Julie James AS, y Gweinidog Newid Hinsawdd
Yn sgil y gwaethygiad sydyn yn y brwydro yn Sudan, a ddechreuodd ar 15 Ebrill 2023, mae Llywodraeth y DU wedi newid y ffordd y mae'n cymhwyso'r prawf preswylfa fel arfer at y rhai sydd wedi gadael eu cartrefi yno i ddod i'r DU. Bydd y prawf preswylfa fel arfer, sy'n atal rhywun sydd â'r hawl i ddod i mewn i'r DU rhag hawlio budd-daliadau yn syth ar ôl cyrraedd, a all gymryd hyd at dri mis i'w gwblhau, yn cael ei ddatgymhwyso yn achos y rhai sydd wedi dianc o'r gwrthdaro yn Sudan. Drwy ddatgymhwyso'r prawf preswylfa fel arfer bydd y rhai sy'n cyrraedd y DU yn gallu hawlio budd-daliadau ar unwaith, gan gynnwys cymorth tai a digartrefedd.
Er mwyn cysoni cyfraith tai yng Nghymru â'r newid gan Lywodraeth y DU, fel y gall pobl sy'n dod i Gymru o Sudan fod yn gymwys i wneud cais am dai cymdeithasol a chymorth digartrefedd, bwriadaf osod Rheoliadau Dyrannu Tai a Digartrefedd (Cymhwystra) (Cymru) (Diwygio) (Rhif 2) 2023 drafft (“y Rheoliadau drafft”). Y rhai fydd yn gymwys yw gwladolion Prydeinig, personau eraill nad ydynt yn ddarostyngedig i reolaeth fewnfudo (neu nad ydynt yn cael eu trin felly), ac unrhyw un sydd â chaniatâd mewnfudo a hawl i gyllid cyhoeddus sydd wedi gadael ei gartref oherwydd y gwrthdaro yno.
Rydym yn disgwyl y bydd y niferoedd o bobl sy'n dod i Gymru yn fach iawn, ond gan fod pobl eisoes yn cyrraedd y DU o Sudan, mae'n rhaid i'r newidiadau hyn gael eu gwneud cyn gynted ag y bo modd. O ganlyniad, caiff y Rheoliadau drafft eu gosod ar 22 Mai i'w hystyried gan y Senedd ar 6 Mehefin. Rwyf wedi gwneud y penderfyniad i gyflymu'r broses hon oherwydd natur frys y sefyllfa ac i roi sicrwydd i randdeiliaid a'r rhai sy'n cyrraedd o Sudan mewn perthynas â'r gwasanaethau y gallant eu defnyddio ar ôl cyrraedd.
Rwyf wedi ysgrifennu i'r Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a'r Cyfansoddiad i ofyn am ei gymorth i ystyried y Rheoliadau ar fyrder er mwyn i Aelodau'r Senedd gael gweld adroddiad y Pwyllgor cyn y ddadl ar 6 Mehefin 2023.
Rwy'n ddiolchgar i'r pwyllgor ac i'm cyd-aelodau yn y Senedd am eu cefnogaeth o ran y mater anarferol ond brys ei natur hwn.