometr o gebl ffeibr optig ac yn gosod tua 3,000 o gabinetau gwyrdd newydd ar ochr y ffyrdd ledled Cymru. Bydd hyn yn golygu bod 691,000 o safleoedd ledled Cymru yn gallu cael mynediad at wasanaethau band eang cyflym iawn drwy Cyflymu Cymru.
Bydd Cyflymu Cymru yn golygu y bydd y rhan fwyaf o gartrefi a busnesau'n gallu cael mynediad at gyflymder lawrlwytho band eang sydd dros 30Mbps erbyn 2016, gydag o leiaf 40% o bob safle yn yr ardal ymyrraeth hefyd yn cael mynediad at wasanaethau dros 1000Mbps. Mae hyn yn cyd-fynd ag uchelgeisiau'r Undeb Ewropeaidd i gael band eang cyflym iawn dros ardal helaeth erbyn 2020. I gefnogi'r uchelgais hon, mae'r UE yn cyfrannu £90 miliwn drwy raglen Cronfa Datblygu Rhanbarthol Ewrop (ERDF) i gynorthwyo i ddarparu a chyflwyno Cyflymu Cymru ledled Cymru.
Mae amseriad y fenter yng Nghymru yn sylweddol, ac mae BT yn wynebu cryn her. Mae maint yr hyn a gyflwynir, a chymhlethdod yr hyn a adeiladir, yn rhwystrau gwirioneddol y mae'n rhaid eu goresgyn. Fodd bynnag, mae BT yn gweithio'n galed ar lawr gwlad i geisio cyrraedd ein targedau.
Fel arfer, ni fydd trosglwyddo i fand eang cyflym iawn o fand eang "cyffredin" yn digwydd yn awtomatig; bydd yn rhaid i gwsmeriaid fynd ati i ddewis cael eu trosglwyddo i gysylltiad cyflym iawn pan fydd y gwasanaeth ar gael iddynt. Os oes rhywun yn dymuno manteisio ar y gwasanaeth mewn ardal ar ôl i'r gwasanaeth gael ei alluogi, dylent gysylltu â'u darparwr gwasanaeth rhyngrwyd (ISP) neu ddefnyddio gwefan gymharu i ganfod darparwr addas.
Byddwn yn ddiolchgar petaech yn annog eich etholwyr i ystyried trosglwyddo os ydynt mewn ardaloedd sydd eisoes wedi elwa ar fand eang cyflym iawn.
Fis Mehefin y llynedd, fe wnaeth fy rhagflaenydd roi'r diweddaraf i'r aelodau am y camau sydd yn yr arfaeth i ddarparu band eang ffeibr cyflym i'r safleoedd hynny na ddarperir ar eu cyfer yn fasnachol nac ychwaith gan Cyflymu Cymru. Bydd y Prosiect Mewnlenwi Band Eang Cyflym Iawn yn cael ei gyflwyno mewn dwy ran. Bydd y ddwy ran yn ceisio lleoli band eang cyflym iawn mewn ardaloedd a gaiff eu diffinio ar ôl i'r ymgynghoriad cyhoeddus ddod i ben. Bydd yr ail ran hefyd yn cynnwys safleoedd sydd o fewn ardal ymyrraeth rhaglen Cyflymu Cymru ac sydd ddim yn cael eu cynnwys yn rhan o'r rhaglen.
Bydd rhan gyntaf y prosiect mewnlenwi yn ategu'r gwaith masnachol a Cyflymu Cymru drwy ddarparu band eang cyflym iawn yn fuan, a hwnnw'n cymharu o ran cyflymder a gwasanaethau, ac o fewn yr un amserlenni â Chyflymu Cymru. Bydd prosiect yr ail ran yn cychwyn pan ddaw prosiect Cyflymu Cymru i ben.
