Neidio i'r prif gynnwy

Ken Skates, y Dirprwy Weinidog Sgiliau a Thechnoleg

Cyhoeddwyd gyntaf:
29 Gorffennaf 2014
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2011 i 2016

Caiff y datganiad hwn ei gyhoeddi yn ystod y toriad er mwyn rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf i aelodau ynghylch hynt y gwaith ym maes cyswllt band eang.  Os bydd aelodau eisiau i mi wneud datganiad pellach neu ateb cwestiynau ynglŷn â hyn pan fydd y Cynulliad yn dychwelyd, byddwn yn hapus i wneud hynny.

Mae’r gwaith o gyflwyno’r rhaglen Cyflymu Cymru yn dod yn ei flaen yn dda. Cyrraedd 96% o gartrefi a busnesau Cymru erbyn diwedd gwanwyn 2016 yw ein nod, sy’n golygu y bydd band eang ffeibr cyflym ar gael i ragor o bobl nag yng ngweddill y Deyrnas Unedig, a hynny’n gyflymach hefyd. Mae tasg fwy o’n blaenau nag mewn rhannau eraill o’r Deyrnas Unedig. 

Mae gosod 17,500 cilometr o geblau ffeibr optegol a rhyw 3,000 o gabinetau gwyrdd wrth ymyl y ffordd, ar hyd a lled Cymru, yn dasg aruthrol. Golyga hyn y bydd 691,000 o gartrefi a busnesau drwy’r wlad yn gallu manteisio ar fand eang ffeibr cyflym, yn sgil rhaglen Cyflymu Cymru. 

Mae Cyflymu Cymru yn golygu y bydd y rhan fwyaf o gartrefi a busnesau yn gallu defnyddio band eang i lawrlwytho deunydd ar gyflymder o fwy na 30 megabit yr eiliad erbyn 2016. Bydd o leiaf 40% o’r holl gartrefi a busnesau yn yr ardal ymyrryd hefyd yn gallu manteisio ar gyflymder o fwy na 100 megabit yr eiliad. Mae hyn yn cyd-fynd ag uchelgais yr Undeb Ewropeaidd o sicrhau bod band eang ffeibr cyflym ar gael yn helaeth erbyn 2020. Er mwyn cefnogi’r uchelgais hwn mae’r UE yn cyfrannu £90 miliwn drwy’r rhaglen ERDF er mwyn ariannu’r gwaith o gyflenwi a chyflwyno Cyflymu Cymru ar draws Cymru.

Mae’n bleser gen i gyhoeddi heddiw y bydd chwedeg a chwech o gymunedau eraill ar draws 10 awdurdod lleol yng Nghymru yn derbyn band eang ffeibr cyflym erbyn haf 2015 drwy’r rhaglen Cyflymu Cymru. Golyga hyn y bydd modd i dros 500,000 o gartrefi a busnesau ledled Cymru fanteisio ar y dechnoleg sy’n cynnig cyflymder lawer gwell na’r hyn sydd ar gael ar hyn o bryd. Byddant yn ymuno â channoedd o gymunedau ar draws Cymru sydd un ai ar fin derbyn cyswllt band eang cyflym neu sydd eisoes wedi’i dderbyn drwy Cyflymu Cymru.

Ymysg y cymunedau hyn fydd ardaloedd yn Sir Fynwy, Sir Gaerfyrddin, Sir Benfro a Chonwy. Mae gan rai ardaloedd yng Ngwynedd, Ynys Môn, Sir y Fflint a Blaenau Gwent eisoes gyswllt band eang cyflym erbyn hyn. Ceir rhagor o fanylion ynghylch amserlen y rhaglen hyd at a chan gynnwys mis Mehefin 2015 ar y wefan sef www.cyflymu-cymru.com.

Roedd band eang ffeibr cyflym ar gael i ryw 156,000 o gartrefi a busnesau erbyn diwedd mis Mai 2014. Y nod yw sicrhau ei fod ar gael i ryw 480,000 – neu ryw un rhan o dair – o gartrefi a busnesau Cymru erbyn gwanwyn 2015.  

