Rebecca Evans, Dirprwy Weinidog Ffermio a Bwyd
Yn dilyn fy mhenderfyniad i gadw 15 Mai fel y dyddiad cau ar gyfer cyflwyno’r Ffurflen Cais Sengl (SAF) yng Nghymru, rwy’n ysgrifennu atoch am ddatblygiadau diweddaraf y broses.
Cafwyd 16,958 o ffurflenni heb gosbau am fod yn hwyr. (Gan mai dydd Gwener oedd 15 Mai, roedd yn bosib cyflwyno SAF heb gosb hwyr dros benwythnos 16-17 Mai.) Daeth 105 o ffurflenni SAF i law yn y cyfnod cosbau hwyr a barodd tan 9 Mehefin. Mae hyn yn llai o ffurflenni hwyr na blynyddoedd cynt. Roedd 17,063 o ffurflenni SAF wedi’n cyrraedd erbyn diwedd 9 Mehefin.
Mae ychydig llai o ffurflenni SAF wedi dod i law na’r blynyddoedd diwethaf. Hynny yn rhannol oherwydd cynyddu’r arwynebedd lleiaf sy’n gymwys am y Taliad Sylfaenol i 5 hectar ond mae’n dilyn patrwm y blynyddoedd diweddar. (Cofiwch, gallai’r ffigur terfynol newid gan nad yw pob hawliad o’r gwledydd eraill wedi’u pasio i Taliadau Gwledig Cymru eto.)
Rwy’n falch bod 72% o’r ffurflenni SAF sydd wedi’u cyflwyno wedi’n cyrraedd ar-lein. Mae hyn yn dipyn o gamp ac yn argoeli’n dda ar gyfer y nod o 100% ar-lein flwyddyn nesaf.
Rwy’n gwybod nad bychan fu cyfraniad undebau’r ffermwyr a’u hasiantwyr at y llwyddiant hwn. Buon nhw’n gweithio oriau hir i helpu ffermwyr i lenwi’u ffurflenni. Am hyn, rwy’n ddiolchgar iawn.
Mae’r llwyddiant hwn yn cyfiawnhau fy mhenderfyniad i gadw 15 Mai fel y dyddiad cau a bydd yn ein helpu i dalu ffermwyr mor fuan yn y cyfnod talu â phosibl.
Rwy’n pwyso ar ffermwyr sy’n derbyn ymholiadau gan Taliadau Gwledig Cymru i ateb y cwestiynau hynny cyn gynted fyth ag y medrant, er mwyn inni allu dechrau talu rhan-daliadau mor fuan â phosibl ar ôl dechrau cyfnod talu’r CE ym mis Rhagfyr 2015. Yn ôl rheolau’r UE, rhaid sicrhau bod y mesurau rheoli i gyd wedi’u cyflawni cyn dechrau talu unrhyw beth. Mae hynny’n cynnwys archwiliadau ar y fferm ac o bell, sicrhau bod y tir yr hawlir arno a hawlwyr yn gymwys a chadw golwg ar y rheolau Gwyrddu a ffermwyr actif newydd.