Neidio i'r prif gynnwy

Leighton Andrews, Y Gweinidog Addysg a Sgiliau

Cyhoeddwyd gyntaf:
14 Gorffennaf 2011
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2011 i 2016

Ym mis Chwefror, cyhoeddais fy mod yn bwriadu sefydlu Uned Safonau Ysgolion newydd yn fy adran.  Sefydlwyd yr Uned ym mis Mai ac un o’i thasgau cyntaf oedd datblygu’r system fandio genedlaethol ar gyfer ysgolion fel rhan o’r agenda ar gyfer gwella y soniais amdani yn fy araith ym mis Chwefror.  

A ninnau ar fin cyrraedd diwedd y tymor, rwyf am roi’r wybodaeth ddiweddaraf i gydweithwyr am y gwaith ar ddatblygu’r system, nodi’r hyn fydd y system yn ei wneud, ac amlinellu’r prif gamau sydd wedi’u cynllunio ar gyfer tymor yr hydref.

Un o gyfres o gamau polisi yw’r system fandio, a luniwyd i roi ffocws cliriach i ni ar ein perfformiad a’n cynnydd. Bydd y system fandio genedlaethol yn gosod ysgolion uwchradd a chynradd mewn bandiau sy’n seiliedig ar eu canlyniadau a’u cynnydd, a chan gymryd i ystyriaeth yr her y maen nhw’n ei hwynebu o ran yr amgylchiadau economaidd-gymdeithasol.  Ni chaiff ysgolion arbennig eu bandio.

Bydd y system fandio yn defnyddio setiau data cenedlaethol er mwyn cael cysondeb wrth grwpio ysgolion yn ôl eu cam ar y daith tuag at welliant.  Bydd yn fan cychwyn i’r Uned Safonau Ysgolion drafod gyda chonsortia ac awdurdodau lleol y blaenoriaethau ar gyfer cymorth a her.  Yn ei dro, bydd yn fan cychwyn i gonsortia ac awdurdodau lleol drafod gydag ysgolion; bydd yn sail ar gyfer cyfeirio’n hadnoddau lle mae eu hangen fwyaf i sicrhau ein bod yn cyflawni’r gwelliannau sy’n angenrheidiol yn ein system ysgol.

NID hanfod bandio yw labelu ysgolion, eu henwi na chodi cywilydd arnyn nhw, na chreu tabl cynghrair cynhennus.  Yn hytrach, diben bandio yw grwpio ysgolion yn ôl amryw o ffactorau i bennu’r blaenoriaethau ar gyfer cael cymorth gwahaniaethol a nodi’r elfennau hynny y gall y sector cyfan ddysgu oddi wrthyn nhw. 

Offer yw’r system fandio genedlaethol i’n helpu ni fod yn fwy effeithiol wrth sbarduno gwelliant ar draws y bwrdd. Agwedd bwysicaf bandio yw’r cymorth, yr her a’r rhannu arferion da fydd yn dilyn. Bydd datblygu fframwaith a chanllawiau statudol i gefnogi hyn yn allweddol er mwyn sicrhau gwelliannau cynaliadwy dros y tymor hir.

Mae’r Uned Safonau Ysgolion wedi gweithio’n agos gyda’r sector.  Yn sgil y gwaith hwn mae gennym ddull peilot o fandio ysgolion uwchradd sy’n defnyddio amrywiaeth o ddata i adlewyrchu’r deilliannau mwyaf diweddar, y cynnydd a wnaed dros amser, y canlyniadau cyd-destunol a’r gwerth a ychwanegwyd.  Mae’r Uned Safonau Ysgolion yn profi ac yn treialu’r model hwn yn y rownd gyntaf o archwiliadau’r consortiwm y tymor hwn.

Yn dilyn yr adborth a gafwyd gan yr holl awdurdodau lleol y tymor hwn caiff y model ar gyfer ysgolion uwchradd ei fireinio a’i gwblhau erbyn dechrau’r flwyddyn academaidd newydd.  Mae gwaith wedi dechrau ar y model bandio ar gyfer ysgolion cynradd a fydd yn seiliedig ar yr un egwyddorion â’r model uwchradd, sef defnyddio setiau data cenedlaethol, deilliannau diweddar, cynnydd a chyd-destun.

Mae’n bwysig bod ysgolion, y rhai sy’n ymwneud â’u cefnogi ar y llwybr tuag at welliant, a rhieni yn deall pa fand y rhoddwyd eu hysgol ynddi, a beth mae hynny’n ei olygu o ran cymorth a her ac i’r blaenoriaethau ar gyfer gwella.  Dyna pam yr wyf wedi trefnu i’r sector gael eu hysbysu heddiw am y cynnydd a wnaed gennym a’r camau nesaf sydd ar y gweill o ran gweithredu’r system fandio ysgolion.

Ar ddechrau tymor yr hydref, caiff pob ysgol uwchradd fanylion am y band y rhoddwyd hi ynddo, y data y seiliwyd y bandio arno a chanllawiau manwl i’w helpu i ddehongli a deall y bandio.  Byddwn hefyd yn rhannu’r wybodaeth fandio gydag awdurdodau lleol ac yn cyflwyno cyfres o ddeunyddiau a gweithgareddau cyfathrebu i sicrhau y ceir dealltwriaeth mor gyflawn â  phosib o’r system a’i phwrpas.

Yn achos ysgolion uwchradd, bydd y bandio cyntaf hwn yn defnyddio data o ganlyniadau arholiadau allanol 2010.  Diben hyn yw sicrhau bod gan ysgolion, cyrff llywodraethu, ac awdurdodau lleol, ar ddechrau tymor yr hydref, wybodaeth fandio yn ogystal â gwybodaeth allweddol arall am berfformiad i lywio trafodaethau am berfformiad, cymharu a phennu targedau. Pan fydd data arholiadau 2011 gennym, caiff y bandiau eu diweddaru ac anfonir hysbysiad arall at yr ysgolion.

Wrth i ni symud ymlaen gyda’r gwaith ar ddatblygu’r model ar gyfer ysgolion cynradd, byddwn yn rhoi’r wybodaeth ddiweddaraf i gydweithwyr ac yn pennu amserlen ar gyfer rhyddhau gwybodaeth.