Huw Irranca-Davies, y Gweinidog dros Blant a Gofal Cymdeithasol
Heddiw, mae Bil Cyllido Gofal Plant (Cymru) a'r Memorandwm Esboniadol wedi cael eu cyflwyno i Gynulliad Cenedlaethol Cymru.
Gwyddom fod cost gofal plant yn bryder mawr i rieni sy'n gweithio, a'i fod yn dreth ar ansawdd bywyd y teulu ac ar gyllideb yr aelwyd. Rydym wedi gwrando ar y pryderon hyn ac ar rieni sy'n dweud bod y costau hyn yn rhwystr sy'n eu hatal rhag dychwelyd i fyd gwaith neu rhag dod yn eu blaenau yn y gwaith.
Gan fod yr elfen gofal plant o'r 30 awr wedi’i hanelu at rieni sy'n gweithio, mae angen dull i rieni allu gwneud cais am y Cynnig a chlywed a ydynt yn gymwys ai peidio. Rydw i'n awyddus i sefydlu system genedlaethol ar gyfer rheoli ceisiadau am y Cynnig Gofal Plant a gwneud y gwiriadau cymhwystra angenrheidiol. Bydd cynigion y Bil hwn yn ein galluogi ni i gyflawni'r amcan hwn.
Mae'r Bil yn rhoi'r pŵer i Weinidogion Cymru ddarparu cyllid ar gyfer gofal plant i blant cymwys 3 a 4 oed rhieni sy'n gweithio ac i wneud rheoliadau ynghylch y trefniadau ar gyfer gweinyddu a gweithredu cyllid o'r fath.
Bydd y Bil hwn yn galluogi Gweinidogion Cymru i gael mynediad at wybodaeth sy'n berthnasol i wneud penderfyniad ynghylch cymhwystra rhywun i gael y cyllid. Cyllid a Thollau Ei Mawrhydi, y Swyddfa Gartref a'r Adran Gwaith a Phensiynau sy'n dal yr wybodaeth hon, yn bennaf.
Bydd rheoliadau a wneir o dan y Bil yn pennu'r wybodaeth y bydd yn rhaid i ymgeiswyr ei darparu i gefnogi eu cais am gyllid a bydd yn esbonio sut i wneud ceisiadau. Bydd rheoliadau a wneir o dan y Bil hefyd yn pennu cosbau a sancsiynau i'w gosod pan fydd ymgeiswyr yn darparu gwybodaeth anwir, gamarweiniol neu anonest neu petai unrhyw wybodaeth sensitif a ddarperir gan drydydd partïon yn cael ei datgelu'n anghyfreithlon. Hefyd, bydd y Bil yn ei gwneud yn bosibl i Weinidogion Cymru sefydlu trefniadau a fydd yn galluogi ymgeiswyr i ofyn am adolygu penderfyniadau ynghylch eu cymhwystra, neu benderfyniadau ynghylch cosbau.
Yn amodol ar basio'r Bil, rhagwelir y bydd Cyllid a Thollau Ei Mawrhydi yn gweinyddu'r cynllun. Byddant yn derbyn ceisiadau ac yn gwirio cymhwystra ar gyfer Cynnig Gofal Plant Cymru.
Bydd y Bil hwn yn darparu ateb technegol i'r broblem o reoli a phrosesu ceisiadau am y Cynnig Gofal Plant, gan ysgafnhau rhywfaint o'r baich o ran amser a gweinyddiaeth ar rieni ac awdurdodau lleol.
Byddaf yn gwneud Datganiad Llafar yn y Cyfarfod Llawn yfory.