Jeremy Miles AS, Gweinidog y Gymraeg ac Addysg
Heddiw, gosodwyd Bil Addysg Drydyddol ac Ymchwil (Cymru) a'r Memorandwm Esboniadol gerbron Senedd Cymru.
Mae’r Bil hwn wedi bod yn destun ymgynghori ac ymgysylltu helaeth â'r cyhoedd a rhanddeiliaid. Mae'n sefydlu Comisiwn Addysg Drydyddol ac Ymchwil newydd fel corff hyd braich, ac yn diddymu Cyngor Cyllido Addysg Uwch Cymru.
Bydd y Comisiwn yn gyfrifol am y sector addysg drydyddol cyfan yng Nghymru, gyda chyfrifoldeb cyfreithiol am gyllido, goruchwylio ac ansawdd addysg drydyddol yng Nghymru ynghyd â chofrestru darparwyr. Bydd hyn yn dod ag addysg uwch, addysg bellach, chweched dosbarth ysgolion a gynhelir gan awdurdodau lleol, prentisiaethau a dysgu oedolion yn y gymuned, yn ogystal â’r cyfrifoldeb am ymchwil ac arloesi, ynghyd mewn un lle.
Un o brif amcanion sefydlu'r Comisiwn yw cael un stiward cenedlaethol o sector addysg drydyddol ac ymchwil Cymru. Wrth gyflawni'r amcan hwn, mae'r Bil yn gosod naw dyletswydd strategol ar y Comisiwn i:-
(a) annog pobl i gymryd rhan mewn addysg drydyddol
(b) hyrwyddo:
- dysgu gydol oes
- cyfle cyfartal
- gwelliant parhaus mewn addysg drydyddol ac ymchwil
- cydweithio a chydlyniad mewn addysg drydyddol ac ymchwil
- addysg drydyddol drwy gyfrwng y Gymraeg
- cenhadaeth ddinesig
- rhagolygon byd-eang
(c) cyfrannu at economi gynaliadwy ac arloesol.
Mae'n ofynnol i Weinidogion Cymru nodi'r blaenoriaethau strategol ar gyfer addysg drydyddol ac ymchwil mewn datganiad o flaenoriaethau. Ynghyd â'r dyletswyddau uchod, mae'r rhain yn sefydlu'r fframwaith cynllunio strategol ar gyfer y Comisiwn. Mewn ymateb i hyn, mae'n ofynnol iddo ddatblygu, ymgynghori ar gynllun strategol ar gyfer addysg drydyddol ac ymchwil sy'n nodi sut y bydd yn cyflawni ei ddyletswyddau ac yn mynd i'r afael â blaenoriaethau Gweinidogion Cymru, ac wedyn ei gyhoeddi.
Mae'r Bil yn ei gwneud yn ofynnol i'r Comisiwn hyrwyddo gwelliant parhaus yn ansawdd a safonau addysg a hyfforddiant yn y sector addysg drydyddol ac ymchwil, gan greu dull cyson sy'n seiliedig ar ansawdd drwy egwyddorion a rennir a chydweithredu. Mae'r Bil yn gosod dyletswyddau ar y Comisiwn mewn perthynas ag addysg drydyddol cyfrwng Cymraeg, a thrwy ei bwerau cyllido caiff ei alluogi i ehangu'r dewis i ddysgwyr astudio drwy gyfrwng y Gymraeg. Mae'r Bil yn ei gwneud yn ofynnol i Weinidogion Cymru a'r Comisiwn roi sylw i bwysigrwydd diogelu rhyddid academaidd darparwyr addysg uwch yng Nghymru a rhyddid i lefaru staff academaidd yn y darparwyr hyn wrth arfer eu swyddogaethau o dan y Bil.
Bydd yn ofynnol i'r Comisiwn weithredu model cofrestru newydd ar gyfer darparwyr addysg drydyddol. Bydd y model newydd yn fecanwaith hyblyg ar gyfer goruchwylio'r sector addysg drydyddol mewn ffordd gymesur ac atebol. Drwy reoliadau, bydd categorïau cofrestru a phob un ohonynt ag amodau, gan gynnwys amodau’n ymwneud ag ansawdd addysg, llywodraethiant a rheolaeth sefydliadau a’u cynaliadwyedd ariannol, a hyrwyddo cyfle cyfartal a mynediad mewn addysg drydyddol. Mae'r Bil yn galluogi'r Comisiwn i gyllido darparwyr cofrestredig ar gyfer gweithgareddau addysg uwch ac ymchwil ac arloesi, yn ogystal â chyrff sy'n cydweithredu â darparwyr cofrestredig.
Mae'r Bil yn rhoi dysgwyr wrth wraidd y diwygiadau ac yn cynnwys darpariaethau penodol i'w diogelu pan fo angen, yn ogystal â chyflwyno gofyniad i'r Comisiwn baratoi ac ymgynghori ar god newydd ar gyfer ymgysylltu â dysgwyr ar draws yr holl sector addysg drydyddol a'i gyhoeddi.
Mae'r Bil yn ei gwneud yn ofynnol i'r Comisiwn sicrhau cyfleusterau priodol ar gyfer addysg 16-19, ac am y tro cyntaf yng Nghymru mae'n creu dyletswydd i sicrhau cyfleusterau priodol ar gyfer addysg neu hyfforddiant penodedig i oedolion cymwys, gan ddangos ein hymrwymiad i ehangu dysgu gydol oes.
Mae'r Bil hefyd yn creu pŵer annibynnol newydd i'r Comisiwn gyllido prentisiaethau yn yr un modd ag addysg drydyddol arall. Pen draw hyn fydd system sy’n ymateb yn well i anghenion dysgwyr, yr economi a chyflogwyr. Mae'r Comisiwn wedi'i alluogi i gyllido’r gwaith o baratoi fframweithiau prentisiaethau Cymru yn ogystal â darparu prentisiaethau Cymreig cymeradwy yng Nghymru. Drwy ddiwygio’r broses ar gyfer cynllunio a goruchwylio ein fframweithiau prentisiaethau, mae’r Bil yn creu’r cyfle iddynt fod yn hyblyg ac yn addas i’w diben.
Mae'r Bil yn galluogi'r Comisiwn i gasglu, prosesu, cysylltu, dadansoddi ac adrodd ar ddata mewn perthynas â'r sector addysg drydyddol cyfan. Bydd y Comisiwn yn gallu goruchwylio gwaith a pherfformiad y sector, pennu a monitro ei flaenoriaethau strategol a gweithredol, a dosbarthu arian yn unol â'i gyfrifoldebau statudol.
Byddaf yn gwneud datganiad deddfwriaethol yn y Cyfarfod Llawn ddydd Mercher 3 Tachwedd. Mae copi o'r Bil a'i ddogfennau ategol ar gael yma. Edrychaf ymlaen at weithio gyda'r Senedd wrth iddi ystyried Bil Addysg Drydyddol ac Ymchwil (Cymru) dros y misoedd nesaf.