Neidio i'r prif gynnwy

Jeff Cuthbert, Y Gweinidog Cymunedau a Threchu Tlodi

Cyhoeddwyd gyntaf:
7 Gorffennaf 2014
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2011 i 2016

Cafodd Bil Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) 2014 ('y Bil') ei osod heddiw, 7 Gorffennaf 2014.


Mae Bil Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol yn cryfhau’r trefniadau llywodraethu presennol o fewn sefydliadau sector cyhoeddus penodol ar gyfer gwella llesiant Cymru. Mae’r Bil yn sicrhau bod anghenion cenedlaethau'r presennol yn cael eu diwallu heb beryglu gallu cenedlaethau'r dyfodol i ddiwallu eu hanghenion eu hunain. Bydd hyn yn digwydd drwy osod yr egwyddor datblygu cynaliadwy mewn cyfraith.

 
Fframwaith cryfach i sicrhau Cymru gynaliadwy


Mae'r Bil yn darparu cyfres o nodau llesiant tymor hir i Gymru. Mae'r rhain ar gyfer Cymru lewyrchus; gydnerth; iachach; mwy cyfartal; â chymunedau cydlynus; a diwylliant bywiog lle mae'r Gymraeg yn ffynnu. Drwy eu gosod mewn deddfwriaeth byddwn yn darparu diffiniad clir o'r Gymru a garem - Cymru gynaliadwy, ac yn helpu i gynnig y cysondeb a'r sicrwydd tymor hir sydd eu hangen i fynd i'r afael â'r heriau ar draws y cenedlaethau sydd o'n blaen, er enghraifft y newid yn yr hinsawdd, trechu tlodi ac anghydraddoldebau iechyd.


Bydd y Bil yn ei gwneud yn ofynnol i Weinidogion Cymru osod dangosyddion cenedlaethol i fesur cynnydd tuag at gyflawni'r nodau llesiant, ac adrodd yn eu cylch yn flynyddol. Mae'r Bil yn cadarnhau nod cyrff cyhoeddus i wella llesiant economaidd, cymdeithasol ac amgylcheddol Cymru, yn unol â'r egwyddor datblygu cynaliadwy.

 
Cyflawni'r nodau - awdurdodau cyhoeddus penodol


Er mwyn sicrhau cynnydd, mae'r Bil yn rhoi dyletswydd ar bob awdurdod cyhoeddus a enwir i osod amcanion sydd wedi'u llunio i gyfrannu cymaint â phosib tuag at gyflawni'r nodau llesiant. Bydd hyn yn golygu canolbwyntio mwy ar yr hyn y mae’r awdurdodau cyhoeddus yn ceisio'i gyflawni er mwyn gwella llesiant economaidd, cymdeithasol ac amgylcheddol pobl Cymru, ar gyfer cenedlaethau'r presennol a'r dyfodol.


Wrth osod ac yna cymryd camau i gyflawni'r amcanion, bydd gofyn i gyrff cyhoeddus wneud hynny mewn ffordd sy'n gyson â'r egwyddor datblygu cynaliadwy, yn ôl y diffiniad o ddatblygu cynaliadwy sydd wedi'i gydnabod a'i dderbyn yn rhyngwladol.


Bwriedir i'r egwyddor ddylanwadu ar drefn lywodraethu sefydliad er mwyn iddo gyflawni ei amcanion llesiant yn y ffordd orau bosibl, ac o ganlyniad gwneud y cyfraniad mwyaf posibl i sicrhau Cymru gynaliadwy.


Meddwl yn y tymor hir - – sicrhau cydbwysedd rhwng yr angen i fynd i’r afael â phroblemau cyfredol (tymor byr) a’r angen i ddiwallu anghenion tymor hir Cymru.  Mae hyn yn arbennig o berthnasol lle gallai gweithredu ar gyfer y tymor byr gael effaith andwyol yn y dyfodol.


Gweithio mewn ffordd integredig - ystyried sut y gallai amcanion llesiant corff effeithio ar dair agwedd llesiant sydd i'w gweld yn y Bil (ein hamgylchedd, ein heconomi a'n cymdeithas - pobl a chymunedau), ac ystyried sut gall amcanion llesiant effeithio ar y nodau llesiant, hefyd sut mae'r amcanion llesiant yn effeithio ar ei gilydd ac yna ar amcanion cyrff cyhoeddus eraill.


