Jane Hutt, Y Gweinidog Cyllid
Yn fy Natganiad Ysgrifenedig ar 11 Ebrill, fe gyfeiriais at rai cerrig milltir pwysig y byddem yn eu cyrraedd dros gyfnod y Pasg mewn perthynas â Rhaglenni newydd Cronfeydd Strwythurol 2014-2020 ar gyfer Cymru. Mae'n falch gennyf eich hysbysu ein bod wedi cyrraedd y cerrig milltir, ac i Gytundeb drafft Partneriaeth y DU gael ei gyflwyno i'r Comisiwn Ewropeaidd gan Lywodraeth y DU ar 17 Ebrill. Bu hynny yn ei dro'n galluogi cyflwyno Rhaglenni Gweithredol drafft y Cronfeydd Strwythurol (2014-2020) ar gyfer Cymru ar yr un diwrnod. Fel canlyniad, o'r diwedd rydym mewn sefyllfa i ddechrau trafodaethau ffurfiol â'r Comisiwn Ewropeaidd.
Yn dilyn adolygiad pellach Llywodraeth y DU o ddyraniadau arfaethedig y Cronfeydd Strwythurol ar gyfer y DU, rwy wedi derbyn cadarnhad bod y dyraniadau ariannol ar gyfer Cymru heb newid a'u bod tua €2.4bn o hyd (sef tua £2bn). O'r dyraniadau hyn, argymhellir y bydd tua €2bn yn cael ei dyrannu i Orllewin Cymru a'r Cymoedd, fel rhanbarth llai datblygedig, a'r gweddill (tua €400m) yn cael ei ddyrannu i Ddwyrain Cymru. Er y bydd angen i'r dyraniadau rhanbarthol hyn gael eu cymeradwyo gan y Comisiwn Ewropeaidd, fel rhan o drafodaethau Cytundeb Partneriaeth y DU, maent yn amlwg yn creu buddsoddiad sylweddol dros y saith mlynedd nesaf sydd i'w groesawu ac a fydd yn helpu i gefnogi swyddi a thwf ar hyd a lled Cymru.
Bydd yr Adran Busnes, Arloesi a Sgiliau'n cyhoeddi Cytundeb drafft Partneriaeth y DU ar ei gwefan yfory, 29 Ebrill 2014 (dolen allanol, Saesneg yn unig). Gellir gweld y Rhaglenni Gweithredol diweddaraf ar gyfer Cymru drwy wefan Swyddfa Cyllid Ewropeaidd Cymru.
Bydd y dogfennau drafft hyn bellach yn destun trafodaethau ffurfiol â'r Comisiwn Ewropeaidd, ac felly gallent newid fel rhan o'r broses honno. Mae hynny'n debygol o ddigwydd mewn perthynas â'r wybodaeth ariannol strategol sy'n cael ei chyflwyno yng Nghytundeb drafft Partneriaeth y DU, sydd, yn y cam hwn o'r broses, yn dangos yr hyn yr ydym yn anelu at ei gyflawni ar gyfer Cronfeydd Strwythurol a Buddsoddi Ewropeaidd yn y DU yn erbyn “Amcanion Thematig*” y Comisiwn yn ôl yr hyn a bennir gan amcanion Ewrop 2020 ar gyfer swyddi a thwf, a gofynion rheoleiddio Cronfeydd Strwythurol a Buddsoddi Ewropeaidd ar gyfer cydgasglu mewn modd thematig.
Mae gwaith helaeth gyda phartneriaid yng Nghymru dros y ddwy flynedd ddiwethaf wedi llywio'r gwaith o ddatblygu'r blaenoriaethau unigol yn Rhaglenni Gweithredol Cymru, y cytunwyd arnynt gan Weinidogion Cymru y llynedd. Bellach, bydd y blaenoriaethau hynny'n cael eu trafod yn fanwl â'r Comisiwn. Bydd y dyraniadau ariannol ar lefel pob blaenoriaeth ar gyfer y rhaglenni newydd yn cael eu cyhoeddi pan fydd y trafodaethau â'r Comisiwn yn dod i ben.
Rwy'n hyderus y bydd y trafodaethau anffurfiol cadarnhaol y mae Llywodraeth Cymru wedi'u cynnal hyd yma yn arwain at gytundeb cynnar ar gyfer ein rhaglenni.

*Mae'r Comisiwn Ewropeaidd yn diffinio Amcanion Thematig yn feysydd y mae'n rhaid neilltuo'r buddsoddiad iddynt. Mae hefyd yn ffordd o drefnu gweithgareddau'r rhaglenni er mwyn caniatáu cydgasgliad o'r data ar lefelau'r Aelod-wladwriaethau ac EU-28. Nid yw'r rhain yn cyfateb i'r Echelau Blaenoriaeth sydd wedi'u cynnwys yn y Rhaglenni Gweithredol, ond gallant roi syniad bras o'r dyraniadau ariannol.