Dawn Bowden AS, Y Gweinidog Plant a Gofal Cymdeithasol
Ymgynghorais ar y rheoliadau drafft, Rheoliadau Gwasanaethau Rheoleiddiedig (Graddau Arolygu) (Cymru) 2025, a fydd yn darparu ar gyfer system o raddau arolygu cyhoeddedig ar gyfer gwasanaethau cartrefi gofal (i oedolion a phlant) a gwasanaethau cymorth cartref o fis Ebrill 2025 ymlaen. Mae'r rheoliadau yn gweithredu'r amcan a nodir yn Neddf Rheoleiddio ac Arolygu Gofal Cymdeithasol (Cymru) 2016.
Mae'r rheoliadau drafft yn ymdrin â thair agwedd ar y system – arddangos graddau arolygu, apelio yn erbyn graddau arolygu a throseddau.
Rwy'n cyhoeddi canlyniad yr ymgynghoriad yma heddiw.