Neidio i'r prif gynnwy

Julie James AC, Arweinydd y Tŷ a’r Prif Chwip

Cyhoeddwyd gyntaf:
10 Rhagfyr 2018
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Wrth inni nesáu at ddiwedd tymor a blwyddyn gyfredol y Cynulliad, hoffwn fanteisio ar y cyfle hwn i dynnu sylw  at lwyddiant prosiect Cyflymu Cymru wrth wella cysylltiad ffeibr cyflym ledled Cymru.

Mae sefyllfa band eang ledled Cymru wedi gweld newid dramatig dros y bum mlynedd ddiwethaf.  Mae gan Gymru bellach fand eang i dros 95% o gartrefi a busnesau, a chynnydd o bron 100% yn y mynediad at wasanaethau cyflym iawn ers i Cyflymu Cymru ddechrau yn 2012, gan olygu bod Cymru yn yr un sefyllfa â gweddill y DU.  Mae buddsoddiad y sector cyhoeddus, gan ategu buddsoddiad y sector preifat wedi bod yn hanfodol i'r trawsnewidiad hwn.

Mae prosiect Cyflymu Cymru wedi gwneud gwahaniaeth enfawr i'r ddarpariaeth ffeibr cyflym ledled Cymru, gan gysylltu cartrefi, busnesau a chymunedau na fyddai wedi eu cysylltu gan gwmnïau masnachol.

Mae prosiect Cyflymu Cymru wedi bod yn brosiect enfawr, gan godi dros 3,500 o gabinetau ffeibr ar ochr y ffordd, codi dros 5,000 o bolion telegraff newydd a gosod miliynau o fetrau o geblau ffeibr yn rhai o'r ardaloedd daearyddol mwyaf heriol.  Mae wedi'i ddarparu gan dros 1,000 o beirianwyr Openreach ac wedi cynnwys dros 100 o brentisiaethau newydd.  Mae'r dasg peirianneg sifil enfawr hon wedi golygu bod Llywodraeth Cymru wedi buddsoddi dros £200 miliwn wrth ddarparu mynediad i fand eang cyflym iawn i dros 733,000 o fusnesau ac adeiladau preswyl.         

O'r rhain, mae gan 733,000 ohonynt, dros 717,000, gyswllt o leiaf 30Mbps o gyflymder a'r gweddill gyswllt o fwy na 24Mbps.  Mae'r rhain yn adeiladau na fyddai fel arall wedi gallu derbyn cysylltiad band eang ffeibr cyflym heb ein cymorth ni.

Mae Cymru wedi bod ar y blaen hefyd o ran defnyddio cysylltiad Ffeibr i'r Adeilad Openreach, gyda bron 49,000  o'r holl gartrefi a busnesau sydd wedi'u cysylltu trwy'r Cynllun bellach â chyswllt o fwy na 100Mbps a gigabit yn y dyfodol. O gyfuno hynny â'r cysylltiadau a wnaed yn fasnachol, gall mwyafrif llethol yr adeiladau ym mhob un o'n 22 o awdurdodau lleol gysylltu â band eang ffeibr cyflym.

Dylem sylweddoli faint sydd wedi'i gyflawni dros y bum mlynedd diwethaf drwy Cyflymu Cymru. Mae adeiladau ar draws pob etholaeth yng Nghymru, rhai yn cynnwys ardaloedd mwyaf gwledig Cymru, wedi derbyn band eang ffeibr cyflym o ganlyniad i'r prosiect hwn. Fodd bynnag, rwyf yn cydnabod bod sicrhau band eang ffeibr cyflym ar raddfa fawr ledled Cymru, yn enwedig mewn ardaloedd gwledig, wedi bod yn heriol iawn, ac mewn rhai achosion yn brofiad rhwystredig iawn i aelodau a'u hetholwyr.  Rwyf wedi ymrwymo o hyd i ddeall y problemau gwaelodol ac i weithio gyda'r Aelodau i ddysgu gwersi, datrys problemau a chyfarfod â chymunedau.

Yn y pen draw, prif fesur o lwyddiant y prosiect fydd y bobl a'r busnesau sy'n mabwysiadu hyn ac yn ei ddefnyddio i gael mynediad i'r gwasanaethau y maent eu hangen ac i elwa'n gymdeithasol ac yn economaidd.  Mae ein hymgyrch farchnata oedd wedi'i thargedu wedi cyfrannu at y ffaith bod y nifer sy'n defnyddio gwasanaethau band eang o seilwaith Cyflymu Cymru wedi cyrraedd 49%, llwyddiant anhygoel o ystyried y nod a gyhoeddwyd gennym o gyrraedd 50% erbyn 2023.

Ond mae cartrefi a busnesau o hyd sydd heb gyflymder cyflym iawn a dyna pam yr wyf wedi amlinellu cyfres o fesurau i fynd i'r afael â'r methiant parhaus yn y farchnad. Bydd y prosiect sy'n dilyn Cyflymu Cymru, i ddechrau yn gynnar yn 2019, yn cynnig helpu i gysylltu adeiladau sydd heb eu cysylltu drwy Cyflymu Cymru.  Rhagwelir y bydd yr adeiladau cyntaf yn cael eu cysylltu erbyn diwedd 2019, gyda'r mwyafrif llethol ohonynt yn derbyn cysylltiad ffeibr llawn.  Byddwn yn parhau i gefnogi mynediad at gysylltiadau band eang cyflym iawn drwy ein cynlluniau talebau.