Neidio i'r prif gynnwy

Julie Morgan AC, y Dirprwy Weinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol

Cyhoeddwyd gyntaf:
25 Mawrth 2019
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Heddiw, cyflwynwyd y Bil Plant (Diddymu Amddiffyniad Cosb Resymol) (Cymru) i'r Cynulliad Cenedlaethol.

Fel llywodraeth, rydym wedi hen ymrwymo i hawliau plant ar sail Confensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau'r Plentyn. Rydym wedi ymrwymo i greu cenedl yma yng Nghymru lle mae plant a hawliau plant yn cael eu parchu, eu diogelu a'u gweithredu.

Mae Confensiwn y Cenhedloedd Unedig, ynghyd â chonfensiynau a datganiadau rhyngwladol eraill ar hawliau dynol, yn cydnabod bod gan blant yr hawl i'w hurddas a'u hawl dros eu corff o dan y gyfraith.

Bydd y Bil Plant (Diddymu Amddiffyniad Cosb Resymol) (Cymru) yn ceisio diogelu hawliau plant mewn perthynas â'r ddyletswydd yn erthygl 19 o'r Confensiwn - sef yr hawl i gael eu diogelu rhag trais o bob math. Bydd hynny'n golygu bod plant yng Nghymru yn cael eu diogelu'n gyfreithiol rhag cosb gorfforol yn yr un ffordd ag oedolion.

Bydd y Bil yn cael gwared ar amddiffyniad cosb resymol o'r gyfraith gyffredin, fel na ellir ei ddefnyddio gan unrhyw un yng Nghymru, gan gynnwys ymwelwyr, fel amddiffyniad os cânt eu cyhuddo o ymosod ar blentyn neu ei guro. Ar hyn o bryd, mae'r amddiffyniad yn berthnasol i gyfraith trosedd a chyfraith sifil.

Os bydd y Cynulliad Cenedlaethol yn pasio'r ddeddfwriaeth hon, bydd y Bil yn cael gwared ar yr amddiffyniad o dan gyfraith trosedd mewn perthynas â throseddau ymosod a churo yn y gyfraith gyffredin, ac o dan y gyfraith sifil mewn perthynas â chamwedd tresmasu yn erbyn y person.

Bydd hyn yn berthnasol i rieni, gofalwyr, gwarcheidwaid a phob oedolyn sy'n gweithredu in loco parentis mewn lleoliadau nas rheoleiddir, gan gynnwys lleoliadau dysgu, addoli, chwarae, hamdden, yn y cartref neu unrhyw leoliad arall.

Bwriad y Bil yw helpu i ddiogelu hawliau plant drwy wahardd cosbi'n gorfforol, a hynny drwy ddileu'r amddiffyniad.

Nid yw'r gweithredoedd a fyddai neu na fyddai'n gyfystyr â chosbi corfforol ar ôl i'r amddiffyniad gael ei ddileu wedi'u nodi yn y Bil. Mae hyn yn berthnasol i unrhyw gosbi "corfforol", a ddiffinnir yn y Bil fel "unrhyw achos o guro plentyn neu blant a wneir fel cosb".

Mae rhieni yn dod i gysylltiad corfforol â phlant bob dydd mewn pob math o ffyrdd. Ni fydd cael gwared ar yr amddiffyniad yn amharu ar egwyddorion eraill y gyfraith gyffredin, sy'n cydnabod y caiff rhiant ymyrryd yn gorfforol i ddiogelu plentyn rhag niwed, neu i helpu â gweithgareddau bob dydd fel gwisgo neu at ddibenion hylendid a glendid, er enghraifft.

Gall arfer awdurdod rhiant hefyd ei gwneud yn ofynnol defnyddio ymyriadau corfforol sy’n angenrheidiol at ddiben defnyddio dulliau eraill yn lle cosb gorfforol, er mwyn annog ymddygiad cadarnhaol a chadw plant yn ddiogel. Byddai hynny'n cynnwys, er enghraifft, gario plentyn i rywle i gymryd amser i ymdawelu.

Roedd deddfu i gael gwared ar amddiffyniad cosb resymol yn un o ymrwymiadau'r rhaglen lywodraethu, sydd wedi'i ategu yn strategaeth genedlaethol Ffyniant i Bawb.

Byddaf yn gwneud datganiad llafar am y Bil yfory.