Neidio i'r prif gynnwy

Julie James AC, y Gweinidog Tai a Llywodraeth Leol

Cyhoeddwyd gyntaf:
10 Chwefror 2020
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Heddiw, mae'r Bil Rhentu Cartrefi (Diwygio) (Cymru) a'r Memorandwm Esboniadol cysylltiedig wedi cael eu cyflwyno i'r Cynulliad Cenedlaethol.

Bydd y Bil yn diwygio Deddf Rhentu Cartrefi (Cymru) 2016 ("Deddf 2016") i roi mwy o sicrwydd i bobl sy'n rhentu eu cartrefi yng Nghymru. Bydd hyn yn effeithio'n benodol ar y rheini sy'n byw yn y sector rhentu preifat ac sy'n byw yn eu cartrefi o dan 'gontract meddiannaeth safonol', sy'n cyfateb i'r denantiaeth fyrddaliadol sicr bresennol, wedi i Ddeddf 2016 ddod i rym.

Cyflawnir y nod o roi sicrwydd ychwanegol i ddechrau drwy ymestyn y cyfnod hysbysu byrraf cyn y ceir rhoi hysbysiad adran 173 o dan Ddeddf 2016 (sy'n cyfateb i hysbysiad adran 21 ar hyn o bryd o dan Ddeddf Tai 1988) o ddau fis i chwe mis.  Caiff landlordiaid eu hatal hefyd rhag rhoi hysbysiad o'r fath am o leiaf chwe mis ar ôl y dyddiad meddiannu, sy'n golygu y bydd gan y rheini sy'n rhentu eu cartref o leiaf 12 mis o sicrwydd deiliadaeth o ddechrau eu contract (mae hyn yn dyblu hyd y cyfnod sicrwydd presennol).  Bydd darpariaethau pellach hefyd yn sicrhau na all landlordiaid roi hysbysiadau 'tybiannol' treigl rhag ofn, sy'n gallu tanseilio'r sicrwydd hwnnw y dylai'r rheini sy'n rhentu cartref ei fwynhau.

Mae'r Bil hefyd yn gwneud nifer o newidiadau i'r ffordd y mae contractau safonol cyfnod penodol yn gweithio i sicrhau nad yw'r rhain yn cael eu mabwysiadu gan landlordiaid diegwyddor fel ffordd o osgoi rhoi'r sicrwydd ychwanegol a ddarperir o dan gontract safonol cyfnodol.  

Yn olaf, mae'r Bil yn gwneud cyfres o fân-welliannau technegol a chanlyniadol i Ddeddf 2016.

Ym mis Hydref, ysgrifennais at yr Aelodau yn eu hatgoffa o'r manteision ehangach y bydd deiliaid contractau yn eu mwynhau pan weithredir Deddf 2016.  Er enghraifft, bydd Deddf 2016 yn ceisio mynd i'r afael â phroblem troi pobl allan er mwyn dial, bydd yn ei gwneud yn ofynnol i landlordiaid osod a chynnal synwyryddion mwg a charbon monocsid, a bydd yn gwella hawliau olynu. 

Os caiff ei basio, bydd y Bil rwyf wedi ei gyflwyno heddiw yn ychwanegu mantais sylweddol arall at y rhestr honno drwy sicrhau nad oes modd rhoi hysbysiad cymryd meddiant, lle na thorrwyd y contract, am chwe mis cyntaf meddiannaeth y tenant; a lle dymunir adennill meddiant, bydd yn rhaid rhoi chwe mis o rybudd i ddeiliad y contract.  Bydd hyn yn rhoi amser gwerthfawr i unigolion a theuluoedd sy'n wynebu bygythiad o adennill meddiant o dan adran 173, ynghyd â'r cyrff a'r asiantaethau sy'n eu cefnogi, i ddod o hyd i gartref sy'n addas iddynt ac i wneud yr holl drefniadau angenrheidiol i sicrhau bod y profiad o symud i'w cartref newydd yn un llyfn.      

Byddaf yn gwneud Datganiad Deddfwriaethol yn y Cyfarfod Llawn yfory, ac edrychaf ymlaen at graffu ar y Bil dros y misoedd i ddod.