Neidio i'r prif gynnwy

Ken Skates, y Dirprwy Weinidog Sgiliau a Thechnoleg

Cyhoeddwyd gyntaf:
10 Mehefin 2014
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2011 i 2016

Cychwynnodd y camau cyntaf o ddifri ym mis Ionawr 2013 ac mae’r gwaith yn mynd rhagddo’n dda.  Bellach, mae band eang ffeibr cyflym ar gael mewn tua 135,000 o eiddo. Rydym yn disgwyl y bydd y ffigur hwn wedi codi i tua 480,000 o eiddo erbyn gwanwyn 2015 neu tua thraean o’r aelwydydd yng Nghymru.

Mae rhaglen Cyflymu Cymru yn un o’r rhaglenni mwyaf uchelgeisiol yn y DU. Ein nod yw cyrraedd 96% o eiddo erbyn diwedd gwanwyn 2016 gan olygu y bydd band eang ffeibr ar gael i fwy o bobl yn gyflymach na gweddill y DU. O’i gymharu â gweddill y DU mae gennym fwy o waith i’w wneud. Mewn mannau eraill, mae’r broblem hon yn effeithio ar yr hyn a elwir yn “draean olaf” o eiddo. Yng Nghymru, rhaid i ni ymyrryd i ddarparu gwasanaethau cyflym iawn i bron hanner yr holl eiddo gan fod mwy o ystod i fethu yn y farchnad hon nac yng ngweddill y DU.

Bydd Cyflymu Cymru yn golygu bod y rhan fwyaf o fusnesau ac aelwydydd yn gallu cael mynediad at gyflymder lawrlwytho band eang o dros 30Mbps erbyn 2016. Bydd o leiaf 40% o’r holl eiddo yn yr ardal ymyrraeth yn cael budd o wasanaethau o dros 100Mbps. Mae hyn yn unol ag uchelgais yr UE o gael band eang cyflym iawn ar hyd a lled yr Undeb Ewropeaidd erbyn 2020.

O’r 134,707 o eiddo sydd wedi’u derbyn hyd yn hyn, mae 5,184 ohonynt wedi’u nodi’n eiddo busnes - 4% o’r holl eiddo sydd wedi’u derbyn. Mae’r ffigurau presennol yn dangos bod tua 19% wedi manteisio ar y cabinetau a osodwyd dros flwyddyn yn ôl.

Yn ddiweddar, cyhoeddom restr o 53,000 o godau post sydd yn ardal ymyrryd Cyflymu Cymru. Mae’r codau post hyn yn cwmpasu tua 730,000 o eiddo. Mae’r rhaglen yn anelu at roi band eang ffeibr cyflym i 95% o’r rhain - dros 690,000 o eiddo. Ar y cyd â’r ddarpariaeth fasnachol a gyflwynir, bydd Cyflymu Cymru yn rhoi mynediad at fand eang ffeibr cyflym i 96% o holl eiddo Cymru erbyn 2016. Yn yr ardaloedd a fydd yn cael eu gwasanaethu gan raglen Cyflymu Cymru yn unig, bydd gan 95% o eiddo fynediad at fand eang ffeibr cyflym. Bydd y 5% sy’n weddill yn cael eu gwasanaeth presennol, ond byddant yn cael eu targedu yn ein hymgyrch nesaf fel rhan o’n hymdrechion i fynd i’r afael â’r 4% o’r holl eiddo yng Nghymru sy’n weddill, fel y nodir isod.  

Gall y dechnoleg a ddefnyddir i ddarparu band eang ffeibr cyflym fod yn wahanol o un gyfnewidfa i’r llall. Gall hyd yn oed newid o fewn un ardal. Er enghraifft, gallai cabinet newydd gael ei osod i ddarparu technoleg Ffeibr i’r Cabinet (FTTC) neu gellir darparu ffeibr yn uniongyrchol i’r eiddo, sef Ffeibr i’r Adeilad (FTTP).

Er hynny, mae camau cyntaf rhaglen Cyflymu Cymru yn seiliedig ar gyflenwi’r cyflymder sydd yn y contract yn hytrach na defnyddio technoleg benodol. Rydym yn defnyddio’r ateb mwyaf priodol i gyflenwi’r cyflymder hwn. 61Mbps – mwy na ddwywaith yr isafswm cyflymder contractiol a 44Mbps dros gyfartaledd Band Eang y DU - yw’r cyflymder presennol ar gyfartaledd o ganlyniad i’r rhaglen.

Rydym yn cynnal profion a phrosesau gwirio manwl i sicrhau ein bod ond yn talu am yr eiddo sy’n mynd dros y trothwy cyflymder, ac yn gymwys am dâl o dan y contract. Yn fuan, byddwn yn cyhoeddi’r manylion am y dull a ddefnyddir i brofi a gwirio ar wefan Cyflymu Cymru, ynghyd â chrynodeb o’r cynnyrch â’r rheolaeth sydd gennym yn ôl ein contract â BT.

Yn gyffredinol, ni fydd y newid o fand eang “cyffredin” i fand eang cyflym iawn yn digwydd yn awtomatig, bydd rhaid i ddefnyddwyr ddewis trosglwyddo i gyswllt cyflym iawn unwaith y bydd y gwasanaeth ar gael iddynt. Bydd rhaid i unrhyw un sy’n dymuno manteisio ar y gwasanaeth mewn ardal gysylltu â’u darparwyr gwasanaethau rhyngrwyd neu ddefnyddio gwefan gymharu i ddod o hyd i ddarparwr sy’n gweddu iddynt.  

