Neidio i'r prif gynnwy

Vaughan Gething AS, Y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol

Cyhoeddwyd gyntaf:
7 Medi 2020
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Ar 18 Awst cyhoeddodd Llywodraeth Cymru Gynllun Rheoli’r Coronafeirws, a oedd yn amlinellu ein dull ar gyfer rheoli achosion lleol o’r coronafeirws, yn seiliedig ar  egwyddorion rhagofal, cymesuredd a sybsidiaredd. Ein prif flaenoriaeth yw atal y coronafeirws rhag lledaenu, ond rhaid i unrhyw ymyriadau rydym yn eu gwneud fod yn gymesur ac yn seiliedig ar wybodaeth ac arbenigedd lleol.    

Nid yw’r coronafeirws wedi diflannu. Dros yr haf rydym wedi gweld nifer yr achosion o’r coronafeirws yn codi wrth i bobl ddychwelyd o wyliau dramor; ac wrth i bobl gymdeithasu gartref ac â ffrindiau ond heb ddilyn y canllawiau ar gadw pellter cymdeithasol.

Mae nifer yr achosion yn ardal Cyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili wedi codi’n sylweddol, o ran niferoedd absoliwt ac fel canran o’r bobl sy’n cael prawf. 

Mewn ymateb, mae’r Awdurdod Lleol, Iechyd Cyhoeddus Cymru a Bwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan wedi rhoi nifer o fesurau ar waith. Mae hyn wedi cynnwys capasiti ychwanegol ar gyfer cynnal profion yng Nghanolfan Hamdden Caerffili, mesurau diogelu ychwanegol mewn cartrefi gofal ac apêl i’r cyhoedd drwy amrediad o sianeli i atgoffa pawb o’r camau y gallwn ei gyd eu cymryd i ddiogelu ein hunain. Mae Heddlu Gwent wedi cynyddu ei weithgareddau gorfodi yn yr ardal.

Heddiw, yn dilyn cais gan awdurdodau cyhoeddus yng Nghaerffili – ac yn unol â’r broses a amlinellir yng Nghynllun Rheoli’r Coronafeirws – mae Gweinidogion wedi penderfynu cyflwyno cyfres o fesurau llymach i reoli’r feirws a diogelu iechyd y cyhoedd:

  • Bydd yn ofynnol i bob trigolyn yn ardal yr awdurdod lleol dros 11 mlwydd oed wisgo gorchudd wyneb mewn mannau o dan do fel siopau a mannau eraill lle mae cadw pellter cymdeithasol yn anodd
     
  • Ni chaniateir i bobl gwrdd o dan do ar hyn o bryd – mae hyn yn cynnwys aelodau o aelwyd estynedig, os yw un wedi cael ei sefydlu, ac aros dros nos. Caiff pobl barhau i gwrdd yn yr awyr agored
  • Ni chaniateir i bobl adael neu mynd i mewn i ardal Cyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili heb hesgus rhesymol. Mae esgus rhesymol yn cynnwys teithio ar gyfer y gwaith, os nad yw gweithio gartref yn bosibl

Bydd y mesurau newydd hyn yn dod i rym am 6pm ar ddydd Mawrth. Byddant yn cael eu hadolygu’n barhaus i fesur eu heffaith ar nifer yr achosion o’r coronafeirws yn y Fwrdeistref. Gan weithio gyda’r Awdurdod Lleol ac Iechyd Cyhoeddus Cymru byddwn yn cyflwyno rhagor o gyfyngiadau os oes angen i ddiogelu iechyd y cyhoedd.    

Rwy’n deall y bydd cyflwyno cyfyngiadau yn destun siom ac yn newyddion pryderus. Rwy’n gobeithio, gyda chymorth trigolion Bwrdeistref Caerffili, y bydd y cyfyngiadau hyn yn arwain at y cynnydd yn nifer yr achosion o’r coronafeirws yn cael ei reoli’n gyflym.

Dim ond gyda chymorth a chefnogaeth pawb sy’n gweithio ac yn byw yn ardal Cyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili y gallwn reoli nifer yr achosion o’r coronafeirws. Gyda’n gilydd gallwn leihau’r gyfradd trosglwyddo a diogelu’r bobl fwyaf agored i niwed.

Bydd Llywodraeth Cymru yn parhau i weithio’n agos i fonitro amodau ledled Cymru. Rwy’n gobeithio na fydd angen y mesurau rwyf wedi eu hamlinellu uchod mewn ardaloedd eraill.