Mark Drakeford AS, Cyflwyno'r Bil Llety Ymwelwyr (Cofrestr ac Ardoll) Etc. (Cymru)
Mae'r Bil Llety Ymwelwyr (Cofrestr ac Ardoll) Etc. (Cymru) yn cael ei gyflwyno i'r Senedd heddiw.
Fel un o ymrwymiadau ein Rhaglen Lywodraethu, mae'r Bil yn gam tuag at sicrhau tegwch o ran ariannu gwasanaethau a seilwaith lleol, sy'n cefnogi ein diwydiant twristiaeth llewyrchus. Mae'n paratoi'r ffordd i awdurdodau lleol gyflwyno ardoll ar aros dros nos mewn llety ymwelwyr, os ydynt yn dewis gwneud hynny.
Un o egwyddorion treth Llywodraeth Cymru yw y dylid datblygu ein trethi drwy gydweithredu ac ymwneud. Drwy ymgynghori, ymgysylltu parhaus a'r gwaith darganfod a arweiniwyd gan Awdurdod Cyllid Cymru, rydym wedi cael adborth cyson bod angen cael math o gofrestru ar waith i gefnogi'r ardoll. Mae hyn wedi llywio ein penderfyniad i gynnwys cofrestr genedlaethol o bawb sy'n darparu llety ymwelwyr yng Nghymru yn y Bil.
Bydd y gofrestr yn darparu data gwerthfawr i lywio'r gwaith o ddatblygu twristiaeth yn y dyfodol, ac yn helpu i sicrhau bod yr ardoll yn cael ei chasglu'n effeithlon, ym mhob man y caiff ei chyflwyno.
Mae'r egwyddor tegwch wrth wraidd y Bil hwn. Drwy roi'r pŵer a'r dewis i awdurdodau lleol i gyflwyno ardoll ymwelwyr, ar sail eu hamgylchiadau lleol, mae'n sicrhau bod y bobl sy'n elwa o dwristiaeth yn gwneud cyfraniad bach ond pwysig tuag at gynnal ardaloedd lleol. Byddant hefyd yn buddsoddi yn nyfodol Cymru.
Mae ardollau ymwelwyr yn chwarae rhan hanfodol yn y gwaith o gefnogi cymunedau a diogelu'r amgylchedd ledled y byd, ac mae'r manteision gwirioneddol sy'n deillio o ailfuddsoddi arian a godir drwy ardollau ymwelwyr i'w gweld mewn nifer mawr o wledydd. Credwn fod modd efelychu'r llwyddiant hwnnw yng Nghymru.
Mae'r Bil yn pennu ardoll ymwelwyr o 75c y pen y noson am aros mewn safleoedd gwersylla (lleiniau) a hosteli a £1.25 y pen y noson am aros ym mhob math arall o lety.
Pe bai pob awdurdod lleol yn cyflwyno ardoll, gallai godi hyd at £33m ledled Cymru. A ninnau'n wynebu pwysau cyllidebol sylweddol, gallai'r refeniw ychwanegol hwn gael effaith gadarnhaol sylweddol ar ein cymunedau. Mae'r sector twristiaeth yn rhan bwysig o economi Cymru, ac mae sicrhau ei fod yn gynaliadwy yn y tymor hir yn flaenoriaeth.
Rwy'n croesawu gwaith craffu Aelodau'r Senedd ar y Bil hwn. Mae'n gyfle i fuddsoddi yn nyfodol yr economi ymwelw