Mae ein contract â BT yn golygu bod y pris mae BT yn ei godi ar ddarparwyr gwasanaethau rhyngrwyd wedi’i feincnodi yn erbyn prisiau ar gyfer yr un gwasanaeth ym mhrif ddinasoedd eraill y DU.  Felly, ni ddylai defnyddwyr fod o dan anfantais o gymharu â gweddill y DU. Eto, mae hyn yn dibynnu ar y dewis o ddarparwr gwasanaethau rhyngrwyd. Yn ôl Ofcom, mae’r pris a delir gan ddefnyddwyr ar gyfer band eang cyflym iawn wedi gostwng yn sylweddol ers iddo gael ei lansio, a’r DU yw un o‘r marchnadoedd mwyaf cystadleuol yn Ewrop ar gyfer band eang cyflym iawn.

Disgwylir na fydd hyd at 4% o eiddo yng Nghymru yn cael eu gwasanaethu’n uniongyrchol gan brosiect Cyflymu Cymru na’r broses gyflwyno fasnachol. Bydd yr eiddo nad ydynt yn cael gwasanaeth wedi’u gwasgaru ledled Cymru; nid o reidrwydd mewn ardaloedd gwledig ond yn y lleoedd hynny sy’n heriol i’r peirianwyr.

Ym mis Chwefror 2014 cynhaliwyd Adolygiad o’r Farchnad Agored i nodi lleoliadau nad ydynt yn dod o dan brosiect Cyflymu Cymru na’r broses gyflwyno fasnachol. Bydd y broses adolygu hon yn gorffen gydag ymgynghoriad cyhoeddus sydd bellach yn fyw. Defnyddir y canfyddiadau i dargedu mesurau i ddod â band eang cyflym i’r eiddo hynny.  

Mae Llywodraeth y DU wedi clustnodi £12.1 miliwn i ni ar gyfer bodloni’r costau o roi band eang ffeibr i’r ganran honno o eiddo sy’n weddill. Rydym yn bwriadu bwrw ati’n syth i gyflwyno mesurau i sicrhau bod eiddo’n cael mynediad at Fand Eang Cyflym ar ôl gorffen yr Ymgynghoriad ar Gymorth Gwladwriaethol a’r gymeradwyaeth briodol.

O ganlyniad, mae’r Prosiect Mewnlenwi Band Eang Cyflym yn mynd i gael ei wneud mewn dau gam. Bydd y ddau gam yn ceisio mynd â band eang cyflym iawn i ardaloedd a ddiffinnir ar ôl i’r ymgynghoriad cyhoeddus ddod i ben. Bydd yr ail gam hefyd yn cynnwys eiddo sydd o fewn ardal ymyrryd rhaglen Cyflymu Cymru nad ydynt yn rhan o’r rhaglen honno.

Bydd cam cyntaf y prosiect yn ategu’r broses gyflwyno fasnachol a Chyflymu Cymru gyda darpariaeth sydyn o fand eang cyflym iawn gyda chyflymder a darpariaeth gwasanaeth sy’n debyg, o fewn yr un amserlen â Cyflymu Cymru. Bydd ail gam y prosiect yn cychwyn unwaith y bydd prosiect Cyflymu Cymru yn dirwyn i ben.

Mae'n bwysig bod cynifer o bobl â sy’n bosib yn gallu gael y gorau mas o'n buddsoddiad mewn technoleg. Dyma pam y bydd gwaith cynhwysiant digidol, a harweinir trwy sesiynau Cymunedau 2.0, yn alinio da’r cyflwyniad ardaloedd Cyflymu Cymru i helpu amlygu sut all y rhyngrwyd gwella bywydau pobl.

Mae cynllun grant Allwedd Band Eang Cymru ar waith ar gyfer yr ardaloedd hynny nad ydynt yn dod o dan gamau cyntaf prosiect Cyflymu Cymru. Mae hwn yn rhoi hyd at £1000 tuag at gost dod o hyd i ateb arall i anghenion band eang eiddo na all lwyddo i gael mwy na 2Mbps.  Mae’r eiddo preswyl a busnes sy’n manteisio ar y cynllun yn cael cyflymder lawrlwytho band eang cyfartalog o 10Mbps, o’i gymharu â chyflymder o dan 2Mbps cyn y grant.

Yn ogystal ag annog eich etholwyr i gofrestru er mwyn derbyn y diweddaraf am y camau cyntaf ar wefan Cyflymu Cymru: www.cyflymu-cymru.com, gofynnaf hefyd ichi  eu hannog i gymryd rhan yn yr ymgynghoriad cyhoeddus ar leoliad eiddo nad ydynt mewn ardal Cyflymu Cymru nac ardal lle mae camau cyntaf y broses fasnachol yn digwydd.  

Yn olaf, byddwn yn ddiolchgar pe baech yn annog yr etholwyr hynny sy’n byw mewn ardal sydd eisoes yn elwa ar fand eang ffeibr cyflym iawn, i ystyried newid darparwr.