Neidio i'r prif gynnwy

Mark Drakeford, Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid a Llywodraeth Leol

Cyhoeddwyd gyntaf:
28 Tachwedd 2016
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Cyflwynwyd Bil Treth Gwarediadau Tirlenwi (Cymru) a Memorandwm Esboniadol cysylltiedig gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru heddiw.

Bydd y Bil yn sefydlu treth newydd ar warediadau gwastraff i safleoedd tirlenwi a fydd yn disodli'r dreth dirlenwi yng Nghymru ym mis Ebrill 2018. Bydd yn sicrhau bod y refeniw a geir o'r dreth dirlenwi yn parhau i gael ei gasglu a'i fuddsoddi mewn gwasanaethau cyhoeddus yng Nghymru

Mae'r dreth yn cydnabod cost amgylcheddol gwaredu gwastraff mewn safleoedd tirlenwi, gan annog mwy o arbed, ailddefnyddio, ailgylchu ac adfer gwastraff. Bydd y dreth gwarediadau tirlenwi yn ein helpu i gyrraedd ein nod uchelgeisiol o sicrhau Cymru ddiwastraff.

Mae Llywodraeth Cymru wedi ymgysylltu'n eang â  rhanddeiliaid drwy gydol y broses o ddatblygu'r dreth gwarediadau tirlenwi Bydd y dreth yn gyson ar y cyfan â’r dreth dirlenwi bresennol. Bydd y prosesau debyg, yn ogystal â'r dull gweithredu o ran cyfraddau’r dreth. Bydd hynny'n darparu sefydlogrwydd a sicrwydd i fusnesau ac yn lleihau’r posibilrwydd o dwristiaeth gwastraff.

Fodd bynnag, mewn ymateb i farn rhanddeiliaid, y nod wrth gynllunio'r  ddeddfwriaeth hon oedd iddi fod yn syml ac eglur i'w rhoi ar waith; mae'n adlewyrchu arferion sydd wedi hen sefydlu; mae'n gyfredol ac mae'n berthnasol i Gymru.

Mae'r Bil yn dod â gwarediadau gwastraff heb eu hawdurdodi o fewn cwmpas y dreth gwarediadau tirlenwi, gan gael gwared ar lwybr posibl ar gyfer osgoi trethi. Nod hyn yw atal gwarediadau gwastraff heb eu hawdurdodi drwy gynyddu'r risg ariannol sy'n gysylltiedig â gwaredu gwastraff mewn mannau heblaw safle tirlenwi awdurdodedig.

Awdurdod Cyllid Cymru (ACC) fydd yn casglu a rheoli'r dreth gwarediadau tirlenwi, a bydd Cyfoeth Naturiol Cymru (CNC) yn chwarae rhan allweddol o ran y gwaith cydymffurfio a gorfodi. Drwy hyn, bydd profiad a gwybodaeth CNC o'r diwydiant tirlenwi a'r cysylltiadau y mae wedi'u meithrin gyda gweithredwyr safleoedd tirlenwi o fantais i ACC.

Bydd rhywfaint o'r refeniw o'r dreth gwarediadau tirlenwi yn cael ei neilltuo i Gynllun Cymunedol y Dreth Gwarediadau Tirlenwi, a fydd yn hybu bioamrywiaeth, lleihau gwastraff a phrosiectau i wella'r amgylchedd. Byddaf yn cyhoeddi papur a fydd yn cynnwys rhagor o fanylion am ddatblygiad y cynllun hwn.

Mae Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo i wneud trethi Cymru yn deg ac yn syml; byddant yn darparu sefydlogrwydd a sicrwydd i drethdalwyr ac yn cefnogi gwasanaethau cyhoeddus, swyddi a thwf. Edrychaf ymlaen at gydweithio â'r Cynulliad Cenedlaethol wrth iddo graffu ar Fil Treth Gwarediadau Tirlenwi (Cymru) dros y misoedd nesaf.

Mae taflen ffeithiau sy'n cynnwys rhagor o wybodaeth am y Bil ar gael yn http://gov.wales/docs/caecd/publications/161128-LDT-leaflet-cy.pdf