Mark Drakeford, Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid a Llywodraeth Leol
Heddiw, mae Bil Treth Trafodiadau Tir a Gwrthweithio Osgoi Trethi Datganoledig (Cymru), ynghyd â Memorandwm Esboniadol, wedi cael eu gosod gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru.
Bydd y bil yn sefydlu treth newydd ar drafodiadau tir, a'n bwriad yw disodli Treth Dir y Dreth Stamp yng Nghymru gyda'r dreth newydd hon o fis Ebrill 2018. Awdurdod Cyllid Cymru fydd yn ymgymryd â'r holl swyddogaethau casglu a rheoli mewn perthynas â'r Dreth Trafodiadau Tir.
Cafodd fersiwn ddrafft o'r bil ei chyhoeddi ym mis Gorffennaf i roi cyfle i Aelodau'r Cynulliad a rhanddeiliaid eraill sydd â buddiant ymgyfarwyddo â’r darn hir a thechnegol hwn o ddeddfwriaeth.
Mae Llywodraeth Cymru wedi ymgynghori'n eang ar gynllun a datblygiad y Dreth Trafodiadau Tir. Mae rhanddeiliaid wedi galw am gysondeb â Threth Dir y Dreth Stamp oni bai bod achos dros wella effeithlonrwydd ac effeithiolrwydd, neu fynd i’r afael ag anghenion a blaenoriaethau sy’n unigryw i Gymru. Dyma'r trywydd y mae’r bil yn ei ddilyn – ni fydd unrhyw newid dim ond er mwyn newid.
Mae'r bil yn cadw prif elfennau Treth Dir y Dreth Stamp, gan gynnwys yr ymagwedd at bartneriaethau, ymddiriedolaethau a chwmnïau, a'r un ymagwedd yn gyffredinol hefyd at ryddhadau ac eithriadau. Mae hyn yn rhoi cysondeb a bydd yn golygu bod y broses o drosglwyddo yn un ddidrafferth i’r farchnad eiddo.
Bydd cyfraddau a bandiau y Dreth Trafodiadau Tir yn cael eu pennu drwy is-ddeddfwriaeth tua mis Ebrill 2018, er mwyn adlewyrchu’r economi a’r farchnad eiddo y pryd hynny. Bydd papur ymchwil yn cael ei gyhoeddi cyn hir a fydd yn rhoi mwy o gefndir cyfraddau a bandiau’r Dreth Dir y Dreth Stamp bresennol yng Nghymru a Lloegr a'r Dreth Trafodiadau Tir ac Adeiladau yn yr Alban. Bydd y papur hefyd yn trafod y materion y bydd angen eu hystyried yng Nghymru, gan gynnwys y cyd-destun economaidd ehangach, wrth bennu cyfraddau a bandiau’r Dreth Trafodiadau Tir.
Bydd trethi yng Nghymru yn deg ac yn symlach; byddant yn rhoi sefydlogrwydd a sicrwydd i drethdalwyr a byddant yn cefnogi gwasanaethau cyhoeddus, swyddi a thwf.
Rwy'n edrych ymlaen at weithio gyda'r Cynulliad Cenedlaethol ar ddarpariaethau'r bil hwn yn ystod y broses graffu dros y misoedd sydd i ddod.
Mae rhagor o wybodaeth am y bil i'w chael mewn taflen ffeithiau.