Neidio i'r prif gynnwy

Jeremy Miles AS, Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi, Ynni a’r Gymraeg

Cyhoeddwyd gyntaf:
15 Gorffennaf 2024
Diweddarwyd ddiwethaf:

Heddiw, gosodais Fil y Gymraeg ac Addysg (Cymru) gerbron y Senedd. 

Rydym wedi ymrwymo i gyfrannu at y nod o gael miliwn o siaradwyr Cymraeg erbyn 2050.  Bydd y Bil yn cyflawni’r nod hynny drwy geisio sicrhau bod pob disgybl yn cyrraedd diwedd oedran ysgol gorfodol yn ddefnyddiwr Cymraeg annibynnol, o leiaf. Yn benodol, yr amcan yw i bob disgybl feithrin sgiliau llafar sydd gyfystyr â lefel B2, o leiaf, o’r Fframwaith Cyfeirio Cyffredin Ewropeaidd ar gyfer Ieithoedd.

Yn gryno, bydd prif ddarpariaethau’r Bil:

  • yn rhoi sail statudol i’r targed o gael miliwn o siaradwyr Cymraeg erbyn 2050, yn ogystal â thargedau eraill yn ymwneud â defnyddio’r iaith, gan gynnwys yn y gweithle ac yn gymdeithasol;
  • yn sefydlu dull safonol ar gyfer disgrifio gallu yn y Gymraeg ar sail lefelau cyfeirio cyffredin y Fframwaith Cyfeirio Cyffredin Ewropeaidd ar Ieithoedd;
  • yn gwneud darpariaeth ynghylch dynodi categorïau iaith statudol ar gyfer ysgolion, ynghyd â gofynion o ran swm yr addysg Gymraeg a ddarperir (yn cynnwys isafswm), a nodau dysgu Cymraeg sydd ynghlwm wrth y categorïau;
  • yn cysylltu’r cynllunio ieithyddol a wneir ar lefel genedlaethol (drwy osod dyletswydd ar Weinidogion Cymru i lunio Fframwaith Cenedlaethol ar Addysg Gymraeg a Dysgu Cymraeg), ar lefel awdurdod lleol (drwy osod dyletswydd ar awdurdodau lleol i lunio Cynlluniau Strategol Lleol Cymraeg mewn Addysg), ac ar lefel ysgol (drwy osod dyletswydd ar ysgolion i lunio cynlluniau cyflawni addysg Gymraeg);
  • yn sefydlu corff statudol, sef yr Athrofa Dysgu Cymraeg Genedlaethol, fydd yn gyfrifol am gefnogi pobl (o bob oedran) i ddysgu Cymraeg.

Byddaf yn gwneud datganiad deddfwriaethol yn y Cyfarfod Llawn yfory, gan roi mwy o fanylion am y Bil. 

Edrychaf ymlaen at weithio gydag Aelodau wrth i'r Senedd graffu ar y Bil.