Cafodd y codau post ar gyfer y rhan gyntaf eu cofnodi drwy adolygiad ac ymgynghoriad cyhoeddus a gynhaliwyd y llynedd. Ar wefan Llywodraeth Cymru, sef www.cymru.gov.uk/bandeang, ceir manylion y rhestr o godau post y bwriadwn eu cynnwys o fewn y rhan gyntaf. Mae cyfanswm o 45,000 yn dod o fewn y rhan hon. Mae pob ardal cod post yn cynnwys o leiaf un safle sydd y tu allan i gwmpas prosiect Cyflymu Cymru ac ôl troed y darparwyr masnachol.
Ar 11 Chwefror cyhoeddwyd gwahoddiad i dendro i ddarparu band eang ffeibr cyflym i ryw 2500 o fusnesau dan ran gyntaf y prosiect. Gwneir cyhoeddiad pellach cyn bo hir ynglŷn â'r mecanwaith ar gyfer darparu ffeibr cyflym i'r safleoedd sy'n weddill.
Rydym yn gweithio gyda'r diwydiant ffonau symudol, Ofcom a Llywodraeth y DU i wella signal ffonau symudol ledled Cymru. Un ffocws pwysig yw sicrhau bod Cymru'n elwa ar Brosiect Seilwaith Ffonau Symudol (MIP) Llywodraeth y DU, sef £150 miliwn o fuddsoddiad, er mwyn mynd i'r afael ag ardaloedd sy’n wan o ran signal ffonau symudol. Rydym yn gweithio'n agos â thîm MIP yr Adran dros Ddiwylliant, y Cyfryngau a Chwaraeon (DCMS) ac Arqiva i ganfod lleoliadau addas yng Nghymru. Mae nifer o safleoedd wrthi'n mynd drwy'r cam cynllunio, a gobeithio y bydd y safleoedd hyn yn barod ar gyfer gwasanaeth yn y misoedd i ddod.
Yn ddiweddar, mae Llywodraeth y DU wedi cyhoeddi ei bod wedi dod i gytundeb cyfreithiol gyda'r Gweithredwyr Ffonau Symudol. Dan y cytundeb newydd, mae'r gweithredwyr wedi cytuno i fuddsoddi cyfanswm o £5 biliwn (o arian preifat) ar welliannau i'r seilwaith, gyda phob gweithredwr yn sicrhau 90% o ddarpariaeth ddaearyddol ledled y wlad (yn hytrach na darpariaeth yn ôl y boblogaeth), ac yn darparu signal dibynadwy ar gyfer llais dros 2G, 3G neu 4G, i gyd erbyn 2017.
At hynny, rydym yn gweithio gyda'r Gweithredwyr Ffonau Symudol yn dilyn arwerthiant sbectrwm 4G. Mae'r drwydded a ddyfarnwyd i Téléfonica O2 yn cynnwys ymrwymiad i ddarparu ar gyfer 95% o leiaf o'r boblogaeth yng Nghymru erbyn diwedd 2017.
Yn olaf, o ran arwerthiant nesaf y sbectrwm yn y band 700MHz i'w ddefnyddio gan weithredwyr ffonau symudol, byddwn yn annog Ofcom i ystyried atodi ymrwymiad i'r trwyddedau i ddarparu ar gyfer ardal ddaearyddol, yn arbennig ar gyfer Cymru. Mewn ardaloedd prin eu poblogaeth, sef mwyafrif helaeth tir Cymru, byddai gwneud ymrwymiad i ddarparu yn ôl y boblogaeth yn gadael eangderau o dir y wlad heb unrhyw signal ffôn symudol, neu gyda signal gwan iawn. O'u cyfuno â dyfodiad band eang ffeibr cyflym, mae gwelliannau i’r signal ffôn symudol yn meddu ar y potensial gwirioneddol i wella'r cyfleoedd economaidd a mynd i’r afael â phroblemau cymdeithasol megis arwahanrwydd cymdeithasol, a hynny hyd yn oed yn ein cymunedau mwyaf diarffordd.