Ond er mwyn gwneud hyn, mae angen prysuro’r gwaith, a’i gyflwyno i ryw 100,000 o gartrefi a busnesau y chwarter. Mae hynny’n golygu ei gyflwyno’n gyflymach o lawer nag mewn sawl rhan arall o’r Deyrnas Unedig. Er enghraifft, bydd Swydd Bedford, Gogledd Swydd Lincoln a Manceinion Fwyaf, gyda’i gilydd, yn darparu band eang ffeibr cyflym i ryw 103,000 o gartrefi a busnesau hyd at ddiwedd mis Mawrth 2016.  Neu o gymharu’r hyn sy’n digwydd yng Nghymru ac ardal Cumbria, lle gallwn ni weld cyflwyno band eang ffeibr cyflym i 100,000 o gartrefi a busnesau bob chwarter, bydd yn cymryd hyd at ddiwedd 2015 i 148,000 o gartrefi elwa yn Cumbria. Mae’r cymariaethau hyn yn dangos yn gwbl glir sut y mae Cymru yn cyflawni mwy a hynny’n gyflymach wrth ddarparu band eang cyflym iawn i eiddo.

Mae’r cynllun yn cael ei gyflwyno’n gyflym iawn yng Nghymru ac mae BT yn wynebu cryn her. Mae’r ffaith fod hyn yn digwydd mor gyflym, ac i gymaint o gartrefi a busnesau, a’r cymhlethdodau sy’n gysylltiedig â’r gwaith, yn rhwystrau gwirioneddol y mae’n rhaid eu goresgyn. Ond mae BT yn gweithio’n galed ar lawr gwlad i gyrraedd y targedau chwarterol hyn.  

Ni fydd y newid o fand eang “arferol” i fand eang ffeibr cyflym yn digwydd fel mater o drefn. Fel arfer, bydd rhaid i’r defnyddiwr ddewis cael ei drosglwyddo i gysylltiad ffeibr cyflym pan fydd y gwasanaeth ar gael iddo. Unwaith y mae’r gwasanaeth ar gael yn yr ardal, dylai unrhyw un sy’n awyddus i fanteisio arno gysylltu â’r cwmni sy’n darparu gwasanaethau’r rhyngrwyd iddo (yr “ISP”) neu ddefnyddio gwefan gymharu i ddod o hyd i ddarparwr addas.  

Byddwn yn ddiolchgar pe baech yn annog eich etholwyr i ystyried newid i fand eang ffeibr cyflym, yn yr ardaloedd hynny lle mae’r gwasanaeth eisoes ar gael.

Dywedais yn fy natganiad ysgrifenedig diwethaf y byddem yn cyhoeddi manylion y ffordd yr aethpwyd ati i brofi a gwirio cartrefi a busnesau. Mae’r wybodaeth hon bellach ar gael ar wefan Cyflymu Cymru (www.cyflymu-cymru.com).

Gallaf hefyd gyhoeddi rhai newidiadau pwysig i gynllun Allwedd Band Eang Cymru. Yn gyntaf, mae’r meini prawf sy’n cysylltu cymhwystra o dan y cynllun ag amserlen Cyflymu Cymru ar gyfer pob ymgeisydd bellach wedi’u dileu oherwydd bod cyhoeddiadau heddiw’n golygu bod yr amserlen gyflwyno bellach yn cynnwys y rhan fwyaf o Gymru. Golyga hyn y gall mwy o bobl a busnesau sydd â chyswllt band eang araf iawn elwa ar y cyllid sydd ar gael.  
Yn ail, bydd angen i unrhyw ateb a gaiff ei ariannu gan y cynllun allu sicrhau cyswllt band eang cyflym iawn, yn unol â’n hamcan cyffredinol, a hefyd alluogi cwsmeriaid i fanteisio ar gyswllt band eang cyflym a dibynadwy.

Yn olaf, byddwn yn gofyn i gwsmeriaid roi cyfraniad ariannol tuag at gost y gwaith gosod. Bydd Llywodraeth Cymru’n talu 90% o’r costau hyd at uchafswm o £900 fesul safle. Trwy ofyn i bobl roi cyfraniad bach byddwn yn sicrhau gwell gwerth am arian cyhoeddus. Bydd modd i’r bobl a fydd yn derbyn grant hefyd aros i weld sut y bydd eu heiddo’n elwa ar Cyflymu Cymru.

Bydd y newidiadau hyn i Allwedd Band Eang Cymru yn atgyfnerthu ymhellach y cysylltiadau rhwng y cynllun a Cyflymu Cymru, gan sicrhau dull cydlynol o ddarparu cyswllt bang eang i drigolion Cymru.