Neidio i'r prif gynnwy

Gwenda Thomas AM, Dirprwy Weinidog Gwasanaethau Cymdeithasol

Cyhoeddwyd gyntaf:
31 Gorffennaf 2013
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2011 i 2016

Er 2010, rydym wedi bod yn cyflawni'n raddol ein hymrwymiad yn y Rhaglen Lywodraethu i gyflwyno Gwasanaethau Integredig Cymorth i Deuluoedd (IFSS) fesul cam ar draws Cymru.

Y llynedd, cyhoeddais gynlluniau er mwyn sicrhau bod y gwasanaeth arloesol hwn yn weithredol ar draws Cymru erbyn diwedd 2013. Drwy gyflwyno'n llwyddiannus Gamau 1, 2 a 3 o'r rhaglen gyflawni, cynigir IFSS ar hyn o bryd mewn 13 o ardaloedd awdurdodau lleol yng Nghymru, sy'n gweithio mewn partneriaeth â'u Byrddau Iechyd Lleol priodol.  

Mae'n bleser gennyf, felly, gyhoeddi ein bod wedi cyrraedd carreg filltir arwyddocaol arall tuag at sicrhau bod ein plant a'n teuluoedd mwyaf agored i niwed yn gallu cael mynediad teg a phrydlon at y gwasanaeth hwn. O heddiw ymlaen, drwy gychwyn y cam terfynol ar gyfer cyflwyno'r gwasanaeth (Cam 4), bydd IFSS yn weithredol mewn pum ardal awdurdod lleol arall, sy'n golygu bod 18 ardal awdurdod lleol yng Nghymru, gan gynnwys Caerffili, Blaenau Gwent, Sir Fynwy, Torfaen a Sir y Fflint, bellach yn rhan o'r rhaglen.

Hoffwn ddiolch o galon a thalu teyrnged i'r holl bartneriaid yn ardal consortiwm newydd IFSS Gwent a'r consortiwm IFSS sydd ar fin cychwyn yng Ngogledd Cymru am eu harweiniad, eu hegni a'u hymrwymiad yn creu Timau Integredig Cymorth i Deuluoedd yn eu rhanbarthau a fydd yn cynnig cymorth dwys ac yn gwneud gwahaniaeth go iawn i blant a theuluoedd yng Nghymru y mae arferion camddefnyddio sylweddau eu rhieni'n effeithio arnynt.

Mae elfennau terfynol Cam 4 y rhaglen gyflawni ar y trywydd iawn i gyrraedd y dyddiad targed ar ddiwedd 2013. Bydd hyn yn ehangu'r gwasanaeth ymhellach ac yn creu Timau Integredig Cymorth i Deuluoedd ychwanegol ar draws consortiwm y Gogledd.


Wrth weithredu'r ymrwymiad hwn, mae Awdurdodau Lleol a Byrddau Iechyd Lleol yn parhau i feithrin perthynas gref â'i gilydd, yn torri unrhyw ffiniau rhwng sefydliadau ac yn croesawu dulliau newydd o weithio yng Nghymru i helpu pobl yn ein cymunedau'n well. Yn wir, mae'r pwyslais hwn ar integreiddio a chydweithredu er mwyn cynnig gwasanaethau effeithiol yn adlewyrchu gwerthoedd craidd Bil Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) ac mae'r Bil ei hun yn cynnwys darpariaeth ar gyfer cydweithredu yn y dyfodol.

Hoffwn ddiolch i'r holl Dimau Integredig Cymorth i Deuluoedd ar draws Cymru am eu gwaith caled parhaus yn darparu’r gwasanaeth pwysig hwn a diolch i'r Aelodau yn eu rôl rhianta corfforaethol am gefnogi'r rhaglen hon sy'n dechrau trawsnewid bywydau rhai o'n plant a'n teuluoedd mwyaf difreintiedig yma yng Nghymru. Byddaf yn parhau i roi'r diweddaraf i Aelodau am ddatblygiadau pellach, ond yn y cyfamser, hoffwn ddymuno pob llwyddiant i'r timau newydd.

Caiff y datganiad ei gyhoeddi yn ystod y toriad er mwyn rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf i aelodau. Os bydd aelodau eisiau i mi wneud datganiad pellach neu ateb cwestiynau ynglŷn â hyn pan fydd y Cynulliad yn dychwelyd, byddwn yn hapus i wneud hynny.