Neidio i'r prif gynnwy

Huw Lewis, Y Gweinidog Addysg a Sgiliau

Cyhoeddwyd gyntaf:
16 Gorffennaf 2015
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2011 i 2016

Mae’n bleser gen i gyhoeddi y bydd offeryn asesu newydd ar gyfer y Cyfnod Sylfaen, sydd wedi’i ddatblygu gan athrawon ac ymarferwyr, yn statudol ar gyfer plant ym Mlwyddyn y Derbyn o fis Medi.

Dangosodd y gwerthusiad annibynnol diweddar o’r Cyfnod Sylfaen ei fod yn cyflawni gwelliannau gwirioneddol ymhlith ein dysgwyr tair i saith oed ac mae’n annog ysgolion a lleoliadau eraill i wneud mwy i sefydlu egwyddorion a dulliau’r Cyfnod Sylfaen. 

Credaf y bydd Proffil y Cyfnod Sylfaen (y Proffil) yn offeryn pwysig iawn  a fydd yn helpu ymarferwyr i gefnogi datblygiad parhaus ymarfer y Cyfnod Sylfaen. Mae’n ymateb i anghenion ysgolion ac ymarferwyr ac yn rhoi asesiad llinell sylfaen sy’n gyson ar lefel genedlaethol o blant ar ddechrau eu cyfnod mewn addysg statudol.  

Roeddwn yn ymwybodol o’r angen i sicrhau bod y Proffil yn offeryn y gall athrawon ac ymarferwyr eraill y blynyddoedd cynnar ei ddefnyddio ac nad yw’n feichus. Am y rheswm hwn mae swyddogion wedi cydweithio’n agos ag athrawon ac ymarferwyr wrth ddatblygu’r Proffil. Gwnaed hyn drwy Grŵp Gorchwyl a Gorffen Ymarferwyr a chynhaliwyd gwaith treialu cynhwysfawr gan ddefnyddio proffil drafft gydag oddeutu 150 o ysgolion a meithrinfeydd rhwng mis Ionawr a mis Mawrth 2015.   

Rydym wedi cydweithio â’r consortia a’r awdurdodau lleol er mwyn datblygu rhaglen hyfforddi genedlaethol a fydd yn sicrhau bod ymarferwyr ar draws Cymru’n deall y Proffil a’i fod yn cael ei ddefnyddio mewn modd cyson.  

Caiff y Proffil ei ddefnyddio i asesu pob plentyn ar ddechrau Blwyddyn y Derbyn a bydd yn ei gwneud hi’n bosibl i olrhain eu cynnydd gydol eu hamser yn yr ysgol. Bydd dyletswydd statudol ar ysgolion i ddefnyddio’r Proffil ar ddechrau amser plentyn yn y Dosbarth Derbyn ond bydd modd ei ddefnyddio’n wirfoddol ym mlynyddoedd eraill y Cyfnod Sylfaen gyda dysgwyr rhwng tair a saith oed yn ogystal. Caiff plant eu hasesu drwy arsylwi yn hytrach na phrofion ffurfiol. 

Un o’r egwyddorion sylfaenol wrth ddatblygu’r Proffil oedd yr angen i sicrhau ei fod yn cyd-fynd yn llwyr â’r Fframwaith Llythrennedd a Rhifedd ynghyd â’r Meysydd Dysgu diwygiedig ar gyfer Sgiliau Iaith, Llythrennedd a Chyfathrebu a Datblygiad Mathemategol, a fydd yn statudol o fis Medi 2015. Yn y tymor hwy, wrth i’r cwricwlwm newydd gael ei gynllunio a’i ddatblygu er mwyn cyflawni argymhellion Dyfodol Llwyddiannus, byddwn yn ystyried sut y bydd angen i’r Proffil gael ei ddatblygu.   

Mae’r Cyfnod Sylfaen yn elfen allweddol o raglen ehangach o waith gan Lywodraeth Cymru er mwyn llunio Fframwaith Datblygu ac Asesu’r Blynyddoedd Cynnar. Bydd y Proffil yn cynnwys y Cyfnod Sylfaen a bydd yn cyd-fynd â gwiriadau o ran twf a datblygiad a gaiff eu cynnal o oedran geni hyd nes y bydd plant yn dair oed gan ymwelwyr iechyd ac ymarferwyr Cychwyn Cadarn. Bydd hefyd yn cyd-fynd â gwybodaeth arall sydd ar gael am ddysgwyr tair i saith oed, fel yr hyn sydd ar gael gan nyrsys ysgol.
Caiff Gorchymyn a fydd yn rhoi sail statudol i’r Proffil ei osod ym mis Awst.