Neidio i'r prif gynnwy

Vaughan Gething, Y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol

Cyhoeddwyd gyntaf:
13 Mawrth 2019
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Ym mis Chwefror 2018, ymrwymais i gyflwyno system ddigidol offthalmig i atgyfeirio pobl yn sydyn am driniaeth a lle bo’n briodol, i alluogi mwy o bobl i gael triniaeth a gofal yn lleol. Gweledigaeth Llywodraeth Cymru yn Cymru Iachach yw dull sy’n canolbwyntio ar yr unigolyn. Mae sicrhau gwasanaeth digidol i wasanaethau offthalmig yn gam sylweddol i gefnogi byrddau iechyd i ddarparu mwy o wasanaethau y tu allan i ysbytai, yn nes at y cartref ac i leihau’r amser y mae pobl yn gorfod ei aros am driniaeth.

Rwy’n falch o gyhoeddi fy mod wedi cytuno ar £7.087 miliwn o gyllid ychwanegol ar gyfer cyflwyno system ddigidol newydd ar gyfer gofal llygaid ar draws gofal sylfaenol ac eilaidd. Bydd digido yn helpu i leihau galw mewn gofal eilaidd ac yn darparu profiad gwell a chanlyniadau gwell i ddinasyddion ledled Cymru.

Bydd cyflwyno atgyfeiriadau electronig o bractisau optometreg cymunedol i adrannau llygaid ysbytai’n cysylltu’r system gyfan i ddarparu atgyfeiriadau cleifion diogel ac amserol ar gyfer diagnosis a thriniaeth. Bydd hyn yn sicrhau bod atgyfeiriadau’n cael eu gwneud yn gyflym a diogel i osgoi oedi mewn triniaeth. Gan adeiladu ar atgyfeirio electronig, bydd Cofnod Electronig am Gleifion yn cael ei gyflwyno a fydd yn galluogi practisau optometreg cymunedol ac adrannau llygaid ysbytai i weld cofnod claf, gan ddarparu gofal a monitro parhaus ar y cyd.

Gwn fod y bygythiad i iechyd llygaid o glefydau sy’n achosi dallineb yn dod yn gynyddol gyffredin a chyda phoblogaeth sy’n heneiddio rydym yn wynebu heriau sylweddol wrth i fwy o bobl fod angen gwasanaethau.

Rwyf wedi bod yn bryderus iawn am y risg i gleifion ar restr aros ddilynol ar gyfer triniaeth ac adolygiad offthalmoleg. Bydd perfformiad yn erbyn mesur newydd ar gyfer cleifion gofal llygaid yn dechrau cael ei gofnodi o fis Ebrill 2019. Bydd y mesur newydd yn sicrhau y dylai pob claf, boed yn atgyfeiriad newydd neu’n apwyntiad dilynol, gael ei weld o fewn dyddiad adolygu y cytunwyd arno’n glinigol. Mae’r mesur newydd yn heriol. Mae cyflwyno llwybrau cynaliadwy’n genedlaethol yn allweddol i sicrhau bod GIG Cymru’n gallu parhau i gefnogi cleifion.

Mae angen i fyrddau iechyd weddnewid darpariaeth gwasanaethau yn awr i ddiwallu’r anghenion a amcangyfrifir ar gyfer y dyfodol.

Fis diwethaf, dyrennais £3.3 miliwn o gyllid afreolaidd i fyrddau iechyd i wneud y newidiadau angenrheidiol i weddnewid gwasanaethau gofal llygaid a gweithredu’r llwybr cenedlaethol y cytunwyd arno ledled Cymru. Mae pob bwrdd iechyd wedi derbyn cyllid i gefnogi gwasanaethau allweddol a fydd yn sicrhau’r effaith orau i bobl sy’n byw â chyflyrau fel glawcoma, cataract, retina meddygol a dirywiad macwlaidd sy’n gysylltiedig â henaint. Mae cynlluniau sy’n gysylltiedig â’r buddsoddiad hwn yn cynnwys:

  • ehangu neu sefydlu gwasanaethau cymunedol, i sicrhau bod pobl yn cael eu gweld yn y lleoliad mwyaf priodol a chan y person mwyaf priodol;
  • ailgynllunio llwybrau yn unol â’r rhai y cytunwyd arnynt yn genedlaethol yn 2016;
  • cyflwyno a datblygu clinigau rhithwir ymhellach;
  • ehangu cymysgedd sgiliau staff, i gynnwys nyrsys all rhoi pigiadau ac optometryddion i rannu gofal yn ddiogel rhwng gweithwyr gofal llygaid cymunedol ac ysbytai.

Mae Canolfannau Diagnostig a Thriniaeth Offthalmig yn elfen allweddol o gynlluniau byrddau iechyd i ddarparu gwasanaethau cymunedol i asesu a rheoli cleifion sydd â chyflyrau llygaid â risg isel o ddirywio. Mae’r canolfannau hyn hefyd yn sicrhau bod gan wasanaethau cataract glinigau un stop, clinigau gweithio cymunedol a rhithwir, sy’n newid gweddnewidiol hanfodol i fyrddau iechyd ei weithredu a sicrhau bod y claf a’i anghenion yn ganolog i’r broses.

Mae’r cyhoeddiad hwn yn dangos fy ymrwymiad parhaus i fuddsoddi a chefnogi byrddau iechyd i ysgogi newid, a gwella a darparu’r gwasanaethau gorau posibl ym maes gofal offthalmig.