Ymgysylltu - cynnwys pobl a chymunedau â buddiant yn yr amcanion llesiant, a'u cynnwys yn y gwaith o chwilio am atebion cynaliadwy.


Cydweithio - gweithio ar y cyd gyda chyrff eraill, neu wahanol rannau o'r corff yn gweithio gyda'i gilydd, er mwyn helpu i gyflawni amcanion y corff, neu amcanion corff arall.

 
Camau Ataliol - defnyddio adnoddau i weithredu nawr er mwyn atal problemau rhag codi neu waethygu.


Bydd y Bil yn sicrhau bod awdurdodau cyhoeddus penodol yn fwy tryloyw, drwy ei gwneud yn ofynnol iddynt egluro'n flynyddol y cynnydd a wnaed tuag at gyflawni'r amcanion llesiant, sydd eu hunain yn cyfrannu at nodau llesiant Cymru. Bydd hefyd yn ei gwneud yn ofynnol i'r cyrff ddatgan sut maent yn bwriadu llywodraethu eu hunain a sicrhau bod adnoddau'n cael eu dyrannu'n flynyddol i gyflawni'r ddyletswydd.


Cefnogi'r newid a diogelu buddiannau cenedlaethau'r dyfodol yng Nghymru
Bydd y Bil yn sefydlu Comisiynydd Cenedlaethau'r Dyfodol ar gyfer Cymru, er mwyn hyrwyddo'r egwyddor datblygu cynaliadwy a monitro ac asesu hynt yr amcanion llesiant a osodir gan yr awdurdodau cyhoeddus penodol. Bydd y Comisiynydd yn helpu'r cyrff hyn i weithredu gofynion y Bil a sefydlu datblygu cynaliadwy fel egwyddor ganolog. Bydd y Comisiynydd yn gallu gofyn i'r cyrff cyhoeddus hyn am wybodaeth ac yn gallu gwneud argymhellion iddynt, a bydd gofyn iddynt ymateb.


Diwygio cynlluniau cymunedol integredig
Bydd y Bil yn newid y ffordd yr eir ati i gynnal cynlluniau cymunedol integredig trwy roi sail statudol iddi.  Bydd y darpariaethau ar gyfer sefydlu a gweithredu Byrddau Gwasanaethau Cyhoeddus yn ymdrin â sut y bydd aelodau’r Byrddau’n asesu llesiant economaidd, cymdeithasol ac amgylcheddol eu dalgylchoedd ac yn gweithio gyda’i gilydd i wella llesiant y dalgylchoedd hynny a’r bobl a’r cymunedau a geir ynddynt.


Bwriad y diwygiadau yw lleihau nifer y cynlluniau a strategaethau trwy alluogi aelodau’r Byrddau Gwasanaethau Cyhoeddus i ymgorffori nifer ohonynt yn eu cynlluniau llesiant lleol.  Bydd hynny hefyd yn gwella’r ffordd y bydd aelodau’r Byrddau’n mabwysiadu a gweithredu cynlluniau a strategaethau o’r fath, gan eu rhoi yr un pryd o fewn fframwaith o amcanion a dangosyddion cenedlaethol.  Bydd y Bil hefyd yn gwneud partneriaethau’n fwy atebol i ddemocratiaeth leol.

 
Siarter Datblygu Cynaliadwy


Er nad yw’r Bil yn gosod nodau ar gyfer cyrff y tu allan i’r sector cyhoeddus, gall y Siarter Datblygu Cynaliadwy helpu sefydliadau cyhoeddus, trydydd sector a phreifat i gydweithio gan ei bod yn ymgorffori’r un egwyddor datblygu cynaliadwy â’r Bil. Mae gan y Siarter dros 200 o aelodau ac mae’n parhau i dyfu. Yn y dyfodol, gobeithio y bydd y Siarter yn parhau i ysgogi cynaliadwyedd, dysg ac arloesi – gan wneud cyfraniad cryf i’r Gymru a Garem.